BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 Rhif 3165 (Cy.276)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073165w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3165 (Cy.276)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

  Gwnaed 5 Tachwedd 2007 
  Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 28 Tachwedd 2007 


CYNNWYS


RHAN 1

Cyflwyniad
1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Esemptiadau

RHAN 2

Dŵr mwynol naturiol
4. Cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol
5. Datblygu ffynhonnau dŵr mwynol naturiol
6. Triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato
7. Potelu dŵr mwynol naturiol
8. Marcio, labelu a hysbysebu dŵr mwynol naturiol
9. Gwerthu dŵr mwynol naturiol

RHAN 3

Dŵr ffynnon
10. Potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon
11. Marcio, labelu a hysbysebu dwr ffynnon
12. Gwerthu dŵr ffynnon

RHAN 4

Dŵr yfed wedi'i botelu
13. Potelu dŵr yfed
14. Marcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu
15. Gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu

RHAN 5

Amrywiol ac atodol
16. Gorfodi
17. Trefniadau ar gyfer samplau a gymrwyd i'w dadansoddi
18. Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth
19. Dulliau Dadansoddi
20. Tramgwyddau a chosbau
21. Amddiffyniadau
22. Cymhwyso darpariaethau eraill
23. Dirymu

  ATODLEN 1 — Amodau ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn

  ATODLEN 2 — Gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed gan gynnwys crynodiadau a ragnodwyd neu werthoedd paramedrau
 RHAN 1 — Gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed
 RHAN 2 — Crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd

  ATODLEN 3 — Cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol
 RHAN 1 — Dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru
 RHAN 2 — Dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE
 RHAN 3 — Gofynion a meini prawf ar gyfer cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol

  ATODLEN 4 — Gofynion datblygu a photelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon

  ATODLEN 5 — Manylion anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin

  ATODLEN 6 — Mwyafswm terfynau ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol

  ATODLEN 7 — Nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi'r ansoddau yn Atodlen 6

  ATODLEN 8 — Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf i'w defnyddio

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi[
1], ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy [2].

     Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

     Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.



RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a Dwr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Tachwedd 2007.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

    (2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 80/777 neu Gyfarwyddeb 98/83 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb o dan sylw.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â Rhif , ac eithrio lle yr ymddengys bwriad i'r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yng Nghyfarwyddeb 80/777.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at farcio neu labelu potel yn cynnwys y marcio a'r labelu a wnaed cyn bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu a'r marcio a'r labelu a wnaed ar ôl potelu.

Esemptiadau
     3. —(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ddŵr —

    (2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddognau o rew a becynnwyd a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio i oeri bwyd.



RHAN 2

dŵr mwynol naturiol

Cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol
     4. —(1) Cydnabyddir dŵr yn ddŵr mwynol naturiol—

    (2) Os gwelir, o ran unrhyw ddŵr a gydnabuwyd o dan baragraff (1)(a) neu (ch)(i),—

caniateir i'r awdurdod perthnasol neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth, dynnu'r gydnabyddiaeth honno yn ôl hyd nes y bodlonir y gofynion o dan sylw.

    (3) Os—

caiff y person sy'n datblygu neu sy'n dymuno datblygu'r ffynnon y mae'r dŵr hwnnw'n tarddu ohoni neu, os yw'n wahanol, y person sy'n berchen y tir y lleolir y ffynnon arno, wneud cais i'r Asiantaeth am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.

    (4) Pan wneir cais am adolygiad o benderfyniad o dan baragraff (3), rhaid i'r Asiantaeth ymchwilio i'r mater fel y mae'n ystyried sy'n briodol ac, ar ôl iddo ystyried canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw ac unrhyw ffeithiau perthnasol a ddaw i'r golwg drwyddo, rhaid iddo naill ai—

    (5) Caiff person sy'n datblygu ffynnon yr echdynnir dŵr ohoni a gydnabyddir yn ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff (1)(a) neu (ch)(i), wneud cais i'r awdurdod perthnasol neu i'r Asiantaeth, fel y bo'n briodol, i gael tynnu'r gydnabyddiaeth honno yn ôl.

    (6) O ran yr awdurdod perthnasol—

    (7) O ran unrhyw gydnabyddiaeth o ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a roddir o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol 1985[11] neu Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999[12] ac sy'n bodoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym—

    (8) Mae cyhoeddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o enw unrhyw ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn y Gymuned at ddibenion Cyfarwyddeb 80/777, ac eithrio pan roddwyd y gydnabyddiaeth yn unol ag Atodlen 3, yn dystiolaeth derfynol bod y dŵr hwnnw'n cael ei gydnabod at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.

    (9) Mae Atodlen 5 yn effeithiol at y dibenion a bennir yn Atodlen 3.

Datblygu ffynhonnau dwr mwynol naturiol
     5. —(1) Ni chaiff neb ddatblygu unrhyw ffynnon at ddibenion marchnata'r dŵr ohoni fel dŵr mwynol naturiol oni bai—

    (2) Os gwelir yn ystod y datblygu bod dŵr mwynol naturiol wedi cael ei lygru ac y byddai potelu'r dŵr yn mynd yn groes i baragraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu'r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi'i ddileu ac y gallai potelu'r dŵr gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato
    
6. —(1) Ni chaiff neb roi dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth y tarddiad —

    (2) Nid yw paragraff (1) yn atal defnyddio dŵr mwynol naturiol wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.

Potelu dŵr mwynol naturiol
    
7. —(1) Ni chaiff unrhyw berson botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol sydd, ar adeg y potelu, yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n uwch na'r terfyn uchaf penodedig o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

    (2) Rhaid i'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer canfod y sylweddau a restrir yn Atodlen 6 gydymffurfio â'r nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi a bennir yn Atodlen 7.

    (3) Ni chaiff neb botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol nad yw'n bodloni gofynion Atodlen 4.

