BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3193 (Cy.280)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
7 Tachwedd 2007 | |
|
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
9 Tachwedd 2007 | |
|
Yn dod i rym |
3 Rhagfyr 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 9, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[1] i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt[2] ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 9(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 3 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Argyfwng cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear
2.
—(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal at ddibenion—
(a) gwaredu halogion cemegol, biolegol neu ymbelydrol oddi ar bobl os bydd argyfwng[3] sy'n golygu bod halogion o'r fath yn cael, neu y gallant gael, eu gollwng; a
(b) dal, am gyfnod rhesymol, unrhyw ddwr a ddefnyddir at ddiben a grybwyllwyd yn is-baragraff (a).
(2) Wrth gymryd camau at ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1), rhaid i awdurdod tân ac achub wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i atal niwed difrifol i'r amgylchedd neu i gyfyngu ar niwed o'r fath.
Achub a diogelu yn achos argyfyngau penodol
3.
—(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal ar gyfer achub pobl a all gael eu dal ac ar gyfer eu diogelu rhag niwed difrifol, i'r graddau y mae'n ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, os digwydd—
(a) argyfwng sy'n golygu bod adeilad neu adeiledd arall wedi cwympo; neu
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (2), argyfwng sy'n dod o dan adran 58(a) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 sydd—
(i) yn ymwneud â thrên, tram neu awyren; a
(ii) yn debyg o ofyn bod awdurdod tân ac achub yn defnyddio ei adnoddau y tu hwnt i gwmpas ei weithrediadau dydd i ddydd.
(2) Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys i ddarparu ar gyfer argyfwng i'r graddau y mae'n ymwneud â thwnnel neu gloddfa yn cwympo.
(3) Yn yr erthygl hon—
(a) nid yw "adeiledd" ("structure") yn cynnwys twnnel neu gloddfa;
(b) ystyr "twnnel" ("tunnel") yw tramwyfa o waith dynion;
(c) ystyr "cloddfa" ("mine") yw cloddfa o fewn ystyr adran 180 o Ddeddf Cloddfeydd a Chwareli 1954[4].
Y camau y mae angen eu cymryd at ddibenion swyddogaethau a roddir drwy Orchymyn
4.
Wrth wneud y ddarpariaeth sy'n ofynnol o dan erthygl 2 neu 3, rhaid i awdurdod tân ac achub—
(a) sicrhau y darperir y gweithwyr, y gwasanaethau a'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ateb pob gofyn rhesymol yn effeithlon;
(b) gwneud trefniadau ar gyfer delio â galwadau am gymorth;
(c) gwneud trefniadau ar gyfer sicrhau gwybodaeth angenrheidiol; ac
(ch) gwneud trefniadau i sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i atal difrod i eiddo sy'n deillio o gamau a gymerwyd yn unol â'r ddarpariaeth honno neu i gyfyngu ar ddifrod o'r fath.
Ymateb i argyfyngau y tu allan i ardal awdurdod tân ac achub
5.
—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a) awdurdod tân ac achub yn cynnal adnoddau arbenigol ("yr awdurdod cyntaf");
(b) argyfwng o fath a bennir yn erthygl 2 neu 3 wedi digwydd neu'n debyg o ddigwydd yn ardal awdurdod tân ac achub arall ("yr ail awdurdod"); ac
(c) yr ail awdurdod wedi gofyn i'r awdurdod cyntaf ddefnyddio'r adnoddau hynny yn ardal yr ail awdurdod.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cyntaf ddefnyddio ei adnoddau arbenigol yn ardal yr ail awdurdod i'r graddau y mae'n rhesymol at ddibenion delio â'r argyfwng.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr "adnoddau arbenigol" ("specialist resources") yw adnoddau a gynhelir at ddibenion cymryd camau yn unol â darpariaeth a wnaed yn unol ag erthygl 2 neu 3, gan gynnwys unrhyw weithwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol at y dibenion hynny.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
7 Tachwedd 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae swyddogaethau craidd awdurdodau tân ac achub wedi'u nodi yn adrannau 6 i 8 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ('y Ddeddf'). Y swyddogaethau sy'n gysylltiedig â diogelwch rhag tân, diffodd tân a damweiniau traffig ffyrdd yw'r rhain. Mae adran 9 o'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu drwy orchymyn swyddogaethau craidd eraill ynghylch argyfyngau y mae'n rhaid i awdurdodau tân ac achub ddarparu ar eu cyfer. Mae "emergencies" wedi'i ddiffinio yn adran 58 o'r Ddeddf.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r argyfyngau a ddisgrifir yn erthyglau 2 a 3.
Mae erthygl 2 yn ymdrin ag argyfyngau sy'n ymwneud â halogion cemegol, biolegol, neu ymbelydrol.
Mae erthygl 3 yn ymdrin ag argyfyngau sy'n ymwneud ag adeiledd yn cwympo. Mae'n ymdrin hefyd ag argyfyngau sy'n ymwneud â thrên, tram neu awyren ("argyfyngau trafnidiaeth"), ond nid yw'n gymwys o ran argyfyngau trafnidiaeth onid yw'r digwyddiad yn debyg o ofyn bod awdurdod tân ac achub yn defnyddio adnoddau y tu hwnt i gwmpas ei weithrediadau arferol o ddydd i ddydd. Nid yw'n ofynnol i awdurdodau ddarparu ar gyfer delio ag argyfyngau trafnidiaeth i'r graddau y maent yn ymwneud â thwnnel neu gloddfa yn cwympo.
Mae erthygl 4 yn pennu'r pethau y mae'n rhaid i awdurdodau tân ac achub eu gwneud wrth ddarparu ar gyfer argyfyngau o'r disgrifiadau yn erthygl 2 neu 3.
Pan fo gan awdurdod tân ac achub adnoddau arbenigol, gan gynnwys gweithwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, i'w alluogi i ddelio ag argyfyngau o'r math a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn, a bod argyfwng felly yn digwydd neu'n debyg o ddigwydd yn ardal awdurdod arall, mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod sy'n meddu ar yr adnoddau arbenigol, os gofynnir iddo wneud hynny, ddefnyddio'r adnoddau hynny yn ardal yr awdurdod arall hwnnw i'r graddau y mae'n rhesymol at ddibenion delio â'r argyfwng.
Mae asesiad effaith reoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael o'r Gangen Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729253).
Notes:
[1]
2004 p.21.back
[2]
Mae pwer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 62. Mae'r pwer hwnnw wedi'i freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[3]
Mae "emergency" wedi'i ddiffinio yn adran 58 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.back
[4]
1954 p.70; OS 1993/1897 ac OS 1999/2024 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back
English version
ISBN
978 0 11 091665 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
19 November 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073193w.html