BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2008 No. 1646 (Cy. 159) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081646_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
23 Mehefin 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Mehefin 2008
Yn dod i rym
17 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol ar fwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid neu y porthir anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd ag ef(2).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Gorffennaf 2008.
(3) Yn y rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008(3).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol–
(a) yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o "awdurdod bwyd anifeiliaid" yn lle "adran 67(1)" rhodder "adran 67(1A)";
(b) ym mharagraff (1) o reoliad 4 (gorfodi) hepgorer y geiriau "neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth,"; ac
(c) yn rheoliad 5 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990) ym mharagraff (c) (sy'n ymwneud ag adran 32 – pwerau mynediad) hepgorer y geiriau "neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth".
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Mehefin 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 ("y prif Reoliadau").
Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith, o ran Cymru, Benderfyniad y Comisiwn 2006/601/EC ar fesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd "LL RICE 601" mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L244, 7.9.2006, t.27) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2008/162/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2006/601/EC sy'n ymwneud â mesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd "LL RICE 601" mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L52, 27.2.2008, t.25).
Mae'r Rheoliadau hyn–
(1) yn diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau i gywiro gwall teipograffyddol; a
(2) yn diwygio rheoliadau 4 a 5 o'r prif Reoliadau i ddileu geiriau diangen.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.