    (4) Ni chaiff neb botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol mewn unrhyw botel heblaw potel sydd â chaeadau a luniwyd i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddifwyno neu halogi.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr mwynol naturiol
    
8. —(1) Ni chaiff neb beri i ddŵr mwynol naturiol gael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r canlynol—

    (2) Ni chaiff neb beri bod dŵr mwynol naturiol yn cael ei botelu mewn potel oni chafodd y botel ei marcio neu'i labelu â'r canlynol—

    (3) Os, yn unol â pharagraff (1)(b), mae'n ofynnol i botel sy'n cynnwys dŵr mwynol naturiol gael ei marcio neu'i labelu â lle'r datblygu neu ag enw'r ffynnon—

    (4) Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr mwynol naturiol o dan unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnach, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu.

    (5) Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr mwynol naturiol yn groes i baragraff (3).

Gwerthu dŵr mwynol naturiol
    
9. —(1) Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r enw "natural mineral water" neu "dŵr mwynol naturiol" yn enw'r dŵr neu fel enw'r dŵr onid yw'r dŵr hwnnw'n ddŵr mwynol naturiol.

    (2) Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu—

    (3) Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu—

    (4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol o un ffynnon benodol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.



RHAN 3

dŵr ffynnon

Potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon
    
10. —(1) Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r disgrifiad "spring water" neu "dŵr ffynnon" onid yw'r dŵr hwnnw—

    (2) Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr which a gafodd ei drin ag aer a gyfoethogwyd ag osôn yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu'n ddŵr ffynnon, onid yw'r driniaeth honno'n dechneg awdurdodedig ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn.

    (3) Os gwelir yn ystod datblygu bod dŵr ffynnon yn llygredig ac y gallai potelu'r dŵr hwnnw fynd yn groes i baragraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu'r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes y caiff achos y llygredd ei ddileu ac y gallai potelu'r dŵr gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr ffynnon
    
11. —(1) Ni chaiff neb beri bod unrhyw botel yn cael ei marcio neu'i labelu gyda'r disgrifiad "spring water" neu "dŵr ffynnon" onid yw'r dŵr a gynhwysir ynddi —

    (2) Ni chaiff neb beri bod unrhyw botel sy'n cynnwys dŵr sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad "spring water" neu "dŵr ffynnon" gael ei farcio neu'i labelu â'r canlynol—

    (3) Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r disgrifiad "spring water" neu "dŵr ffynnon" oni chafodd y botel hefyd ei marcio neu'i labelu â'r canlynol—

    (4) Os yw'n ofynnol, yn unol â pharagraff (2)(b), i botel sy'n cynnwys dŵr ffynnon gael ei marcio neu'i labelu â lle'r datblygu neu ag enw'r ffynnon—

    (5) Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr ffynnon yn groes i baragraff (4).

Gwerthu dwr ffynnon
    
12. —(1) Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad "spring water" neu "dŵr ffynnon"—

    (2) Ni chaiff neb werthu dŵr o un ffynnon benodol wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad "spring water" neu "dŵr ffynnon", o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.



RHAN 4

dŵr yfed wedi'i botelu

Potelu dŵr yfed
    
13. Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yfed yn cael ei botelu onid yw'r dŵr hwnnw'n bodloni gofynion Atodlen 2.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu
    
14. Ni chaiff neb —

Gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu
    
15. Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr yfed wedi'i botelu —



RHAN 5

Amrywiol ac atodol

Gorfodi
    
16. —(1) Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal gyflawni archwiliadau cyfnodol ar unrhyw ddŵr a gydnabyddwyd yn ddŵr mwynol naturiol i sicrhau—

    (2) Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal, gynnal archwiliadau cyfnodol ar unrhyw dechneg i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn a awdurdodwyd ganddo yn unol ag Atodlen 1, er mwyn sicrhau bod gofynion yr Atodlen honno'n parhau i gael eu bodloni.

    (3) Rhaid i bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal—

Trefniadau ar gyfer samplau a gymrwyd i'w dadansoddi
    
17. —(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylid ei ddadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn ymdrin â'r sampl yn unol â'r rheoliad hwn ac at ddibenion y rheoliad hwn mae "sampl" yn cynnwys potel neu boteli o unrhyw ddŵr.

    (2) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn ddiymdroi rannu'r sampl yn dair rhan, a rhaid marcio a selio neu sicrhau pob rhan yn y fath fodd y mae ei natur yn caniatáu, a rhaid i'r cyfryw swyddog—

    (3) Os cafodd y sampl ei brynu gan y swyddog awdurdodedig, rhaid i'r swyddog roi'r rhan o'r sampl i'r person y prynwyd ef ganddo.

    (4) Os yw'r sampl yn sampl o ddŵr a ddygwyd i Gymru ac a gymrwyd gan y swyddog awdurdodedig cyn iddo gael ei drosglwyddo i berson sy'n bwriadu gwerthu'r dŵr hwnnw yng Nghymru, rhaid i'r swyddog roi'r rhan o'r sampl i'r person hwnnw.

    (5) Os na fydd naill ai paragraff (3) na pharagraff (4) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi'r rhan o'r sampl i'r person y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perchennog y dŵr y cymrwyd y sampl ohono.

    (6) Ym mhob achos pan fo paragraff (3), (4) neu (5) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig hysbysu'r person y rhoir y rhan o'r sampl iddo bod y sampl wedi'i brynu neu'i gymryd, fel y bo'n briodol, at ddibenion dadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus.

    (7) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig, oni fydd yn penderfynu peidio â chynnal dadansoddiad, gyflwyno un o'r rhannau sy'n weddill o'r sampl i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf a dal gafael yn y rhan arall.

    (8) Caniateir i unrhyw ran o sampl y mae'n rhaid ei roi o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson gael ei roi drwy ei drosglwyddo i'r person hwnnw neu i'w asiant neu drwy ei anfon at y person hwnnw drwy'r post cofrestredig neu drwy wasanaeth dosbarthiad cofnodedig; ond pan na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio'n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y person y mae'r rhan o'r sampl i'w rhoi iddo, caniateir i'r swyddog, yn hytrach na rhoi'r rhan i'r person hwnnw, ddal gafael ynddi.

