BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn) (Cymru) 2008 No. 591 (Cy. 60) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080591_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
3 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 245(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac eithrio mewn perthynas ag awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007;
ystyr "Deddf 1999" ("the 1999 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1999(2); ac
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(3).
2. Daw'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2008–
(a) adran 137;
(b) adran 140;
(c) adran 210; ac
(ch) adran 241, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Rhan 8 o Atodlen 18 i–
(i) adrannau 5 a 6(2)(c), (d) ac (l) o Ddeddf 1999;
(ii) y gair "5," yn adran 28(2) o Ddeddf 1999;
(iii) y geiriau "Subject to subsection (5)," yn adran 21(4) o Ddeddf 2000; a
(iv) adran 21(5) o Ddeddf 2000.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 ("Deddf 2007") i rym o ran Cymru ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2007 i rym ar 1 Ebrill 2008:
(a) adran 137, sy'n mewnosod adran 3(4) newydd yn Neddf Llywodraeth Leol 1999 ("Deddf 1999") fel bod rhaid i awdurdod, wrth benderfynu ar sut i gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 3(1) o Ddeddf 1999 ac wrth benderfynu â phwy i ymgynghori o dan adran 3(2) o'r Ddeddf honno ac ar ffurf, cynnwys ac amseriad y cyfryw ymgynghoriadau, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;
(b) adran 140, sy'n hepgor adran 5 o Ddeddf 1999 (dyletswydd ar awdurdod i gynnal adolygiadau gwerth gorau);
(c) adran 210, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru, i wneud darpariaeth o ran Cymru, drwy orchymyn, yn cymhwyso unrhyw ddarpariaethau o adrannau 205 i 208 o Ddeddf 2007 sy'n ymwneud â chydawdurdodau gwastraff; ac
(ch) adran 241, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Rhan 8 o Atodlen 18 o ddarpariaethau yn Neddf 1999 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 ynghylch adran 5 o Ddeddf 1999.