![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 No. 503 (Cy. 44) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080503_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
23 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Chwefror 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan adran 4(3) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau sy'n gynghorau sir neu'n gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn unig ac mae'n effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.
2. Pennir y dangosyddion perfformiad o ran y swyddogaethau a nodir yn y tabl isod.
Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y mesurir perfformiad y swyddogaethau hynny drwyddynt |
Gwasanaethau Cymdeithasol |
Pob dangosydd yn Atodlen 1 |
Tai |
Pob dangosydd yn Atodlen 2 |
Addysg |
Pob dangosydd yn Atodlen 3 |
Rheoli gwastraff |
Pob dangosydd yn Atodlen 4 |
Trafnidiaeth/Priffyrdd |
Pob dangosydd yn Atodlen 5 |
Diogelu'r Cyhoedd |
Pob dangosydd yn Atodlen 6 |
Effeithlonrwydd Ynni |
Pob dangosydd yn Atodlen 7 |
Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor |
Pob dangosydd yn Atodlen 8 |
3. Dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru ) 2005(3).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2008
Erthygl 2
Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
---|---|---|
NS1 | Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd. | The rate of delayed transfers of care for social care reasons per 1,000 population aged 75 or over. |
NS2 | Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd): | The rate of older people (aged 65 or over): |
(a) y rhoddir cymorth iddynt yn y gymuned fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth; a |
(a) supported in the community per 1,000 population aged 65 or over at 31 March; and |
|
(b) y mae'r awdurdod yn rhoi cymorth iddynt mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth. |
(b) whom the authority supports in care homes per 1,000 population aged 65 or over at 31 March. |
|
NS3 | (a) canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda Chynllun Gofal ar waith; a |
(a) the percentage of first placements of looked after children during the year that began with a Care Plan in place; and |
(b) ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, y ganran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol. |
(b) for those children looked after whose second review (due at 4 months) was due in the year, the percentage with a plan for permanence at the due date. |
|
NS4 | Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth. | The percentage of children looked after at 31 March who have experienced one or more change of school, during a period or periods of being looked after, which were not due to transitional arrangements, in the 12 months to 31 March. |
Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
---|---|---|
NS5 | (a) Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sydd wedi defnyddio llety gwely a brecwast yn ystod y flwyddyn, ac eithrio mewn argyfyngau; a |
(a) The number of homeless families with children who have used bed and breakfast accommodation during the year, except in emergencies; and |
(b) Cyfartaledd nifer y diwrnodau y mae pob teulu digartref gyda phlant wedi eu treulio mewn llety gwely a brecwast. |
(b) The average number of days all homeless families with children spent in bed and breakfast accommodation. |
|
NS6 | Cyfartaledd nifer y dyddiau gwaith rhwng cyflwyno person fel person digartref i'r awdurdod a chyflawni dyletswydd yr awdurdod at aelwydydd a geir yn statudol ddigartref. | The average number of working days between homeless presentation and discharge of duty for households found to be statutorily homeless. |
NS7 | Cyfartaledd nifer yr unedau cymorth sy'n ymwneud â thai fesul 1000 o'r boblogaeth, ar gyfer pob un o'r mathau canlynol o wasanaeth cymorth sy'n ymwneud â thai: | The average number of units of housing-related support per 1000 population, for each of the following types of housing related support service: |
(i) cymorth fel y bo'r angen; |
(i) floating support; |
|
(ii) mynediad uniongyrchol; |
(ii) direct access; |
|
(iii) llety dros dro; |
(iii) temporary accommodation; |
|
(iv) llety parhaol; |
(iv) permanent accommodation; |
|
(v) llety gwarchod i bobl hyn; a |
(v) sheltered accommodation for older people; and |
|
(vi) gwasanaethau larwm cymunedol. |
(vi) community alarm services. |
Rhif y Dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
---|---|---|
NS8 | Canran presenoldeb disgyblion mewn: | Percentage of pupil attendance in: |
(a) ysgolion cynradd; a |
(a) primary schools; and |
|
(b) ysgolion uwchradd. |
(b) secondary schools. |
|
NS9 | Canran: | The percentage of: |
(i) yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rheini sydd yng ngofal awdurdod lleol); a |
(i) all pupils (including those in local authority care); and |
|
(ii) y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol, |
(ii) pupils in local authority care, |
|