    (9) Os yw'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig bod unrhyw ddŵr, y mae'r swyddog wedi caffael sampl ohono at ddibenion dadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus, wedi cael ei ddatblygu neu'i botelu gan berson (nad yw'n berson y mae'n ofynnol rhoi un rhan o'r sampl iddo yn ôl y rheoliad hwn) y mae ei enw a'i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig yn cael eu harddangos ar y botel neu ar unrhyw gynhwysydd arall, rhaid i'r swyddog, onid yw'r swyddog yn penderfynu peidio â chynnal dadansoddiad, o fewn tri diwrnod o gaffael y sampl anfon hysbysiad at y person hwnnw sy'n ei hysbysu—

    (10) Pan fydd sampl a gymrwyd neu a brynwyd gan swyddog awdurdodedig wedi cael ei ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus, mae gan unrhyw berson y rhoddwyd rhan o'r sampl o dan y rheoliad hwn iddo yr hawl, wrth wneud cais i'r awdurdod bwyd, i gael derbyn copi o'r dystysgrif dadansoddi gan yr awdurdod hwnnw.

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth
    
18. —(1) Pan fydd rhan o'r sampl wedi ei chadw o dan reoliad 17(7) ac—

bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

    (2) O ran y swyddog awdurdodedig—

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth ar gyfer ei dadansoddi.

    (3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonir ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif dadansoddi.

    (4) Rhaid bod unrhyw dystysgrif dadansoddi a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth wedi'i llofnodi gan y Cemegydd neu ar ei ran, ond caniateir i'r dadansoddiad gael ei gynnal gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

    (5) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn ddiymdroi pan fydd yn derbyn y dystysgrif dadansoddi roi i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson gwahanol i'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd gopi o'r dystysgrif dadansoddi gan Gemegydd y Llywodraeth.

    (6) Os gwneir cais o dan baragraff (2)(ch) caniateir i'r swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i dalu rhai neu'r cyfan o dreuliau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac yn absenoldeb cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caniateir i'r swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

    (7) Yn y rheoliad hwn mae "diffynnydd" yn cynnwys diffynnydd arfaethedig.

Dulliau Dadansoddi
    
19. Rhaid defnyddio dulliau dadansoddi sy'n cydsynio ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83 at ddibenion penderfynu p'un a yw dŵr yn bodloni darpariaethau Atodlen 2 ai peidio.

Tramgwyddau a chosbau
    
20. Mae person yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'n mynd yn groes i reoliad 5, 6(1), 7(1), (3), neu (4), 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 neu 22(3).

Amddiffyniadau
    
21. —(1) Mewn unrhyw achosion o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig ddangos—

    (2) Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn os honnir nad yw dŵr yn bodloni'r gofynion ym mharagraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 2, mae'n amddiffyniad i'r person a gyhuddir ddangos—

Cymhwyso darpariaethau eraill
    
22. —(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

    (2) Mae rheoliad 38 (hawdd ei ddeall) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i unrhyw enw, disgrifiad, mynegiad, gwybodaeth neu eiriad arall y mae'n ofynnol i ddŵr neu y caniateir iddo gan y Rheoliadau hyn gael ei farcio neu'i labelu, fel y mae'n gymwys i fanylion y mae'n ofynnol eu labelu o dan Reoliadau Labelu Bwyd 1996.

    (3) Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo os nad yw'r botel y potelwyd ef ynddi wedi'i marcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 38 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 fel y'u cymhwysir gan baragraff (2).

Dirymu
    
23. Dirymir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr wedi'i Botelu 1999 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.


G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

5 Tachwedd 2007



ATODLEN 1
Rheoliadau 2(1) a (16)(2)


Amodau ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn


     1. Ni cheir trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn ond —

     2. Rhaid i'r driniaeth ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn beidio â gwneud y canlynol—

     3. Rhaid i berson sy'n ceisio cael awdurdodiad i driniaeth ag aer a gyfoethogwyd ag osôn—

     4. Rhaid i'r awdurdod perthnasol asesu'r cais ac unrhyw wybodaeth sydd yn ei feddiant a rhaid iddo awdurdodi'r driniaeth os cafodd ei fodloni —

     5. Os bydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu'r gweithredydd o'r driniaeth yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd masnachol o'r driniaeth yn effeithiol.

     6. Os bydd yr awdurdod perthnasol yn gwrthod awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu'r gweithredydd o'r driniaeth yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.

     7. Os bydd triniaeth wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 4, rhaid i'r person sy'n cyflawni'r driniaeth, er mwyn galluogi'r awdurdod perthnasol i asesu p'un a yw'r amodau ym mharagraff 4(a) a (b) yn parhau i gael eu bodloni—

     8. Os bydd yr awdurdod perthnasol wedi'i fodloni nad yw'r amodau a bennir ym mharagraff 4 bellach yn cael eu cyflawni, caiff dynnu'n ôl awdurdodiad o driniaeth drwy roi i'r person sy'n gweithredu'r driniaeth honno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y rhesymau dros dynnu'n ôl.

     9. Os bydd yr awdurdod perthnasol wedi hysbysu gweithredydd o dan baragraff 6 o'i wrthodiad i awdurdodi triniaeth o dan baragraff 4 neu os yw'n tynnu awdurdodiad o driniaeth yn ôl o dan baragraff 8, caniateir i'r person sy'n dymuno cyflawni'r driniaeth wneud cais i'r Asiantaeth adolygu'r penderfyniad hwnnw.

