BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2009 No. 851 (Cy. 76) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090851_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
31 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mawrth 2009
Yn dod i rym
6 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer eu pwerau fel yr awdurdod priodol o dan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1).
Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 303(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2009.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989(3).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau 1989, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 10A o Reoliadau 1989–
(a) ym mharagraff (5)(b), yn lle "£144 until 31 March 2007, increasing thereafter to £159" rhodder "£166"; a
(b) yn lle paragraff (6), rhodder–
"Where a use specified in an application under section 191(1)(a) is use as one or more dwellinghouses, the fee payable in respect of that use will be–
where the use so specified is use as 50 or fewer dwellinghouses, £330 for each dwellinghouse;
where the use so specified is use as more than 50 dwellinghouses, £16,464; and an additional £84 for each dwellinghouse in excess of 50, subject to a maximum in total of £250,000.".
(3) Yn rheoliad 11A(1) o Reoliadau 1989–
(a) yn is-baragraff (a), yn lle "£54 until 31 March 2007, increasing thereafter to £59" rhodder "£61"; a
(b) yn is-baragraff (b), yn lle "£288 until 31 March 2007, increasing thereafter to £316" rhodder "£330".
(4) Yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau 1989–
(a) ym mharagraffau 4(1) a 6(2), yn lle "£288 until 31 March 2007, increasing thereafter to £316" rhodder "£330"; a
(b) ym mharagraffau 7, 7A a 7B, yn lle "£144 until 31 March 2007, increasing thereafter to £159" rhodder "£166"; ac
(c) yn lle paragraff 15(2),rhodder–
"Where an application is for outline planning permission and relates to development which is within more than one of the categories specified in that table, the fee payable in respect of the application will be–
where the site area does not exceed 2.5 hectares, £330 for each 0.1 hectare of the site area;
where the site area exceeds 2.5 hectares, £8232, and an additional £84 for each 0.1 hectare in excess of 2.5 hectares, subject to a maximum in total of £125,000.".
(5) Yn lle Rhan II o Atodlen 1 i Reoliadau 1989 (graddfa ffioedd), rhodder y Rhan II newydd a welir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(6) Yn lle Atodlen 2 i Reoliadau 1989 (graddfa ffioedd ceisiadau hysbysebu), rhodder yr Atodlen 2 newydd a welir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
3. Caiff Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2006(4) eu dirymu.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
31 Mawrth 2009
Rheoliad 2(5)
Category of development | Fee payable | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|||||||||||||||||||||||
|
Rheoliad 2(6)
Category of development | Fee payable |
---|---|
1. Advertisements displayed on business premises, on the forecourt of business premises or on other land within the curtilage of business premises, wholly with reference to all or any of the following matters– (a) the nature of the business or other activity carried on on the premises; (b) the goods sold or the services provided on the premises; or (c) the name and qualifications of the person carrying on such business or activity or supplying such goods or services. |
£90 |
2. Advertisements for the purpose of directing members of the public to, or otherwise drawing attention to the existence of, business premises which are in the same locality as the site on which the advertisement is to be displayed but which are not visible from that site. |
£90 |
3. All other advertisements. |
£330.". |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach, o ran Cymru, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989 ("Rheoliadau 1989").
Effaith y Rheoliadau hyn yw cynyddu ffioedd taladwy penodol, o ran Cymru, o dan Reoliadau 1989, o 4.2 y cant.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/948) (Cy.97).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gael gan yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ a gellir ei weld hefyd ar y wefan www.assemblywales.org/
1990 p.8; diwygiwyd adran 303 gan baragraff 10 o Atodlen 13 i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 6(6) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) ac adran 53 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Gweler O.S. 2004/2097 (C.89) ac, o ran Cymru, 2006/931 (C.26). Gweler hefyd adran 303(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Deddf 1990) am ystyr "appropriate authority" ac adran 336(1) o'r Ddeddf honno am y diffiniad o "prescribed". Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32), mae pwerau adran 303 o Ddeddf 1990 bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru. Back [1]
Mae'r cyfeiriad yn adran 303(5) at gymeradwyaeth gan ddau Dŷ'r Senedd yn cael effaith o ran arfer swyddogaethau gan Weinidogion Cymru fel pe bai yn gyfeiriad at gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd paragraff 33 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]
O.S. 1989/193 a ddiwygiwyd, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 1990/2743, 1991/2735, 1992/1817, 1992/3052, 1993/3170 ac 1997/37 ac, o ran Cymru, gan O.S. 2002/1876 (W.185), 2002/2258 (W.222), 2004/2736 (W.243) a 2006/948 (W.97). Back [3]
O.S. 2006/948 (Cy.97). Back [4]