BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2009 No. 784 (Cy. 70) (C. 51)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090784_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2009

Gwnaed

24 Mawrth 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 173(3) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008(1):

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2009.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn–

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2009

2. Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2009–

(a) adran 162(1), (2), (3)(a), (3)(b) a (4) i (10).

3. Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym, yn ddarostyngedig i erthygl 4, ar 31 Mawrth 2009–

(a) adrannau 150, 152 a 153;

(b) adran 169(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 1 a bennir isod;

(c) adran 169(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 2 a bennir isod;

(ch) yn Atodlen 1, paragraffau 54, 55, 59(7), 66 a 67, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny, paragraff 53;

(d) yn Atodlen 2, y diddymiadau i'r graddau y maent yn ymwneud ag adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998.

4. Er bod adran 150 yn dod i rym ac er gwaethaf y diwygiadau a'r diddymiadau i adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998 a wneir gan adrannau 152 a 169 o'r Ddeddf ac Atodlenni 1 a 2 iddi, bydd adrannau 86 a 94 yn parhau i fod yn gymwys heb y diwygiadau a'r diddymiadau hynny o ran derbyn plant i'r flwyddyn ysgol 2009-2010.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Hydref 2009

5. Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym ar 31 Hydref 2009–

(a) adran 162(3)(c).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf i'w wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 ("y Ddeddf").

Mae erthygl 2 yn dwyn mwyafrif adran 162 o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2009. Mae'n diwygio swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran cymwysterau galwedigaethol ac academaidd allanol o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 1997. Mae'n gosod swyddogaethau newydd, sef datblygu a chyhoeddi meini prawf i gydnabod personau sy'n dymuno dyfarnu neu ddilysu cymwysterau a chydnabod personau sy'n gwneud cais am gael eu cydnabod ac sy'n bodloni'r meini prawf. Mae gweddill adran 162 yn cael ei gychwyn gan erthygl 5.

Daw erthygl 3 ag adrannau 150, 152 a 153 o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2009. Maent yn cyflwyno darpariaethau newydd ynghylch dymuniadau o ran addysg chweched dosbarth o'r flwyddyn ysgol 2010-2011 ac yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol eraill ynghylch derbyn plant i ysgolion.

Mae erthygl 4 yn darparu nad yw'r diwygiadau i adrannau 86 a 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn effeithio ar dderbyn plant i ysgolion ar gyfer y flwyddyn ysgol 2009-2010.

(1)

2008 p.25. Back [1]

(2)

1998 p.31. Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090784_we_1.html