![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007 Rhif 3010 (Cy.261) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073010w.html |
[New search] [Help]
Gwnaed | 22 Hydref 2007 | ||
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru | 23 Hydref 2007 | ||
Yn dod i rym | 22 Hydref 2007 |
Digolledu
2.
—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn achosi i unrhyw anifail gael ei gigydda o dan adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 fel y'i cymhwysir i'r tafod glas gan erthygl 13 o Orchymyn y Tafod Glas 2003[3].
(2) Y digollediad sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru o ran anifail yw gwerth yr anifail ar y farchnad yn union cyn iddo gael ei gigydda pe na bai wedi ei effeithio gan y tafod glas, pe na bai amheuaeth ei fod wedi ei effeithio gan y tafod glas neu pe na bai wedi bod yn agored i gael ei heintio gan y tafod glas.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr "anifail" yw anifail sy'n cnoi cil.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2007
[2] Swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back
[3] O.S. 2003/326 (Cy.47).back