BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 2716 (Cy.229)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072716w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2716 (Cy.229)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'i wneud 18 Medi 2007 
  Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Medi 2007 
  Yn dod i rym 10 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1], ac a freiniwyd ynddynt bellach[2]:

Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2007.

    
2. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 10 Hydref 2007.

Diwygiadau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006
    
3. —(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006[3] wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn erthygl 2(1) (dehongli cyffredinol) ar y diffiniad o "Customs Act", mewnosoder—

    (3) Yn erthygl 2(1), yn lle'r diffiniadau o "Directive 93/85/EC" a "Directive 98/57/EC", rhodder—

    (4) Yn erthygl 2(1), yn y diffiniad o "protected zone", o flaen "means" rhodder "otherwise" ac ar ôl "means" dileer "otherwise".

    (5) Yn erthygl 22(2) ar ôl "article 21(1)" rhodder "or" yn lle'r gair "and".

    (6) Yn erthygl 39(2)(c) (darpariaethau amrywiol ar gyfer rhywogaethau mochlysaidd penodol), yn lle "Directive 93/85/EC", rhodder "Directive 93/85/EEC".

    (7) Yn lle paragraff (3) o erthygl 42 (hysbysu o bresenoldeb, neu achos o amau presenoldeb, plâu planhigion penodol), rhodder—

    (8) Yn erthygl 45(1)(a)(xiii), ar ôl 39(1) mewnosoder "to (4)".

    (9) Ar ôl eitem 15 o "Insects, mites and nematodes" yn Atodlen 1 Rhan A mewnosoder —

    (10) Yn eitem 15 "Viruses and virus-like organisms" yn Atodlen 2, Rhan B, rhodder "producers" yn lle'r gair "production".

    (11) Yn Atodlen 4, Rhan A —

    (12) Yn Rhan A (deunydd perthnasol, o drydydd gwledydd, y caniateir ei lanio yng Nghymru ddim ond os caiff gofynion penodol eu bodloni) o Atodlen 4, yn nhrydedd golofn eitem 77, yn lle "a country", rhodder "an area or areas".

    (13) Yn Atodlen 4, Rhan B —

    (14) Ym mharagraff 1(c) o Atodlen 5, Rhan A, yn lle "Capsicum subsp Helianthus annuus L, Lycopersicon lycopersicon (L) Karsten ex Farw," rhodder "Solanaceae, Helianthus annuus L,".

    (15) Ym mharagraff 1 o Atodlen 6, Rhan A ac o Atodlen 7, Rhan A, ar ôl "Amelanchier Med," mewnosoder "Castanea Mill,".

    (16) Ym mharagraff 7(a) o Atodlen 6, Rhan A ac o Atodlen 7, Rhan A, hepgorer "Castanea Mill,".

    (17) Yn Atodlen 16 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli pydredd cylch tatws) —

    (18) Yn Rhan A (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Ralstonia solanacearum) o Atodlen 17—

    (19) Yn Rhan B (darnodi parthau ar gyfer rheoli Ralstonia solanacearum) o Atodlen 17, ym mharagraff 6(a)—


Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlenni 16 a 17 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy.158)) ("y prif Orchymyn"). Mae'r Atodlenni, sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EC (OJ Rhif L 259, 18.10.1993, t.1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EEC (OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t.1), yn cynnwys mesurau arbennig ar reoli Pydredd Cylch Tatws a Ralstonia solanacearum yn ôl eu trefn.

Mae'r diwygiadau i Atodlen 16, yn erthygl 2(6), yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/56/EC (OJ Rhif L 182, 4.7.2006, t.1) sy'n diwygio'r Atodiadau i Gyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC. Yn yr un modd, mae'r diwygiadau i Atodlen 17, yn erthygl 2(7) ac (8), yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/63/EC (OJ Rhif L 206, 27.7.2006, t.36) sy'n diwygio Atodiadau II i VII i Gyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC. Mae'r diwygiadau i'r ddwy Atodlen yn diweddaru gofynion ar gyfer gwaredu deunydd halogedig a deunydd halogedig posibl, ar gyfer y mesurau rheoli sy'n ofynnol mewn mannau cynhyrchu halogedig ac, yn achos Ralstonia solanacearum, ar gyfer mesurau o'r fath o fewn parthau darnodi.

Mae'r Gorchymyn, yn erthygl 2(2) i (5), hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio i'r prif Orchymyn.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.


Notes:

[1] 1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Atodlen 4, paragraff 8.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back

[3] O.S. 2006/1643 (Cy.158).back

[4] OJ Rhif L259, 18.10.1993, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 182, 4.7.2006, t.1.back

[5] OJ Rhif L235, 21.8.1998, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 206, 27.7.2006, t.36.back

[6] OJ Rhif L169, 10.7.2000, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 88, 25.3.2006, t.9.back



English version



ISBN 978 0 11 091645 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 17 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072716w.html