Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007 No. 3563 (Cy. 313)


BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007 No. 3563 (Cy. 313)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073563_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

17 Rhagfyr 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Rhagfyr 2007

Yn dod i rym

14 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004(3) yn unol â pharagraffau (2) i (11) isod.

(2) Diwygir y diffiniad o "cymwysterau allanol a gymeradwywyd" yn rheoliad 2(1) fel a ganlyn–

(aa) yn lle'r geiriau "adran 96(5)" rhodder y geiriau "adrannau 96(5) a 97(5)"; a

(bb) yn lle'r geiriau "adran 96" rhodder y geiriau "adrannau 96 a 97";

(3) Yn rheoliad 2(1) mewnosoder y canlynol yn y man priodol –

ystyr "canllawiau Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd" ("Statutory Assessment and Reporting Arrangements guidance") yw'r canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru bob blwyddyn ysgol ar weinyddu asesiadau statudol;";

"ystyr "y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig" ("the National Database of Accredited Qualifications") yw'r gronfa ddata a gynhelir ac a gyhoeddir ar y cyd gan Weinidogion Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon;"(4).

(4) Yn rheoliad 6(2) dileer paragraff (b).

(5) Yn rheoliad 6(3) ar ôl y geiriau "i bennaeth yr ysgol newydd" mewnosoder dileer "cyn" a mewnosoder "cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad pan ddaeth pennaeth yr hen ysgol i wybod gyntaf fod y disgybl wedi cofrestru yn yr ysgol newydd a beth bynnag dim hwyrach na chyn"

(6) Ym mharagraff 1(g) o Atodlen 1 dileer y geiriau "ac, os felly, gyda phwy".

(7) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 dileer is-baragraff (i).

(8) Yn lle paragraff 4 yn Rhan 1 o Atodlen 2 rhodder–

"4.–(1) Enw unrhyw bwnc y rhoddwyd enw'r disgybl ar ei gyfer o ran cymhwyster allanol a'r radd (os oes un) a gafwyd.

(2) Cyfartaledd y pwyntiau a sgoriodd y disgybl mewn arholiadau pwnc o'r fath y rhoddwyd enw'r disgybl ar eu cyfer.

(3) At ddibenion y paragraff hwn rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch dyraniad y pwyntiau i bob cymhwyster allanol a gymeradwywyd yn unol â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig.".

(9) Yn lle paragraff 6 yn Rhan 3 o Atodlen 2 a'i bennawd rhodder–

"Disgyblion y rhoddwyd eu henwau ar gyfer cymhwyster allanol a gymeradwywyd

6.–(1) Enw unrhyw bwnc y rhoddwyd enw'r disgybl ar ei gyfer o ran cymhwyster allanol a gymeradwywyd a'r radd (os oes un) a gafwyd.

(2) Cyfartaledd y pwyntiau a sgoriodd y disgybl mewn arholiadau pwnc o'r fath y rhoddwyd enw'r disgybl ar eu cyfer.

(3) At ddibenion y paragraff hwn rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch dyraniad y pwyntiau i bob cymhwyster allanol a gymeradwywyd yn unol â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig."

(10) Yn Rhan 3 o Atodlen 2 dileer paragraff 7.

(11) Ym mharagraff 1(1), 2(1) a 3(1) o Atodlen 3 yn lle'r geiriau "sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf " rhodder "a bennir yn y canllawiau Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd".

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

17 Rhagfyr 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân newidiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004").

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio'r diffiniad o "cymwysterau allanol a gymeradwywyd". Mae rheoliad 2(4) yn dileu rheoliad 6(2) o Reoliadau 2004 fel nad yw disg hyblyg mwyach yn cael ei ystyried yn fodd derbyniol i drosglwyddo'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Reoliadau 2004.

Mae rheoliad 2(5) yn diwygio'r amser y mae'n rhaid i bennaeth hen ysgol disgybl anfon y ffeil drosglwyddo gyffredin at bennaeth ysgol newydd y disgybl o'i fewn. Yn yr amgylchiad hwn rhaid anfon y ffeil cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad y daeth y pennaeth i wybod gyntaf fod y disgybl wedi cofrestru yn yr ysgol newydd a beth bynnag, o fewn 15 niwrnod ysgol o gofrestriad y disgybl yn yr ysgol honno.

Mae rheoliad 2(8) yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad y pennaeth i ddisgyblion sy'n oedolion ac i rieni gynnwys cyfartaledd y pwyntiau a sgoriwyd gan ddisgybl yn y pedwerydd cyfnod allweddol o ran unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd. Penderfynir ar unrhyw gwestiwn ynghylch y nifer o bwyntiau a ddyrennir i bob pwnc yn unol â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 2(9) yn ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod cwricwlaidd a gedwir gan y pennaeth gofnodi cyfartaledd y pwyntiau a sgoriwyd gan ddisgybl yn unrhyw gyfnod allweddol o ran unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd. Penderfynir ar unrhyw gwestiwn ynghylch y nifer o bwyntiau a ddyrennir i bob pwnc yn ôl y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 30, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 106, gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) Atodlen 9, paragraff 57 a chan Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 46. Am y diffiniad o "prescribed" ac o "regulations" gweler adran 579 o Ddeddf 1996. Back [1]

(2)

Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (O.S 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2004/1026 (Cy.123) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253), O.S. 2005/1396 (Cy.110) ac O.S. 2005/3239 (Cy.244). Back [3]

(4)

Y wefan ar gyfer y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig yw www.accreditedqualifications.org.uk. Mae'r wefan hon yn cynnwys manylion cymwysterau a achredir gan Weinidogion Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon. Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073563_we_1.html