BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3078 (Cy.265)
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007
|
Gwnaed |
23 Hydref 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
29 Hydref 2007 | |
|
Yn dod i rym |
19 Tachwedd 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 6(2), (3), (4), (5) a (9)(b) a 114 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007 a daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Tachwedd 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "ardal" ("area") yw ardal llywodraeth leol yng Nghymru;
ystyr "arian partneriaeth" ("partnership monies") yw arian a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru a'r awdurdodau cyfrifol ar gyfer ei wario yn unol â chyfarwyddiadau'r grwp strategaeth er mwyn cynnal llunio a gweithredu'r asesiad strategol a'r cynllun partneriaeth;
ystyr "asesiad strategol" ("strategic assessment") yw asesiad a gaiff ei baratoi yn unol â rheoliadau 5, 6 a 7;
ystyr "awdurdodau cyfrifol" ("responsible authorities") yw'r awdurdodau cyfrifol dros ardal;
ystyr "blwyddyn" ("year") yw cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ebrill;
ystyr "camddefnyddio sylweddau" ("substance misuse") yw camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill;
ystyr "cynllun partneriaeth" ("partnership plan") yw cynllun partneriaeth a gaiff ei baratoi o dan reoliadau 8 a 9;
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998;
ystyr "grŵ p strategaeth" ("strategy group") yw grŵp a sefydlir yn unol â rheoliad 3;
ystyr "personau a chyrff sy'n cydweithredu" ("co-operating persons and bodies") yw personau a chyrff sy'n cydweithredu wrth arfer swyddogaethau awdurdodau cyfrifol o dan adran 5(2)[3] o Ddeddf 1998.
ystyr "personau a chyrff sy'n cymryd rhan" ("participating persons and bodies") yw personau a chyrff a wahoddwyd i gymryd rhan wrth arfer swyddogaethau'r awdurdodau cyfrifol o dan adran 5(3)[4] o Ddeddf 1998; ac
ystyr "pwyllgor trosedd ac anhrefn" ("crime and disorder committee") yw pwyllgor a sefydlir yn unol ag adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006[5].
Swyddogaethau o ran llunio a gweithredu strategaeth
3.
—(1) Mae grwp strategaeth i fod ar gyfer pob ardal a'i swyddogaethau fydd —
(a) paratoi asesiadau strategol; a
(b) paratoi a gweithredu cynllun partneriaeth;
ar gyfer yr ardal honno ar ran yr awdurdodau cyfrifol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) aelodau'r grwp strategaeth fydd un neu fwy o bersonau a benodwyd o bob awdurdod cyfrifol y mae'n rhaid i un ohonynt ddal swydd uwch yn yr awdurdod hwnnw.
(3) Os bydd gan yr awdurdod cyfrifol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(a) o Ddeddf 1998 aelod etholedig sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol mae'r aelod hwnnw i fod yn un o'r personau a benodir o dan baragraff (2).
(4) Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu penodiad cadeirydd, y cyfnod y mae person i wasanaethu fel cadeirydd a'r seiliau y ceir symud cadeirydd o'i swydd yn ystod y cyfnod hwnnw.
(5) Rhaid i'r grwp strategaeth gyfarfod o dro i dro drwy gydol y flwyddyn fel y mae'n barnu sy'n briodol.
(6) O ran cyfarfodydd y grwp strategaeth caiff personau eu mynychu sy'n cynrychioli personau a chyrff sy'n cydweithredu ac yn cymryd rhan ac unrhyw bersonau eraill y mae'r grwp strategaeth yn eu gwahodd.
(7) Ar adeg benodol ym mhob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth ystyried a oes ganddo, a chan y personau hynny yn yr awdurdodau cyfrifol sy'n gweithio gyda'r grwp strategaeth, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
(8) Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu adolygiad o wariant yr arian partneriaeth ac er mwyn asesu cynildeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwariant o'r fath.
Rhannu Gwybodaeth
4.
—(1) Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau cyfrifol a rhaid iddo baratoi protocol sy'n nodi'r trefniadau hynny.
(2) Rhaid i'r protocol rhannu gwybodaeth ymwneud â rhannu gwybodaeth—
(a) o dan adran 17A o Ddeddf 1998[6];
(b) o dan adran 115 o Ddeddf 1998[7]; ac
(c) fel arall at ddibenion llunio a gweithredu asesiad strategol a chynllun partneriaeth ar gyfer yr ardal.
(3) Rhaid i bob awdurdod cyfrifol gydymffurfio â'r protocol a baratoir o dan baragraff (1) ac enwebu person sydd o fewn yr awdurdod hwnnw i hwyluso rhannu gwybodaeth o dan y protocol.
Asesiad Strategol
5.
