BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 Rhif 3065 (Cy.262) (C.120)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073065w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3065 (Cy.262) (C.120)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Gorchymyn Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007

  Gwnaed 23 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 66(1) a 68(3)(b) a (4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007; a

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn—

Cychwyn y darpariaethau
     2. Daw'r darpariaethau canlynol yn Neddf 2006 i rym ar 24 Hydref 2007—

Arbed codau argymhellion ar gyfer lles da byw a darpariaethau trosiannol
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 3, bydd cod argymhellion ar gyfer lles da byw a ddyroddwyd o dan adran 3 o Ddeddf 1968—

    (2) Ym mharagraff 1(a), ystyr cyfnod trosiannol ar gyfer cod argymhellion yw'r cyfnod rhwng dyfodiad y Gorchymyn hwn i rym a dirymiad y cod argymhellion hwnnw o dan adran 17 o Ddeddf 2006.

    (3) O ran cod argymhellion—


Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006 ("Deddf 2006") a bennir yn erthygl 2 i rym ar 24 Hydref 2007.

Mae erthygl 3 yn arbed codau argymhellion a ddyroddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 ("Deddf 1968") am gyfnodau trosiannol rhwng dyfodiad y Gorchymyn hwn i rym a dirymiad codau unigol sy'n defnyddio'r weithdrefn yn adran 17 o Ddeddf 2006.

Mae erthygl 3(1)(b) yn golygu y gellir adolygu codau a arbedwyd gan ddefnyddio'r weithdrefn yn adrannau 14 a 16 o Ddeddf 2006.

Dim ond i anifeiliaid ar "dir amaethyddol" yr oedd codau a ddyroddwyd o dan Ddeddf 1968 yn gymwys. Mae erthygl 3(3)(a) yn codi'r cyfyngiad hwn fel bod codau a arbedwyd yn gymwys p'un ai yw'r anifail ar dir amaethyddol ai peidio. Mae hyn yn peri bod cymhwyso codau a arbedwyd yn cyfateb i'r rhai hynny a ddyroddwyd o dan Ddeddf 2006.



NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


          

Darpariaeth Dyddiad Cychwyn O.S. Rhif
Adrannau 1–7, 8(1), (2), (7) ac (8), 9 i 12, 13, 17 i 45, 51 i 60, 62, 63, 64 (yn rhannol), 65 (yn rhannol) a 66, Atodlenni 1, 2, 3 (yn rhannol) a 4 (yn rhannol). 27.3.2007 2007/1030 (Cy.97) (C.43)


Notes:

[1] 2006 p. 45 Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back

[2] 1968 p.34back

[3] 1981 p.22back

[4] Gellir cael copïau oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.back



English version



ISBN 978 0 11 091664 4


 © Crown copyright 2007

Prepared 19 November 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073065w.html