     10. Wrth i gais am adolygiad ddod i law'r Asiantaeth rhaid iddi ymchwilio i'r mater yn y fath fodd y mae'n ymddangos i'r Asiantaeth sy'n briodol ac, ar ôl iddi ystyried canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw ac unrhyw ffeithiau perthnasol a ddaw i'r golwg drwyddo, rhaid iddi naill ai gadarnhau'r penderfyniad neu gyfarwyddo'r awdurdod perthnasol i roi neu adfer, fel y bo'n briodol, awdurdodiad o'r broses drin a weithredir. Yn achos cyfarwyddyd o'r fath rhaid i'r awdurdod perthnasol ar hynny gydymffurfio â'r cyfryw gyfarwyddyd.



ATODLEN 2
Rheoliadau 2(1), 10(1)(b), 13, 19 a 21(2)


Gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed gan gynnwys crynodiadau a ragnodwyd neu werthoedd paramedrau




RHAN 1

Gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed

     1. Mae dŵr yn bodloni gofynion yr Atodlen hon —

     2. Rhaid darllen crynodiadau neu werthoedd y paramedrau a restrir yn Nhabl A i Ch yn Rhan 2 o'r Atodlen hon ar y cyd â'r nodiadau ar eu cyfer.



RHAN 2

Crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd


Tabl A
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Eitem Paramedrau Unedau Mesur Crynodiad neu Werth (mwyafswm oni nodir fel arall)
1. Lliw graddfa mg/1 Pt/Co 20
2. Cymylogrwydd NTU 4
3. Arogl Rhif gwanediad 3 ar 25°C
4. Blas Rhif gwanediad 3 ar 25°C
5. Sylffad mg SO4/1 250
6. Sodiwm mg Na/l 200
7. Nitrad mg NO3/l 50 (nodyn 1)
8. Nitrid mg NO2/l 0.5 (nodyn 1)
9. Alwminiwm µgAl/l 200
10. Copr mg Cu/l 2
11. Fflworid mg F/l 1.5
12. Crynodiad ïonau hydrogen unedau pH 4.5 (lleiafswm)

9.5 (mwyafswm)

13. Tritiwm (ar gyfer ymbelydredd) Bq/l 100
14. Cyfanswm dogn dangosiadol mSv/ flwyddyn 0.10 (nodyn 2)
15. Manganis µg Mn/l 50

Nodiadau:
     1. Rhaid i grynodiad (mg/l) nitrad wedi'i rannu â 50 a ychwanegir i grynodiad (mg/l) o nitrid wedi'i rannu â 3 beidio â bod yn fwy nag 1.

     2. Ac eithrio tritiwm, potasiwm-40, radon a chynhyrchion dadfeilio radon.


TABL B
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Eitem Paramedrau Unedau Mesur Mwyafswm Crynodiad
1. Arsenig µg As/l 10
2. Cadmiwm µg Cd/l 5
3. Cyanid µg CN/l 50
4. Cromiwm µg Cr/l 50
5. Mercwri µg Hg/l 1
6. Nicel µg Ni/l 20
7. Seleniwm µg Se/l 10
8. Antimoni µg Sb/l 5
9. Plwm µg Pb/l 10
10. Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol:                      
           — sylweddau unigol µg/l 0.10 (nodiadau 1 a 2)
           — sylweddau cyflawn µg/l 0.50 (nodiadau 1 a 3)
11. Hydrocarbonau aromatig polysyclig µg/l 0.1 swm crynodiadau cyfansoddion penodedig (nodyn 4)
12. Bromad µg BrO3/l 10

Nodiadau:
     1. Mae "plaleiddiaid" yn golygu:

    — pryfleiddiaid organig,

    — chwynleiddiaid organig,

    — ffyngleiddiaid organig,

    — nematoleiddiaid organig,

    — gwiddonleiddiaid organig,

    — algaleiddiaid organig,

    — llygodleiddiaid organig,

    — llysnafeddleiddiaid organig, a

chynhyrchion perthynol (inter alia, rheoleiddwyr tyfiant) a'u metabolion, eu cynnyrch diraddio ac adweithio perthnasol.

Dim ond y plaleiddiaid hynny sy'n debygol o fod yn bresennol mewn dŵr penodol sydd angen eu monitro.

     2. Mae mwyafswm crynodiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol. Yn achos aldrin, deueldrin, heptaclor a heptaclor epocsid mwyafswm y crynodiad yw 0.030 µg/l.

     3. Mae mwyafswm y crynodiad ar gyfer "sylweddau cyflawn" yn cyfeirio at swm y crynodiadau o bob plaleiddiad unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y weithdrefn fonitro.

     4. Y cyfansodddion penodedig yw benso(b)fflworanthen, benso(k)fflworanthen, benso(ghi)perylen, indeno(1.2,3-cd) pyren.


Tabl C
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Eitem Paramedrau Unedau Mesur Mwyafswm Crynodiad
1. Escherichia coli (E.coli) nifer/250 ml 0/250 ml
2. Enterococi nifer/250 ml 0/250 ml
3. Cyfrif cytref 22°C nifer/ml 100/ml (nodiadau 1 a 2)
4. Cyfrif cytref 37°C nifer/ml 20/ml (nodiadau 1 a 3)
5. Pseudomonas aeruginosa nifer/250ml 0/250 ml

Nodiadau:
     1. Dylid mesur y cyfanswm cyfrif cytref hyfyw o fewn 12 awr ar ôl potelu, gan gadw'r sampl dŵr ar dymheredd cyson yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 awr. Ni ddylai unrhyw gynnydd yng nghyfanswm cyfrif cytref hyfyw'r dŵr rhwng y 12 awr ar ôl ei botelu ac adeg y gwerthu ddim bod yn fwy na'r hyn a ddisgwylir yn arferol.

