BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 No. 1080 (Cy. 114) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081080_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
14 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Ebrill 2008
Yn dod i rym
15 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a fwydir i'r cyfryw anifeiliaid(2).
Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Ebrill 2008.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "yr Asiantaeth" ("the Agency") yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i "awdurdod bwyd" yr ystyr a roddir i "food authority" yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4);
ystyr "awdurdod bwyd anifeiliaid" ("feed authority") yw'r awdurdod sy'n ofynnol gan adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(5) i orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal;
mae i "bwyd" yr ystyr a roddir i "food" yn Erthygl 2 o Reoliad 178/2002;
mae i "bwyd anifeiliaid" yr ystyr a roddir i "feed" yn Erthygl 3.4 o Reoliad 178/2002;
ystyr "cynnyrch penodedig" ("specified product") yw unrhyw gynnyrch a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn sy'n tarddu o Tsieina neu a draddodwyd o Tsieina;
mae i "gweithredydd" yr ystyr a roddir i "operator" ym Mhenderfyniad y Comisiwn;
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2008/289/EC ar fesurau brys ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig heb awdurdod, sef "Bt 63" mewn cynhyrchion reis(6);
ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;
mae i "rhoi gyntaf ar y farchnad" yr ystyr a roddir i "first placing on the market" ym Mhenderfyniad y Comisiwn; ac
ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer") mewn perthynas ag awdurdod bwyd anifeiliaid neu ag awdurdod bwyd, yw unrhyw berson (p'un ai yw'n un o swyddogion yr awdurdod ai peidio) a awdurdodir ganddo yn ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu haseinio–
(a) drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (7), i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(8), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;
dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod yr aseiniwyd hwy iddo.
3.–(1) Gwaherddir rhoi unrhyw gynnyrch penodedig gyntaf ar y farchnad oni bai–
(a) bod yr amodau a bennir ym mharagraffau (1) a (3) a'r ail a'r drydedd frawddeg o baragraff (2) o Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn yn cael eu cydymffurfio â hwy mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw; a
(b) bod trefniadau wedi cael eu gwneud i sicrhau cydymffurfiaeth â'r amod a bennir yn y frawddeg gyntaf o baragraff (2) o Erthygl 2 o'r Penderfyniad hwnnw mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.
(2) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gwaharddiad ym mharagraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu i'r ddau.
4.–(1) Bydd gweithredydd sy'n dod yn ymwybodol o ganlyniad cadarnhaol o brawf am bresenoldeb y reis a addaswyd yn enetig, sef "Bt 63" mewn cynnyrch penodedig sydd o dan ei reolaeth yn hysbysu'r Asiantaeth am y canlyniad hwnnw ar unwaith.
(2) Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu i'r ddau.
5.–(1) Dyletswydd pob awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.
(2) Dyletswydd pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal mewn perthynas â bwyd.
(3) At ddibenion galluogi'r awdurdod bwyd anifeiliaid i arfer ei ddyletswydd o dan baragraff (1) a'r awdurdod bwyd i arfer ei ddyletswydd o dan baragraff (2), bydd un o swyddogion awdurdodedig yr awdurdod dan sylw yn sicrhau bod y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yn cael eu cadw.
(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn –
(a) Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â'r amodau y caniateir i lwythi o gynhyrchion penodedig gael eu rhoi gyntaf ar y farchnad odanynt);
(b) y frawddeg gyntaf o Erthygl 3 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â mesurau rheoli sy'n ymwneud â chynhyrchion penodedig a gyflwynir i'w mewnforio neu sydd eisoes ar y farchnad); ac
(c) Erthygl 4 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â llwythi halogedig).
(5) Mae pob awdurdod bwyd anifeiliaid a phob awdurdod bwyd i roi'r cymorth a'r wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru a'r Asiantaeth yn gofyn yn rhesymol amdanynt mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau.
6. Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn –
(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(9), gyda'r addasiad y mae is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(2) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, yn is-adrannau (2)(a) a (3)(b) bernir bod y cyfeiriadau at "food" yn gyfeiriadau at fwyd anifeiliaid neu fwyd ac yn is-adran (4)(b) bernir bod y cyfeiriadau at "sale or intended sale" yn gyfeiriadau at "rhoi gyntaf ar y farchnad";
(c) adran 32 (pwerau mynediad), gyda'r addasiad yn is-adran (1) y bernir bod y cyfeiriad at "an enforcement authority" yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd, y bernir bod y cyfeiriadau at "the authority´s area" yn gyfeiriadau at ardal yr awdurdod ac y bernir bod cyfeiriad at "a food authority" yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd;
(ch) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(10), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e) adran 35(2) a (3)(11) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(12); ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at "food authority" yn gyfeiriadau at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
14 Ebrill 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu o ran Cymru Benderfyniad y Comisiwn 2008/289/EC ar fesurau brys ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig heb awdurdod sef "Bt 63" mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L96, 9.4.2008, p.29).
Mae'r Rheoliadau hyn –
(a) yn gwahardd rhoi unrhyw "gynnyrch penodedig" (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1)), gyntaf ar y farchnad, ac eithrio pan fo–
(i) yn dod gydag–
(aa) adroddiad dadansoddol gwreiddiol sydd wedi ei seilio ar fethod adeiledd-benodol arbennig i ganfod y reis a addaswyd yn enetig, sef "Bt 63" ac a ddyroddwyd gan labordy swyddogol neu achrededig sy'n dangos nad yw'r cynnyrch yn cynnwys y reis a addaswyd yn enetig, sef "Bt 63" neu wedi ei wneud neu wedi ei gynhyrchu o'r cyfryw reis, neu
(bb) os nad yw'n cynnwys reis, neu wedi ei wneud neu wedi ei gynhyrchu o reis, datganiad gan y gweithredydd sy'n gyfrifol am y llwyth sy'n dangos nad yw'r bwyd yn cynnwys reis neu nad yw wedi ei wneud neu wedi ei gynhyrchu o reis; neu
(ii) y gweithredydd a sefydlwyd yn y Gymuned sy'n gyfrifol am roi'r cynnyrch gyntaf ar y farchnad wedi peri profi'r cynnyrch ac mae'r adroddiad dadansoddol o ran y prawf hwnnw yn dangos nad yw'n cynnwys y reis a addaswyd yn enetig, sef "Bt 63" (rheoliad 3(1)(a)); a
(iii) gofynion penodol ar gyfer llwythi hollt yn cael eu cydymffurfio â hwy (rheoliad 3(1)(b));
(b) yn darparu bod person sy'n mynd yn groes i'r gwaharddiad hwnnw gan wybod hynny yn euog o dramgwydd ac yn rhagnodi cosbau am y tramgwydd hwnnw (rheoliad 3(2));
(c) yn ei gwneud yn ofynnol bod gweithredydd sy'n dod yn ymwybodol o ganlyniad cadarnhaol o brawf am bresenoldeb y reis a addaswyd yn enetig, sef "Bt 63" mewn cynnyrch penodedig sydd o dan ei reolaeth yn hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd am y canlyniad hwnnw ar unwaith (rheoliad 4(1));
(ch) yn darparu bod person sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn rhagnodi cosbau am y tramgwydd hwnnw (rheoliad 4(2));
(d) yn darparu am eu gorfodi (rheoliad 5); ac
(dd) yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 6).
1972 p. 68. Back [1]
O.S. 2005/1971. Back [2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol Parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [3]
1990 p.16. Back [4]
1970 p. 40. Back [5]
OJ Rhif L96, 9.4.2008, t.29. Back [6]
1984 p.22. Back [7]
1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [8]
Diwygiwyd adran 21 gan O.S.2004/3279. Back [9]
Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu. Back [10]
Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279. Back [11]
Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16. Back [12]