BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 Rhif 3235 (Cy.285)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073235w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3235 (Cy.285)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007

  Gwnaed 12 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 14 Rhagfyr 2007 

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 225(5)(a) o Ddeddf Tai 2004[1] ac sydd bellach wedi'u breinio[2] yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar y 14 Rhagfyr 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fydd awdurdod tai lleol yng Nghymru yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn ei ardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.

Ystyr Sipsiwn a Theithwyr at ddibenion adran 225 o Ddeddf Tai 2004
    
2. At ddibenion adran 225 o Ddeddf Tai 2004 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety sipsiwn a theithwyr) ystyr "sipsiwn a theithwyr" ("gypsies and travellers") yw —


Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

12 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 225 o Ddeddf Tai 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau tai lleol i gyflawni asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr sy'n preswylio yn eu hardal neu'n cyrchu iddi, pan fyddant yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn eu hardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio "sipsiwn a theithwyr" at ddibenion y ddyletswydd honno o ran Cymru.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Gymunedau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ, ffôn 01685 729210, neu drwy e-bostio Laura.Evans@cymru.gsi.gov.uk.


Notes:

[1] 2004 p.34. Mae'r pwer a roddir gan adran 225 yn arferadwy o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.back

[2] Trosglwyddwyd pwer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 225 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).back



English version



ISBN 978 0 11 091689 7


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 December 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073235w.html