BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2008 No. 1806 (Cy. 174) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081806_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
7 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
30 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1).
Cafwyd ymgynghori yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Mae Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(3) wedi'u diwygio'n unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn nheitl testun Cymraeg Atodlen 7 mewnosoder "ac a fwriedir" ar ôl "a ganiateir".
(3) Ym Mhennod A o Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir ac a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), yn lle'r eitemau ynghylch lleihau'r risg o dwymyn llaeth, rhodder yr eitemau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2008
Rheoliad 2(2)
Yr eitemau sydd i'w rhoi yn lle'r eitemau ynghylch lleihau'r risg o dwymyn llaeth yn Atodlen 7 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
Particular nutritional purpose | Essential nutritional characteristics | Species or category of animal | Labelling declarations | Recommended length of time for use | Other provisions |
---|---|---|---|---|---|
Reduction of the risk of milk fever | – Low level of calcium | Dairy cows |
|
1 to 4 weeks before calving | Indicate in the instructions for use:
|
and/or | |||||
– Low cations/anions ratio |
|
1 to 4 weeks before calving | Indicate in the instructions for use:
|
||
or | |||||
– High level of zeolite (synthetic sodium aluminium silicate) | Content of synthetic sodium aluminium silicate | The 2 weeks before calving | Indicate in the instructions for use:
|
||
or | |||||
– High level of calcium in the form of highly available calcium salts | Total calcium content, sources and respective quantity of calcium | From first signs of parturition to 2 days after parturition | Indicate on the package, container or label:
|
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/116 (Cy.14)) fel y'u diwygiwyd eisoes gan O.S. 2006/617 (Cy.69), O.S. 2006/2928 (Cy.263), O.S. 2006/3256 (Cy.296) ac O.S. 2007/3171 (Cy.277) ("y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid").
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/4/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 94/39/EC ynghylch bwydydd anifeiliaid sydd wedi'u bwriadu i leihau'r risg o dwymyn llaeth (OJ Rhif L6, 10.1.2008, t.4).
3. Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r tabl yn Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir ac a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio) i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid, drwy roi yn lle'r eitemau presennol, sy'n ymwneud â lleihau'r risg o dwymyn llaeth, yr eitemau diwygiedig a gynhwysir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2008/4/EC. Mae'r Gyfarwyddeb hon yn caniatáu, a hynny'n ddarostyngedig i ofynion labelu penodedig, i ddau fath ychwanegol o fwyd deietegol i anifeiliaid gael eu marchnata i leihau'r risg o dwymyn llaeth mewn buchod godro.
4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro gwall yn nhestun Cymraeg y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (rheoliad 2(2)).
5. Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.
1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion "the Ministers", "prescribed" a "regulations"; Diwygiwyd y diffiniad o "the Ministers" gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S.1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 a throsglwyddwyd hwy wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Atodlen 4, paragraff 6. Back [1]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]
O.S. 2006/116 (Cy. 14), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/617 (Cy. 69), O.S. 2006/2928 (Cy. 263), O.S. 2006/3256 (Cy. 296) ac O.S. 2007/3171 (Cy. 277). Back [3]