     2. Mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin .

     3. Mewn 24 o oriau ar agar-agar.


Tabl Ch
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Eitem Paramedrau Unedau Mesur Mwyafswm Crynodiad
1. Boron mg/l 1.0
2. Benso (a) pyren µg/l 0.010
3. Tetracloroethen a Thricloroethen µg/l 10 (nodyn 1)
4. Tetracloromethan µg/l 3
5. Bensen µg/l 1.0
6. 1,2-dicloroethan µg/l 3.0
7. Tricloromethan, Diclororbromomethan, Dibromocloromethan a Thribromomethan µg/l 100 (nodyn 1)
8. Epiclorohydrin µg/l 0.10 (nodyn 2)
9. Finyl clorid µg/l 0.50 (nodyn 2)
10. Acrylamid µg/l 0.10 (nodyn 2)

Nodiadau:
     4. Mae'r mwyafswm crynodiad a bennir yn gymwys i swm crynodiadau'r paramedrau a bennir.

     5. Mae'r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomer gweddilliol yn y dŵr fel y'i cyfrifir yn unol â manylebau mwyafswm y gollyngiad o'r polymer cyfatebol sydd mewn cyffyrddiad â'r dŵr



ATODLEN 3
Rheoliadau 4(1)(a) ac (ch)(i), (2)(a) a (c), (8) a (9) a 16(1)(a)(iii)


Cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol




RHAN 1

Dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru

     1. Rhaid i berson sy'n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o'r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 wneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol y mae'r dŵr a echdynnir yn ei ardal ynddi, gan roi'r manylion a osodir ym mharagraff 2.

     2. Dyma'r manylion —

    (a) y rheini a bennir ym mharagraff 1o Ran 3;

    (b) unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos bod y materion a bennir ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu; a

    (c) y dystiolaeth honno sy'n foddhaol i ddangos nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n fwy na'r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

     3. I'r graddau y mae'n ofynnol rhoi manylion o unrhyw anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio neu elfennau hybrin a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 yn unol ag is-baragraff (b) o baragraff 2, rhaid mynegi'r crynodiad o bob anion, cation, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio neu elfen hybrin yn y manylion hynny yn yr uned fesur a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.

     4. Pan fydd manylion o'r fath wedi cael eu rhoi felly, rhaid i'r awdurdod perthnasol eu hasesu a chydnabod bod dŵr y mae'r manylion hynny'n ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi'i fodloni—

    (a) bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy'n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I; a

    (b) bod nodweddion y dŵr wedi cael eu hasesu yn unol â'r canlynol —

      (i) y pwyntiau a rifir 1 i 4 a osodir ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I,

      (ii) y gofynion a'r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o'r Atodlen hon, a

      (iii) dulliau gwyddonol cydnabyddedig.

     5. Rhaid i'r awdurdod perthnasol, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 4, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o'r fath a'r rhesymau dros ei rhoi yn y London Gazette.



RHAN 2

Dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE

     1. Rhaid i berson sy'n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 wneud cais ysgrifenedig i'r Asiantaeth, gan roi'r manylion a osodir ym mharagraff 2.

     2. Dyma'r manylion —

    (a) y rheini a bennir ym mharagraff 1o Ran 3;

    (b) unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos bod y materion a bennir ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu; a

    (c) y dystiolaeth honno sy'n foddhaol i ddangos nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n fwy na'r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

     3. I'r graddau y mae'n ofynnol rhoi manylion o unrhyw anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio neu elfennau hybrin a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 yn unol ag is-baragraff (b) o baragraff 2, rhaid mynegi'r crynodiad o bob anion, cation, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio neu elfen hybrin yn y manylion hynny yn yr uned fesur a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.

     4. Rhaid i'r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod yn y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi ardystio—

    (a) ei bod wedi'i bodloni —

      (i) bod y gofynion ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu, a

      (ii) gyda'r dystiolaeth a roir yn unol ag is-baragraff (c) o baragraff 2; a

    (b) bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod —

      (i) bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy'n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I,

      (ii) bod nodweddion y dŵr wedi'u hasesu yn unol â'r canlynol—

        (aa) y pwyntiau a rifir 1 i 4 a osodir ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I,

        (bb) y gofynion a'r meini prawf a restrir yn Rhan 3; a

        (cc) dulliau gwyddonol cydnabyddedig, a

      (iii) bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy'n datblygu'r ffynnon.

     5. Bydd cydnabyddiaeth o'r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu'r ardystiad sy'n ofynnol gan baragraff 4.

     6. Rhaid i'r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o'r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a'r Belfast Gazette.



RHAN 3

Gofynion a meini ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol

     1. Rhaid i arolygon daearegol a hydrolegol gynnwys y manylion canlynol —

    (a) union safle'r dalgylch gan ddangos ei uchder, ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;

    (b) adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;

    (c) stratigraffeg yr haen hydroddaearagol;

    (ch) disgrifiad o weithrediadau'r dalgylch; a

    (d) darnodi'r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy'n diogelu'r ffynnon rhag llygredd.

     2. Rhaid i arolygon ffisegol, cemegol a ffisigocemegol sefydlu—

    (a) cyfradd llif y ffynnon;

    (b) tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;

    (c) y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;

    (ch) y gweddillion sych ar 180°C a 260°C;

    (d) y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;

    (dd) y crynodiad ïonau hydrogen (pH);

    (e) yr anionau a'r cationau;

    (f) yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;

    (ff) yr elfennau hybrin;

    (g) y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;

    (ng) pan fydd yn briodol, y lefelau isotop perthnasol ac elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O —18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a

    (h) gwenwyndra elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt.

     3. Rhaid i ddadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell ddangos—

    (a) absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;

    (b) penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio'n dangos halogi ysgarthol, sy'n dangos—

      (i) absenoldeb Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250 ml ar 37°C a 44.5°C,

      (ii) absenoldeb streptococi ysgarthol mewn 250 ml,

      (iii) absenoldeb anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50 ml, a

      (iv) absenoldeb Pseudomonas aeruginosa mewn 250 ml; a

    (c) cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—

      (i) ar 20 i 22°C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a

      (ii) ar 37°C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

     4. —(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid cynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a dylai weddu i nodweddion arbennig dŵr mwynol naturiol a'i effaith ar yr organeb dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, sy'n gwneud iawn am ddiffygion mwynol .

