BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2007 Rhif 3171 (Cy.277)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073171w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3171 (Cy.277)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2007

  Gwnaed 7 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 74(A) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1].

     Bu ymgynghori yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[2] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso.
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006[3] yn unol â pharagraffau (2) i (5).

    (2) Ym mharagraff 11(2)(c)(iv) o Ran 1 o Atodlen 3 (cynnwys yr offeryn statudol neu ddatganiad arall etc), yn lle'r gair "soluble" rhodder "insoluble".

    (3) Mae'r cofnodion tabl a'r troednodiadau sy'n ffurfio Pennod D o Atodlen 5 (terfynau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) wedi'u disodli gan y cofnodion a'r troednodiadau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

    (4) Mae'r cofnodion tabl a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn wedi'u hychwanegu ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 6 (rheoli ffynonellau protein penodol).

    (5) Yng ngholofn 4 o Bennod A o Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir ac a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), gyferbyn â'r cofnod yng ngholofn 1 ynghylch lleihau cyfraddau ffurfiant cerrig cystin, yn lle'r gair "acidifying" rhodder "alkalising".


G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Tachwedd 2007



ATODLEN 1
Rheoliad 2(3)


Y cofnodion sydd i ffurfio Pennod D o Atodlen 5 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006




ATODLEN 2
Rheoliad 2(4)


Y cofnodion sydd i'w hychwanegu at Atodlen 6 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006


Name of product group Permitted products Designation of nutritive principle or identity of micro-organisms Culture substrate (specifications, if any) Composition characteristics of product Animal species Name of product and specified particulars
"      2.2 By-products from the production of amino acids by fermentation

           
       2.2.1 Concentrated liquid by-products from the production of L-glutamic acid by fermentation with Corynebacterium melassecola

Ammonium salts and other nitrogenous compounds Sucrose, molasses, starch products and their hydrolysates Nitrogen expressed as crude protein:

minimum 48%

Moisture:

maximum 28%

Ruminants from the beginning of rumination Declarations to be made on the label or packaging of the product:

    — the name "by-products from the production of L-glutamic acid" in the case of product 2.2.1; "by-products from the production of L-lysine" in the case of product 2.2.2;

    — nitrogen, expressed as crude protein;

    — crude ash;

    — moisture;

    — animal species or category;

    — approval number.

       2.2.2 Concentrated liquid by-products from the production of L-lysine monohydrochloride by fermentation with Brevibacterium lactofermentum

Ammonium salts and other nitrogenous compounds Sucrose, molasses, starch products and their hydrolysates Nitrogen expressed as crude protein: minimum 45%   Declarations to be made on the label or packaging of compound feeding stuffs:

    — percentage of the total crude protein provided by non-protein nitrogen;

    — indication, in the instructions for use, of the level of total non-protein nitrogen which should not be exceeded in the daily ration of each animal species or category.

"




NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (OS 2006/116 (Cy.14) fel y'u diwygiwyd eisoes gan OS 2006/617 (Cy.69), OS 2006/2928 (Cy.263) ac OS 2006/3256 (Cy.296) ("y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid").

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/77/EC sy'n diwygio Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cyfansoddion organoclorin mewn bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L271, 30.9.2006, t.53).

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Pennod D o Atodlen 5 i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid, yn bennaf drwy —

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cywiro gwall hepgor yn Atodlen 6 a gwallau teipograffyddol yn Atodlenni 3 a 7 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (rheoliad 2(2), (4) a (5)).

Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys y diffiniadau o'r ymadroddion "the Ministers", "prescribed" a "regulations". Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion a'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan OS 1999/672 ac i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), Atodlen 4, paragraff 6.back

[2] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[3] OS 2006/116 (Cy.14), fel y'i diwygiwyd gan OS 2006/617 (Cy.69), OS 2006/2928 (Cy.263) ac OS 2006/3256 (Cy.296).back



English version



ISBN 978 0 11 091671 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 December 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073171w.html