—(1) Yn ystod pob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth baratoi asesiad strategol ar ran yr awdurdodau cyfrifol.
(2) Diben yr asesiad strategol yw er mwyn cynorthwyo'r grwp strategaeth i adolygu'r cynllun partneriaeth.
6.
Wrth baratoi'r asesiad strategol rhaid i'r grwp strategaeth ystyried—
(a) gwybodaeth a roddir iddo gan awdurdodau cyfrifol;
(b) gwybodaeth a roddir iddo gan bersonau a chyrff sy'n cydweithredu;
(c) gwybodaeth a roddir iddo gan bersonau a chyrff sy'n cymryd rhan;
(ch) gwybodaeth a roddir iddo gan y pwyllgor trosedd ac anhrefn ar gyfer yr ardal;
(d) y cynllun partneriaeth ar gyfer y flwyddyn honno; ac
(dd) unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal a roddir i'r awdurdodau cyfrifol gan bersonau sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.
7.
Rhaid i asesiad strategol gynnwys—
(a) dadansoddiad o lefelau a phatrymau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal;
(b) dadansoddiad o'r newidiadau yn y lefelau a'r patrymau hynny ers yr asesiad strategol blaenorol;
(c) dadansoddiad o'r rhesymau paham mae'r newidiadau hynny wedi digwydd;
(ch) y materion y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth arfer ei swyddogaethau i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal;
(d) y materion mae personau sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal yn ystyried y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth arfer ei swyddogaethau i leihau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal; ac
(dd) asesiad sy'n dangos i ba raddau y gweithredwyd y cynllun partneriaeth ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Cynlluniau partneriaeth
8.
—(1) Rhaid i'r grwp strategaeth baratoi cynllun partneriaeth ar gyfer yr ardal.
(2) Cyn dechrau pob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth adolygu'r cynllun partneriaeth.
(3) Pan adolygir y cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth ystyried yr asesiad strategol a luniwyd yn ystod y flwyddyn cyn y flwyddyn y cyfeirir ati ym mharagraff (2).
9.
Rhaid i'r cynllun partneriaeth nodi —
(a) strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2);
(b) y blaenoriaethau a ganfyddwyd yn yr asesiad strategol a baratowyd yn ystod y flwyddyn cyn y flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2);
(c) y camau y mae'r grwp strategaeth yn ystyried bod angen i'r awdurdodau cyfrifol eu cymryd i weithredu'r strategaeth honno a bodloni'r blaenoriaethau hynny;
(ch) sut y mae'r grwp strategaeth yn ystyried y dylai'r awdurdodau cyfrifol ddyrannu a threfnu eu hadnoddau i weithredu'r strategaeth honno a bodloni'r blaenoriaethau hynny;
(d) y camau y mae'n rhaid i bob awdurdod cyfrifol eu cymryd i fesur ei lwyddiant yn gweithredu'r strategaeth a bodloni'r blaenoriaethau hynny; ac
(dd) y camau y mae'r grwp strategaeth yn bwriadu eu cymryd yn ystod y flwyddyn i gydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan reoliadau 10, 11 a 12.
Gweithio'n Agos gyda'r Gymuned
10.
—(1) At ddibenion paratoi'r asesiad strategol a pharatoi a gweithredu'r cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth wneud trefniadau i gael barn personau a chyrff sy'n byw a gweithio yn yr ardal ynghylch–
(a) y lefelau a'r patrymau o gamddefnyddio sylweddau yn yr ardal; a
(b) y materion y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth iddo arfer ei swyddogaethau i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal.
(2) Rhaid i'r trefniadau o dan baragraff (1), i'r graddau y mae'n rhesymol, ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r canlynol—
(a) personau y mae'n ymddangos i'r grwp strategaeth eu bod yn cynrychioli buddiannau cymaint o grwpiau neu bersonau gwahanol yn yr ardal ag sy'n rhesymol; a
(b) personau y mae'n ymddangos i'r grwp strategaeth eu bod yn cynrychioli buddiannau'r grwpiau neu'r personau hynny yn yr ardal sy'n debygol yr effeithir arnynt yn benodol wrth weithredu'r cynllun partneriaeth.
(3) Wrth wneud y trefniadau o dan baragraff (1) rhaid i'r grwp strategaeth roi sylw i unrhyw ymgynghoriad arall gyda phersonau sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal honno a hwnnw'n ymgynghoriad a gynhelir gan yr awdurdodau cyfrifol o ran y materion a bennir yn is-baragraffau 1(a) a (b) heblaw o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan baragraff (1) ddarparu—
(a) bod y grwp strategaeth yn cynnal un cyfarfod cyhoeddus neu fwy yn ystod pob blwyddyn;
(b) y mynychir y cyfarfodydd hynny gan bersonau sy'n dal swyddi uwch ym mhob un o'r awdurdodau cyfrifol;
(c) bod yn rhaid i'r grwp strategaeth gymryd y camau hynny y mae'n barnu sy'n briodol i ddwyn i sylw personau sy'n byw a gweithio yn yr ardal, neu y gallai fel arall fod ganddynt ddiddordeb, wybodaeth ynghylch—
(i) pryd y cynhelir y cyfarfodydd hynny; a
(ii) yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfodydd hynny.