sydd mewn yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol a oedd yn 15 oed ar y 31 Awst blaenorol ac yn gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd. | in any local authority maintained school aged 15 at the preceding 31 August and leave compulsory education, training or work-based learning without an approved external qualification. | |
NS10 | Canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon. | The percentage of pupils, assessed at the end of Key Stage 2, in schools maintained by the local authority, achieving the Core Subject Indicator, as determined by Teacher Assessment. |
NS11 | Canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon. | The percentage of pupils assessed at the end of Key Stage 3, in schools maintained by the local authority, achieving the Core Subject Indicator, as determined by Teacher Assessment. |
NS12 | Cyfartaledd y sgôr pwyntiau ar gyfer disgyblion a oedd yn 15 oed ar y 31 Awst blaenorol, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol. | The average point score for pupils aged 15 at the preceding 31 August, in schools maintained by the local authority. |
NS13 | Canran y disgyblion a aseswyd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cael Asesiad Athrawon yn y Gymraeg (iaith gyntaf): | The percentage of pupils assessed in schools maintained by the local authority, receiving a Teacher Assessment in Welsh (first language) |
(i) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2; a |
(i) at the end of Key Stage 2; and |
|
(ii) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. |
(ii) at the end of Key Stage 3. |
Rhif y Dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
---|---|---|
NS14 | Canran y gwastraff trefol: | The percentage of municipal waste: |
(i) a ailddefnyddir ac/neu a ailgylchir; a |
(i) reused and/or recycled; and |
|
(ii) a gompostir neu a drinnir yn fiolegol mewn ffordd arall. |
(ii) composted or treated biologically in another way. |
|
NS15 | Canran y gwastraff trefol pydradwy a anfonir i safleoedd tirlenwi. | The percentage of bio-degradable municipal waste sent to landfill sites. |
Rhif y dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
---|---|---|
NS16 | Canran: | The percentage of: |
(a) prif ffyrdd (dosbarth A); a |
(a) principal (A) roads; and |
|
(b) ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd/ ffyrdd dosbarthedig |
(b) non-principal/classified roads |
|
sydd mewn cyflwr gwael yn gyffredinol. | in overall poor condition. |
Rhif y dangosydd/ Indicator number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
---|---|---|
NS17 | Canran y busnesau uchel eu risg sy'n agored i gael arolygiadau wedi'u rhaglennu o ran: | The percentage of high risk businesses liable to programmed inspections that were inspected as regards: |
(i) Safonau Masnach; |
(i) Trading Standards; |
|
(ii) Hylendid Bwyd; |
(ii) Food Hygiene; |
|
(iii) Iechyd Anifeiliaid; a |
(iii) Animal Health; and |
|
(iv) Iechyd a Diogelwch. |
(iv) Health and Safety. |
Rhif y dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline Indicator |
---|---|---|
NS18 | (a) Canran y gostyngiad mewn allyriadau carbon diocsid yn y stoc adeiladau cyhoeddus annomestig; |
(a) Percentage reduction in carbon dioxide emissions in the non-domestic public building stock; |
(b) – |
(b) – |
|
(i) Canran y gostyngiad yn y defnydd o ynni yn y stoc dai; a |
(i) Percentage reduction in energy use in the housing stock; and |
|
(ii) Canran y gostyngiad mewn allyriadau carbon diocsid yn y stoc dai. |
(ii) Percentage reduction in carbon dioxide emissions in the housing stock. |
Rhif y dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
---|---|---|
NS19 | Yr amser a gymrwyd i brosesu hawliadau newydd a digwyddiadau o newid mewn Budd-daliadau Tai (BT) a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor (BTG). | Time taken to process Housing Benefit (HB) and Council Tax Benefit (CTB) new claims and change events. |
NS20 | Nifer y newidiadau mewn amgylchiadau sy'n effeithio ar hawl cwsmeriaid i gael Budd-daliadau Tai (BT) neu Fudd-daliadau Treth Gyngor (BTG) yn ystod y flwyddyn. | The number of changes of circumstances which affect customers' entitlement to Housing Benefit (HB) or Council Tax Benefit (CTB) within the year. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dangosyddion perfformiad, ar gyfer Cymru, y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2008. Mae'r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005.
Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae erthygl 2 yn nodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur perfformiad pa swyddogaethau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol perthnasol fel awdurdodau gwerth gorau.
Mae Atodlenni 1 i 8 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:
Atodlen 1 - Gwasanaethau Cymdeithasol
Atodlen 2 - Tai
Atodlen 3 - Addysg
Atodlen 4 - Rheoli gwastraff
Atodlen 5 - Trafnidiaeth/Priffyrdd
Atodlen 6 - Diogelu'r Cyhoedd
Atodlen 7 - Effeithlonrwydd Ynni
Atodlen 8 - Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor.