BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009 No. 589 (Cy. 56)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090589_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009

Gwnaed

10 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Mawrth 2009

Yn dod i rym

1 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129, 130 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn–

Diwygio rheoliad 1 yn y Rheoliadau Optegol

2. Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o "NHS sight test fee" –

(a) yn lle "£54.67" rhodder "£55.93"; a

(b) yn lle "£19.80" rhodder "£20.26".

Diwygio rheoliad 8 yn y Rheoliadau Optegol

3. Yn Rheoliad 8(3)(1)(ii) (cymhwystra – cyflenwi teclynnau optegol) yn lle "£15,050" rhodder "£15,276".

Diwygio rheoliad 19 yn y Rheoliadau Optegol

4. Diwygir Rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn –

(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle "£51.90" rhodder "£52.90"; a

(b) ym mharagraff (3), yn lle "£13.40" rhodder "£13.70".

Diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol

5.–(1) Diwygir Atodlenni 1 i 3 i'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb – i gyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod yn ei le:

(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£35.50 £36.20
£54.00 £55.10
£79.00 £80.60
£178.40 £182.00
£61.40 £62.70
£78.10 £79.70
£101.20 £103.30
£196.10 £200.10
£182.70 £186.40
£51.90 £52.90

(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig a theclynnau cymhleth)–

(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle "£11.60" rhodder "£11.80";

(b) ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle "£13.90" rhodder "£ 14.20";

(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle "£3.90" rhodder "£4.00";

(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle "£4.40" rhodder "£4.50";

(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle "£58.50", "£51.90" a "£28.00" rhodder "£59.70", "£52.90" a "£28.60" yn eu trefn;

(dd) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle "£58.50" rhodder "£59.70";

(e) ym mharagraff 2(a), yn lle "£13.40" rhodder "£13.70"; ac

(f) ym mharagraff 2(b), yn lle "£33.90" rhodder "£34.60".

(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau – trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth Drosiannol

6. Dim ond o ran taleb a gafodd ei derbyn neu ei defnyddio yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny y bydd y symiau a roddir yn eu lle gan reoliadau 4 a 5 yn gymwys.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Optegol Cyffredinol) 1986

7. Yn rheoliad 13(2)(l)(ii) (cymhwystra ar gyfer profion golwg) yn lle "£15,050" rhodder "£15,276".

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2009

Rheoliad 5(4)

YR ATODLEN ATODLEN 3 I REOLIADAU OPTEGOL FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN

Regulation 19(2) a (3)

"SCHEDULE 3 VOUCHER VALUES – REPAIR

(1) (2)
Nature of Repair Letter of Codes–Values
A B C D E F G H I
£ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 11.25 20.70 33.45 84.15 24.50 33.00 44.80 93.20 86.35
Repair or replacement of two lenses 22.50 41.40 66.90 168.30 49.00 66.00 89.60 186.40 172.70
Repair or replacement of:
The front of a frame 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60
A side of a frame 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90
The whole frame 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y Rheoliadau Optegol"), sy'n darparu ar gyfer taliadau i'w gwneud drwy system dalebau o ran y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Opthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986") sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau am wasanaethau opthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1 o'r Rheoliadau Optegol er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.3% yn y ffioedd ar gyfer profion golwg GIG.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 8 o'r Rheoliadau Optegol i gynyddu'r swm a ddefnyddir yn sail i gyfrifyddu cymhwystra ar gyfer cyfraniad tuag at gost teclyn optegol o dan y Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd ac i gynyddu uchafswm y cyfraniad drwy daleb tuag at gost trwsio ffrâm.

Mae rheoliad 5 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2% yw graddfa'r cynnydd yng ngwerth y talebau yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â thalebau a gafodd eu derbyn neu eu defnyddio ar 31 Mawrth 2009 neu cyn hynny.

Mae Rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 i gynyddu'r swm a ddefnyddir yn sail i gyfrifyddu cymhwystra ar gyfer prawf golwg am ddim o dan y Rheoliadau hyn.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

O.S. 1997/818 fel y'i diwygiwyd. Back [2]

(3)

O.S. 1986/975 fel y'i diwygiwyd. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090589_we_1.html