    (2) Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn hytrach na'r dadansoddiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), cyhyd â bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o sylwadau yn galluogi bod modd dod i'r un canlyniadau.



ATODLEN 4
Rheoliadau 4(2)(b), 5(1)(c) a (2), 7(3), 9(2)(b), 10(1)(b) a (3) a 16(1)(a)(iv) a pharagraff 1(b) o Atodlen 1 a pharagraff 4(b)(iii) o Ran 2 o Atodlen 3


Gofynion datblygu a photelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon


     1. Rhaid i gyfarpar ar gyfer datblygu'r dŵr gael ei osod mewn modd sy'n osgoi unrhyw bosibilrwydd o halogi a diogelu'r priodweddau sy'n cyfateb i'r rheini a briodolir iddo sydd gan y dŵr yn ei ffynhonnell.

     2. Rhaid amddiffyn y ffynnon neu'r allanfa rhag risg llygredd.

     3. Rhaid i'r dalgylch, y pibellau a'r cronfeydd fod o ddeunyddiau sy'n addas ar gyfer dŵr ac o wneuthuriad sy'n rhwystro unrhyw newid cemegol, ffisigocemegol neu ficrobiolegol i'r dŵr.

     4. Rhaid i'r amodau ar gyfer y datblygu, yn enwedig yn y man golchi a photelu, fodloni gofynion hylendid. Yn benodol, rhaid bod y cynwysyddion wedi'u trin neu eu gweithgynhyrchu mewn modd sy'n osgoi effeithiau andwyol ar nodweddion microbiolegol a chemegol y dwr naturiol.

     5. —(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), rhaid peidio â chludo dŵr mewn cynwysyddion heblaw'r rhai a awdurdodwyd ar gyfer dosbarthu i'r defnyddiwr olaf.

    (2) Caniateir cludo dŵr mwynol naturiol o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 17 Gorffennaf 1980.

    (3) Caniateir i ddŵr a ddosberthir i'r defnyddiwr olaf mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad "spring water" neu "dŵr ffynnon" gael ei gludo o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 23 Tachwedd 1996.

     6. —(1) Rhaid i gyfanswm cyfrif cytref y dŵr y gellir ei adfywio yn ei ffynhonnell, a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2), gydymffurfio â chyfrif cytref hyfyw'r dŵr hwnnw a rhaid iddo beidio â dangos bod ffynhonnell y dŵr hwnnw'n halogedig.

    (2) Y cyfrif cytref yw hwnnw a benderfynir fesul ml o ddŵr—

    (a) ar 20 i 22 °C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a

    (b) ar 37 °C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

     7. —(1) Ar ôl potelu, ni chaiff cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn ei ffynhonnell fod yn fwy na—

    (a) 100 fesul ml ar 20 i 22 °C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a

    (b) 20 fesul ml ar 37 °C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

    (2) Rhaid mesur cyfanswm y cyfrif cytref o fewn y cyfnod o 12 awr ar ôl potelu, a rhaid cadw'r dŵr ar 4 °C +/−1 °C yn ystod y cyfnod cyn iddo gael ei fesur.

     8. Rhaid bod y dŵr yn rhydd rhag—

    (a) Parasitiaid a micro-organebau pathogenig,

    (b) Escherichia coli neu golifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir;

    (c) Anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50 ml a archwilir; a

    (ch) Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir.



ATODLEN 5
Rheoliad 4(9) a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 3


Manylion o anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin


Anionau Uned fesur
Borad BO3- mg/1
Carbonad CO3²- mg/1
Clorid Cl- mg/1
Fflworid F- mg/l
Hydrogen Carbonad HCO3- mg/1
Nitrad NO3- mg/1
Nitrid NO2- mg/1
Ffosffad PO4³- mg/1
Silicad SiO2 mg/1
Sylffad SO4²- mg/1
Sylffid S²- mg/1
Cationau Uned fesur
Alwminiwm A1 mg/1
Amoniwm NH4 mg/1
Calsiwm Ca mg/1
Magnesiwm Mg mg/1
Potasiwm K mg/l
Sodiwm Na mg/1
Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio Uned fesur
Cyfanswm carbon organig C mg/1
Carbon deuocsid rhydd CO2 mg/1
Silica SiO2 mg/1
Elfennau hybrin Uned fesur
Bariwm Ba µg/l
Bromin (cyfanswm) Br µg/l
Cobalt Co µg/l
Copr Cu µg/l
Iodin (cyfanswm) I µg/l
Haearn Fe µg/l
Lithiwm Li µg/l
Manganis Mn µg/l
Molybdenwm Mo µg/l
Strontiwm Sr µg/l
Zinc Zn µg/1



ATODLEN 6
Rheoliad 7(1) a (2) a pharagraff 2(c) o Ran 1 o Atodlen 3, paragraff 2(c) o Ran 2 o Atodlen 3 a Nodiadau 1 a 2 o Atodlen 7


Terfynau uchaf ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol




Ansoddau Mwyafswm terfynau (mg/l)
Antimoni 0.0050
Arsenig 0.010 (fel cyfanswm)
Bariwm 1.0
Cadmiwm 0.003
Cromiwm 0.050
Copr 1.0
Cyanid 0.070
Fflworid 5.0
Plwm 0.010
Manganis 0.50
Mercwri 0.0010
Nicel 0.020
Nitrad 50
Nitrid 0.1
Seleniwm 0.010

Nodyn:
Mae'r ansoddau a ddisgrifir uchod yn cyfeirio at ansoddau sy'n bresennol yn naturiol yn y dŵr yn ei ffynhonnell ac nid at sylweddau sy'n bresennol o ganlyniad i halogi.



