BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 Rhif 2386 (W.197) (Cy.88)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072386w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2386 (W.197) (Cy.88)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 11 Awst 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r awdurdod cenedlaethol priodol[1] gan adrannau 56(1) a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006[2]:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn —

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym at ddibenion penodol
     2. —(1) Mae darpariaethau Deddf 2006 a osodir ym mharagraff (2) yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud i'r graddau y maent yn rhoi pwer, neu'n gosod dyletswydd, ar Weinidogion Cymru—

    (2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Medi 2007
    
3. Mae'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 yn dod i rym ar 6 Medi 2007—

Darpariaethau trosiannol ac arbedion
     4. —(1) Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn caniatáu cais o dan adran 15 o Ddeddf 2006 i gofrestru tir fel maes tref neu bentref cyn bod adran 1 o Ddeddf 2006 wedi dod i rym mewn perthynas â'r man lle lleolir y tir—

    (2) O ran unrhyw ardal o Gymru—

    (3) Pan fo—

rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(b) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.

    (4) O ran unrhyw ardal o Gymru, mae'r cyfeiriad yn adran 45(1) o Ddeddf 2006 at dir sydd wedi'i gofrestru fel tir comin neu faes tref neu bentref i'w ddarllen, hyd nes daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel petai yn gyfeiriad at fod tir wedi'i gofrestru felly o dan Ddeddf 1965.

    (5) Pan fo Comisiynydd Tiroedd Comin, cyn 6 Medi 2007, yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 8(2) neu (3) o Ddeddf 1965 i awdurdod cofrestru gofrestru person fel perchennog tir, ond nad yw'r awdurdod cofrestru yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd cyn y dyddiad hwnnw-

    (6) O ran unrhyw ardal o Gymru, mae adran 13(a) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani[18], yn parhau i gael eu heffaith, hyd nes daw adran 14 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.

    (7) Os, o ran unrhyw dir ac eithrio tir y cyfeirir ato ym mharagraff (6),—

rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(a) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.


Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

11 Awst 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 ("y Ddeddf") o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gyda'r bwriad cyfyngedig o alluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau ac i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwy reoliadau.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau o Ddeddf 2006 a nodir yn yr erthygl honno i rym ar 6 Medi 2007.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion yn ymwneud â'r darpariaethau y daethpwyd â hwy i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

Ymhlith pethau eraill, mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 15 o Ddeddf 2006 i rym, sy'n gwneud darpariaeth newydd ynghylch cofrestru tir yng Nghymru fel maes tref neu bentref, ac sy'n cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion—

Gellir cael gwybodaeth bellach ar y darpariaethau y daw'r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i'r Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn www.opsi.gov.uk.


Notes:

[1] Gweler adran 61(1) o Ddeddf 2006 am ystyr "awdurdod cenedlaethol priodol" ("appropriate national authority"), y mae ei swyddogaethau bellach arferadwy, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.back

[2] 2006 p.26.back

[3] 1965 p.64.back

[4] 1965 p.64; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran189(2) a chan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p.9), Atodlen 11, paragraff 7(1) a (2); diwygiwyd adran 9 gan Ddeddf Cofrestru Tir 2000, Atodlen 11, paragraff 7(1) a (3); diwygiwyd adran 13 gan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1969 (p.59), Atodlen 2, Rhan I.back

[5] 1972 p.70.back

[6] 1985 p.51.back

[7] 1985 p.xxxvii.back

[8] 1989 p.18back

[9] 2000 p.37.back

[10] 2002 p.i.back

[11] 1866 p.122.back

[12] 1876 p.56; diwygiwyd adran 30 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder (Apelau) 1934 (p.40), yr Atodlen, Rhan I a chan Ddeddf Diwygio'r Cyfansoddiad 2005 (p.4), Atodlen 11, Rhan 4, paragraff 13.back

[13] 1899 p.30; diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Adolygu Cyfraith Statud 1908 (p.49).back

[14] 1965 p.56.back

[15] 13 Edw 1 p.46.back

[16] 1893 p.57.back

[17] Mae rheoliad 28 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1969/1843 (mae yna offerynnau diwygio eraill, ond nid oes unrhyw un yn berthnasol), a Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843) wedi'u gwneud o dan adran 13(b).back

[18] Mae rheoliad 27 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/658, yn gwneud darpariaeth o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965.back



English version



ISBN 978 0 11 091609 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 11 September 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072386w.html