![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2008 No. 215 (Cy. 26) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080215_we_1.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud
2 Chwefror 2008
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Chwefror 2008
Yn dod i rym
1 Medi 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau sydd yn adrannau 132, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 (1) ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 132(4) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Medi 2008.
2. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(2).
3. Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn:
4. Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 hepgorer y gair "ac" ar ddiwedd (b).
5. Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 mewnosoder ar ôl (b) y paragraff canlynol–
"(c) dim ond o ran personau sy'n dechrau ar gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ar neu ar ôl 1 Medi 2008 sydd wedi dilyn unrhyw gyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hwnnw o hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn gyfan gwbl neu'n rhannol mewn ysgol, ysgol annibynnol neu sefydliad arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru; ac".
6. Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle "(c)" rhodder "(ch)".
7. Ym mharagraff 11(3)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 ar ôl "y drwydded;" mewnosoder "a".
8. Hepgorer paragraff 11(3)(b) o Ran 1 o Atodlen 2.
9. Yn is-baragraff 11(3) o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle "(c)" rhodder "(b)".
10. Ym mharagraff (4) o reoliad 6 ac yn is-baragraff 11(1), is-baragraff 11(2) a pharagraff 11(3)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle "Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey" rhodder "Adran Addysg Taleithiau Guernsey".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
2 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, (sy'n gymwys o ran Cymru), yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004. Gwnaed newidiadau i nifer o'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn ennill statws athrawon cymwysedig yng Nghymru. Diwygir y cyfeiriadau at Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey, a beidiodd â bodoli ar 6 Mai 2004 ac a ddisodlwyd gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey.