BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru (Diwygio) 2008 No. 1512 (Cy. 155) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081512_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
10 Mehefin 2008
Yn dod i rym
12 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 5(4)(b) a 6(5), 8(1)(e), 10(1) a (5), 15(1) a (3) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2006 a pharagraff 8 o Atodlen 1 iddi(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Yn unol â pharagraff 35(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3), cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 12 Mehefin 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "y Cwnsler Cyffredinol" ("the Counsel General) yw'r person a benodir o dan adran 49 o Ddeddf 2006;
ystyr "y Cynulliad" ("the Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cyfansoddwyd ef gan adran 1 o Ddeddf 2006;
ystyr "Cynulliad 1998" ("the 1998 Assembly) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cyfansoddwyd ef gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4);
ystyr "Deddf 2006" ("the 2006 Act") yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(5);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Comisiynydd Pobl Hyn (Cymru) 2006(6);
ystyr "Gweinidogion Cymru" ("the Welsh Ministers") yw'r personau a benodir o dan adran 48 o Ddeddf 2006;
ystyr "Llywodraeth Cynulliad Cymru" ("the Welsh Assembly Government") yw Llywodraeth Cynulliad Cymru fel y'i diffinnir gan adran 45(1) o Ddeddf 2006;
ystyr "y Prif Weinidog" ("the First Minister") yw'r person a benodir o dan adran 48 o Ddeddf 2006.
3.–(1) Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007(7) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 4 (rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig)–
(a) yn is-baragraff (a) o baragraff (2)–
(i) ar ôl "ac aelodau a chyflogeion" mewnosoder "Llywodraeth Cynulliad Cymru";
(ii) yn lle "y Cynulliad" mewnosoder "Cynulliad 1998"; a
(iii) ar ôl "Cynulliad 1998" mewnosoder "a Llywodraeth Cynulliad Cymru";
(b) ym mharagraff (3)–
(i) yn lle "yw'r Cynulliad" mewnosoder "yw Cynulliad 1998"; a
(ii) ar ôl "Cynulliad 1998," mewnosoder "Llywodraeth Cynulliad Cymru,".
(3) Yn rheoliad 5 (rhoi cymorth mewn achosion)–
(a) yn is-baragraff (c) o baragraff (2)–
(i) yn lle "y Cynulliad" mewnosoder "Gynulliad 1998"; a
(ii) ar ôl "Gynulliad 1998" mewnosoder ", Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol".
(4) Yn rheoliad 8 (achosion sy'n destun archwilio)–
(a) ym mharagraff (c)–
(i) yn lle "gan y Cynulliad" mewnosoder "gan Gynulliad 1998"; a
(ii) ar ôl "Gynulliad 1998" mewnosoder ", Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol".
(5) Yn rheoliad 11 (rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad ag archwiliad)–
(a) yn is-baragraff (a) o baragraff (3)–
(i) ar ôl "ac aelodau a chyflogeion" mewnosoder "Llywodraeth Cynulliad Cymru";
(ii) yn lle "y Cynulliad" mewnosoder "Cynulliad 1998"; a
(iii) ar ôl "Cynulliad 1998" mewnosoder "a Llywodraeth Cynulliad Cymru";
(b) ym mharagraff (4)–
(i) yn lle "yw'r Cynulliad" rhodder "yw Cynulliad 1998";
(ii) ar ôl "Cynulliad 1998" mewnosoder "Llywodraeth Cynulliad Cymru,"; a
(iii) yn lle "gan y Cynulliad" rhodder "gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol".
(6) Yn rheoliad 14 (adroddiadau) yn lle is-baragraff (b) o baragraff (5) rhodder "i'r Cynulliad a Dau Dy'r Senedd".
(7) Yn rheoliad 15 (camau pellach yn sgil adroddiad) ym mharagraff (1) yn lle "y Cynulliad" rhodder "Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol".
(8) Yn rheoliad 16 (adroddiadau i'r Cynulliad)–
(a) ym mharagraff (1) yn lle "i'r Cynulliad" rhodder "i'r Prif Weinidog";
(b) ym mharagraff (2) yn lle "i'r Cynulliad" rhodder "i'r Prif Weinidog";
(c) yn lle paragraff (4) rhodder–
"Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn fan bellaf, anfon copi o'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (2) a (3) at y Cynulliad a dau Dy'r Senedd".
Gwenda Thomas
O dan arweiniad y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
10 Mehefin 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007 ("Rheoliadau 2007") a wnaed o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hyn (Cymru) 2006.
Mae Rheoliadau 2007 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru. Maent yn cynnwys gofynion ynghylch y Cynulliad ar gyfer rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig, darparu cymorth i bobl hyn mewn achosion rhagnodedig, archwilio disgrifiadau penodedig o achosion a pharatoi a dosbarthu adroddiadau penodol.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Deddf 2006") yn gwneud darpariaethau newydd i Lywodraeth Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Rheoliadau 2007 fel yr ystyrir sy'n briodol o ganlyniad i Ddeddf 2006. Addesir pob cyfeiriad at y Cynulliad yn Rheoliadau 2007 er mwyn pennu a ydyw'n gymwys i'r Cynulliad fel y cyfansoddwyd ef gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; Llywodraeth Cynulliad Cymru; Comisiwn y Cynulliad; y Cynulliad (fel y cyfansoddwyd ef gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006); Gweinidogion Cymru; y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol.
2006 p.30, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388). Back [1]
Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]
2006 p.32, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (O.S. 2007/1388). Back [3]
1998 p.38. Back [4]
2006 p.32. Back [5]
2006 p.30. Back [6]
O.S. 2007/398 (Cy.44). Back [7]