BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2008 No. 371 (Cy. 37)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080371_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2008

Gwnaed

14 Chwefror 2008

Yn dod i rym

28 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 28 Chwefror 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cyrff penodedig

2. Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156(3) o Ddeddf Tai 1985–

(a) Accord Mortgages Limited (Cwmni Rhif 02139881);

(b) Beacon Homeloans Limited (Cwmni Rhif 05304252);

(c) Morgan Stanley Bank International Limited (Cwmni Rhif 03722571).

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

14 Chwefror 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu tri corff yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985") yn ychwanegol at y cyrff sydd eisoes wedi'u pennu yn yr adran honno a chan Orchmynion blaenorol.

Mae adran 156 o Ddeddf 1985 yn darparu bod y rhwymedigaeth a all godi i ad-dalu gostyngiad o dan gyfamod a roddir gan y tenant ac sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn arwystl cyfreithiol ar y ty annedd, ond bod blaenoriaeth drosto gan arwystl cyfreithiol sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu.

At ddibenion yr adran, mae cymdeithasau adeiladu, banciau, cwmnïau yswiriant, cymdeithasau cyfeillgar ac unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru, yn sefydliadau benthyca cymeradwy.

Mae cyrff o'r fath hefyd yn dod yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996.

Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion pan ddiogelir hawl tenant i brynu, a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion pan fo gan denant yr hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a bennwyd yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion yr hawliau hynny.

(1)

1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 p.50, Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 p.52. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Tai 1985 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672 erthygl 2, Atodlen 1 iddo). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 p.63, Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 p.28. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080371_we_1.html