ATODLEN 7
Rheoliad 7(2)


Nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi'r ansoddau yn Atodlen 6




Ansoddyn Cywirdeb y gwerth paramedrig mewn % Trachywiredd y gwerth paramedrig Terfyn canfod y gwerth paramedrig mewn %
Antimoni 25 25 25
Arsenig 10 10 10
Bariwm 25 25 25
Cadmiwm 10 10 10
Cromiwm 10 10 10
Copr 10 10 10
Cyanidau 10 10 10
Fflworid 10 10 10
Plwm 10 10 10
Manganis 10 10 10
Mercwri 20 10 20
Nicel 10 10 10
Nitrad 10 10 10
Nitrid 10 10 10
Seleniwm 10 10 10

Nodiadau:
     1. Rhaid bod y dull dadansoddi a ddefnyddir i fesur crynodiad yr ansoddau yn Atodlen 6 yn gallu mesur crynodiadau sy'n hafal i'r gwerthoedd paramedrig gyda'r cywirdeb penodedig, a'r terfynau trachywiredd a chanfod.

     2. Bid a fo am sensitifrwydd y dull dadansoddi, rhaid mynegi'r canlyniad i o leiaf yr un nifer o lefydd degol â'r terfyn uchaf a osodir yn Atodlen 6 ar gyfer yr ansoddyn penodol sy'n cael ei ddadansoddi.

     3. Cywirdeb yw'r gwall systematig ac mae'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y gwerth cyfartalog o nifer mawr o fesuriadau mynych a'r union werth.

     4. Mae trachywiredd yn cynrychioli'r gwall ar hap a mynegir ef yn gyffredinol fel y gwyriad safonol (mewn swp a rhwng sypiau) o sampl o ganlyniadau o'r cyfartaledd.

     5. Mae trachywiredd derbyniol yn hafal i ddwywaith y gwyriad safonol perthynol.

     6. O ran y terfyn canfod—

    (a) mae'n dair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy'n cynnwys crynodiad isel o'r ansoddyn; neu

    (b) mae'n bum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o'r newydd.

     7. Dylai'r dull ei gwneud yn bosibl canfod cyanid yn ei holl ffurfiau.



ATODLEN 8
Rheoliad 8(1)(d)


Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf ar gyfer eu defnyddio


Mynegiad Meini prawf
Cynnwys isel o fwynau Cynnwys mwyn halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 500 mg/l
Cynnwys isel iawn o fwynau Cynnwys mwyn halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 50 mg/l
Cyfoethog mewn halwynau mwynol Cynnwys mwynau halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 1500 mg/l
Yn cynnwys bicarbonad Cynnwys bicarbonad sy'n fwy na 600 mg/l
Yn cynnwys sylffad Cynnwys sylffad sy'n fwy na 200 mg/l
Yn cynnwys clorid Cynnwys clorid sy'n fwy na 200 mg/l
Yn cynnwys calsiwm Cynnwys calsiwm sy'n fwy na 150 mg/l
Yn cynnwys magnesiwm Cynnwys magnesiwm sy'n fwy na 50 mg/l
Yn cynnwys fflworid Cynnwys fflworid sy'n fwy na 1 mg/l
Yn cynnwys haearn Cynnwys deufalent haearn sy'n fwy na 1 mg/l
Asidig Carbon deuocsid rhydd sy'n fwy na 250 mg/l
Yn cynnwys sodiwm Cynnwys sodiwm sy'n fwy na 200 mg/l
Addas ar gyfer deiet isel mewn sodiwm Cynnwys sodiwm sy'n llai na 20 mg/l



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999 (O.S. 1999/1540), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac maent yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny gyda newidiadau o ran Cymru. Diwygiwyd y Rheoliadau hynny ddiwethaf o ran Cymru gan Reoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1509 (Cy.158)).

     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu o ran Cymru ac i'r graddau a bennir ym mharagraff 3 isod yr offerynnau Cymunedol a bennir yn y paragraff hwnnw.

     3. Yr offerynnau Cymunedol yw—

    (a) Cyfarwyddeb y Cyngor 80/777/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch datblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol (OJ Rhif L229, 30.8.80, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ L284, 31.10.2003, t.1);

    (b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy'n sefydlu'r rhestr, terfynau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a'r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogwyd gan osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynhonnau (OJ Rhif L126, 22.5.2003, t.34); ac

    (c) o ran dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu, Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ynghylch ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl (OJ Rhif L330, 3.11.98, t.32).

     4. Dyma'r prif newidiadau—

    (a) darperir yn benodol nad yw'r Rheoliadau'n gymwys i ddognau o rew a becynnwyd a ddefnyddir i oeri bwyd;

    (b) estynnir y gofynion yn y Rheoliadau ynghylch marcio a labelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon i gynnwys hysbysebu dŵr o'r fath; ac

    (c) gwneir darpariaeth ar gyfer rhannau o samplau a gedwir gan swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd at ddibenion dadansoddi sydd i'w cyflwyno ar gyfer eu dadansoddi i Gemegydd y Llywodraeth mewn amgylchiadau penodedig.