11.
Wrth baratoi'r cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth ystyried i ba raddau y gall personau sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal gynorthwyo'r awdurdodau cyfrifol i leihau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal.
12.
Rhaid i'r grwp strategaeth gyhoeddi yn yr ardal grynodeb o'r cynllun partneriaeth ar y ffurf y mae'n ystyried sy'n briodol, gan gofio bod angen ei ddwyn i sylw cymaint o grwpiau neu bersonau gwahanol yn yr ardal ag sy'n rhesymol.
Canllawiau
13.
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r awdurdodau cyfrifol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru .
Darpariaethau Trosiannol
14.
—(1) Hyd nes y bydd adran 19 (craffu gan awdurdod lleol ar faterion trosedd ac anhrefn) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 yn cychwyn bydd rheoliad 6 yn effeithiol fe pe bai paragraff (ch) wedi'i hepgor.
(2) Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau 1 Ebrill 2008 yn lle'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adolygu'r cynllun partneriaeth rhodder cyfeiriadau at baratoi'r cynllun partneriaeth.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 5 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ("Deddf 1998") yn rhoi i awdurdodau cyhoeddus penodol ("yr awdurdodau cyfrifol") mewn ardaloedd llywodraeth leol swyddogaethau sy'n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Gyda'i gilydd yr enw ar yr awdurdodau hyn yng Nghymru yw Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (PDCau). Mae adran 6 o Ddeddf 1998 yn gosod rhwymedigaethau ar y PDCau i lunio a gweithredu strategaeth i leihau trosedd ac anhrefn a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach o ran llunio a gweithredu'r strategaeth i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod yn rhaid i'r PDCau ffurfio grwp strategaeth. Rôl y grwp strategaeth fydd paratoi asesiad strategol yn unol â rheoliadau 5 i 7 a pharatoi cynllun partneriaeth yn unol â rheoliadau 8 a 9. Dadansoddiad yw'r asesiad strategol o lefelau a phatrymau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal a'r blaenoriaethau y dylai'r PDCau eu mabwysiadu i fynd i'r afael â'r materion hynny. Mae'r cynllun partneriaeth yn gosod strategaeth ar gyfer bodloni'r blaenoriaethau hynny a sut y dylai'r PDCau weithredu'r strategaeth honno.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys darpariaethau i hwyluso rhannu gwybodaeth yn y PDCau ac i sicrhau bod y PDCau wrth baratoi asesiad strategol a chynllun partneriaeth yn gweithio'n agos gyda'u cymunedau lleol. Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth i'r awdurdodau cyfrifol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Cynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Margaret Hanson, Llywodraeth Cynulliad Cymru; ffôn 01685 72 9086; e-bost: Margaret.Hanson@Wales.gsi.gov.uk.
Notes:
[1]
1998 p.37; amnewidiwyd adran 6 gan adran 22 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p.48) ac Atodlen 9 iddi, ac mae mewn grym ers 19 Tachwedd 2007 (O.S. 2007/3073). Mae diwygiadau eraill i adran 114 o Ddeddf 1998 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[3]
Diwygiwyd adran 5(2) o Ddeddf 1998 gan adran 97 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 (p.30).back
[4]
Diwygiwyd adran 5(3) o Ddeddf 1998 gan adran 97 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002.back
[5]
2006 p.48. Nid yw adran 19 o Ddeddf 2006 mewn grym hyd yn hyn.back
[6]
Mewnosodwyd adran 17A yn Neddf 1998 gan adran 22 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 ac Atodlen 9 iddi ac mae mewn grym ers 19 Tachwedd 2007 (O.S.2007/3073).back
[7]
Diwygiwyd adran 115 gan adran 74 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43) ac Atodlen 7 iddi, adran 97 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002, adran 219 o Ddeddf Tai 2004 (p.34), adran 22 o Ddeddf yr Heddu a Chyfiawnder 2006 ac Atodlen 9 iddi (mae'r diwygiadau hynny mewn grym ers 19 Tachwedd 2007 (O.S. 2007/3073) ac O.S. 2000/90 ac O.S.2002/2469.back
English version
ISBN
978 0 11 091657 6
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
19 November 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073078w.html