     5. Mae'r Rheoliadau yn—

    (a) darparu ar gyfer esemptiadau o'r Rheoliadau ynghylch mathau penodedig o ddŵr a rhew ar gyfer oeri bwyd (rheoliad 3);

    (b) rhagnodi'r amodau ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol a'r gweithdrefnau dros dynnu'r fath gydnabyddiaeth yn ôl a darparu ar gyfer adolygu penderfyniadau i beidio â rhoi cydnabyddiaeth neu dynnu cydnabyddiaeth yn ôl pan ofynnir am hynny gan y person y mae'r penderfyniad yn effeithio arno (rheoliad 4);

    (c) gosod yr amodau sy'n rhaid eu bodloni i ddatblygu ffynhonnau er mwyn marchnata dŵr ohonynt fel dŵr mwynol naturiol a gwahardd datblygu ffynhonnau a lygrwyd hyd nes y caiff achos y llygredd ei ddileu (rheoliad 5);

    (ch) gwahardd rhoi dŵr mwynol naturiol dan driniaethau a rhoi ychwanegiadau heblaw'r rhai penodedig, yn ddarostyngedig i eithriad yn achos dŵr o'r fath pan gaiff ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn (rheoliad 6);

    (d) gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol sy'n cynnwys sylweddau penodedig sy'n uwch na therfynau penodedig a rhagnodi'r dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer canfod sylweddau o'r fath (rheoliad 7(1) a (2));

    (dd) gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol pan na chydymffurfir â gofynion penodedig ynghylch datblygu'r ffynnon y daw'r dŵr ohoni a photelu'r dŵr (rheoliad 7(3));

    (e) gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol mewn cynwysyddion nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig (rheoliad 7(4));

    (f) cyfyngu ar y marcio a'r labelu y gellir ei roi ar ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu (gan gynnwys dŵr mwynol naturiol eferw), ei gwneud yn ofynnol bod dŵr o'r fath yn cael ei farcio neu'i labelu â gwybodaeth benodedig ac mewn dau fodd rheoleiddio hysbysebu dŵr o'r fath yn ychwanegol at ei farcio a'i labelu (rheoliad 8);

    (ff) gwahardd gwerthu dŵr mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r enw "natural mineral water" neu "dŵr mwynol naturiol" oni bai ei fod yn ddŵr o'r fath; gosod gwaharddiadau eraill ynghylch gwerthu dŵr mwynol naturiol wedi'i botelu; a gwahardd gwerthu dŵr mwynol naturiol o ffynnon unigol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol (rheoliad 9);

    (g) gwahardd potelu dŵr mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu "spring water" neu "dŵr ffynnon" oni bai bod y dŵr yn bodloni gofynion penodedig, gwahardd potelu o'r fath os cafodd y dŵr ei drin ag aer a gyfoethogwyd gan osôn onid yw'r driniaeth yn un awdurdodedig a gwahardd datblygu ffynhonnau a lygrwyd nes bod achos y llygredd yn cael ei ddileu (rheoliad 10);

    (ng) cyfyngu ar y marcio a'r labelu y caniateir ei roi ar ddŵr ffynnon, ei gwneud yn ofynnol bod dŵr o'r fath wedi'i farcio neu wedi'i labelu â gwybodaeth benodedig ac mewn un modd rheoleiddio hysbysebu dŵr o'r fath yn ychwanegol at ei farcio a'i labelu (rheoliad 11);

    (h) gwahardd gwerthu dŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu "spring water" os nad yw'r dŵr yn cydymffurfio â'r gofynion o ran potelu, labelu a hysbysebu yn rheoliad 10 a 11 yn eu trefn, a gwahardd gwerthu dŵr o'r fath o un ffynnon benodol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol (rheoliad 12);

    (i) gwahardd potelu dŵr yfed onid yw'n bodloni gofynion Atodlen 2 (rheoliad 13);

    (j) gosod cyfyngiadau ar farcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu (rheoliad 14);

    (l) gwahardd gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 13 neu na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 14 (rheoliad 15);

    (ll) dyrannu cyfrifoldeb ar gyfer gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau, gan gynnwys cyflawni archwiliadau penodedig er mwyn sicrhau bod gofynion penodedig ynghylch dwr mwynol naturiol a gofynion o ran bod technegau ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn sy'n gymwys ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dwr ffynnon yn cael eu bodloni (rheoliad 16);

    (m) rhagnodi'r trefniadau ar gyfer trafod samplau o ddwr a gymrwyd ar gyfer ei dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau, darparu ar gyfer cyflwyno rhan o'r sampl i Gemegydd y Llywodraeth mewn amgylchiadau penodedig a'i gwneud yn ofynnol, at ddibenion penderfynu p'un a yw dŵr yn cydymffurfio ag Atodlen 2, bod yn rhaid defnyddio dulliau dadansoddi sy'n unol ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83/EC (rheoliadau 17 i 19 yn eu trefn);

    (n) darparu bod mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig y Rheoliadau yn dramgwydd a rhagnodi'r gosb sy'n gymwys pan geir collfarniad (rheoliad 20);

    (o) darparu amddiffyniadau ar gyfer unrhyw dramgwydd o'r fath mewn cysylltiad â dŵr wedi'i botelu, wedi'i farcio ac wedi'i labelu cyn i'r Rheoliadau ddod i rym a dŵr wedi'i botelu neu wedi'i werthu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r DU ac sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu (rheoliad 21);

    (p) cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau ddarpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499 fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 22(1) a (2));

    (ph) gwahardd gwerthu dŵr sydd heb gael ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 38 (hawdd ei ddeall) o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 22(3)); ac

    (r) dirymu Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr wedi'i Botelu 1999 (OS 1999/1540 fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (rheoliad 23).

     6. Hysbyswyd y gofyniad a geir ym mharagraff 1(ch) o Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn i'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol â gofynion Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer rhoi gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18).

     7. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999". Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p. 40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol Parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[4] OJ Rhif L229, 30.8.80, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu at Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC y darpariaethau ynghylch Pwyllgorau sy'n cynorthwyo'r Comisiwn wrth arfer ei bwerau gweithredu a osodir mewn offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o Gytuniad EC (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).back

[5] OJ Rhif L330, 5.12.98, t.32.back

[6] OJ Rhif L126, 22.5.2003, t.34.back

[7] O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[8] 1968 p. 67.back

[9] O.S. 1994/3144; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[10] O.S. 2005/2745.back

[11] O.S. 1985/71, a ddirymwyd gan O.S. 1999/1540.back

[12] O.S. 1999/1540, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2003/3042 (Cy.287) ac O.S. 2004/1509 (Cy.158).back



English version



ISBN 978 0 11 091670 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 3 December 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073165w.html