BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2009 No. 1026 (Cy. 88)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091026_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2009

Gwnaed

18 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Ebrill 2009

Yn dod i rym

1 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10(3), (4) a (5) a 93(1)(b) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(2).

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.-"(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2009.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mehefin 2009.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990

2.-"(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(3) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle rheoliad 3B (Datganiadau Mynediad: Cymru) rhodder-"

-�Design and access statements: Wales

3B.-"(1) Any application to a local planning authority for listed building consent must be accompanied by a statement (-�a design and access statement-�) explaining-"

(a) the design principles and concepts that have been applied to the works; and

(b) subject to paragraph (4), how issues relating to access to the building have been dealt with.

(2) A design and access statement must, in relation to design-"

(a) explain the design principles and concepts that have been applied to the following aspects of the works-"

(i) appearance;

(ii) environmental sustainability;

(iii) layout; and

(iv) scale; and

(b) explain how the principles and concepts referred to in sub-paragraph (a) take account of-"

(i) the special architectural or historic importance of the building;

(ii) the particular physical features of the building that justify its designation as a listed building; and

(iii) the building-�s setting.

(3) Subject to paragraph (4), a design and access statement must, in relation to access, explain-"

(a) the policy or approach adopted as to access, including-"

(i) what alternative means of access have been considered; and

(ii) how policies relating to access in the development plan(4) have been taken into account;

(b) how the policy or approach adopted as to access takes account of-"

(i) the special architectural or historic importance of the building;

(ii) the particular physical features of the building that justify its designation as a listed building; and

(iii) the building-�s setting;

(c) how any specific issues which might affect access to the building have been addressed; and

(d) how features which ensure access to the building will be maintained.

(4) Paragraphs (1)(b) and (3) do not apply in relation to an application for listed building consent to carry out works affecting only the interior of a building.

(5) In this regulation-"

Dirymu Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006

3. Mae Rheoliadau (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006(5) wedi'u dirymu.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

18 Ebrill 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (-�Rheoliadau 1990-�) yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i awdurdodau cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gosod rheoliad 3B newydd yn Rheoliadau 1990 yn lle'r hen un. Mae'r rheoliad 3B newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer datganiadau dylunio a mynediad y mae'n ofynnol eu bod yn mynd gyda cheisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig.

Mae'r rheoliad 3B newydd yn disodli rheoliad 3B fel y'i mewnosodwyd yn Rheoliadau 1990 gan Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3316 (Cy.301)) (-�Rheoliadau 2006-�), a wnaeth ddarpariaeth ar gyfer datganiadau mynediad.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn ddirymiad canlyniadol o Reoliadau 2006.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol a gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1990 p.9. Diwygiwyd adran 10 gan adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Gweler adran 91(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 i gael y diffiniad o -�prescribed-�. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan yr adrannau hynny, i'r graddau yr oeddynt yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 118(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), bernir bod cyfeiriadau yng Ngorchymyn 1999 at swyddogaethau sydd wedi'u trosglwyddo gan y Gorchymyn hwnnw, ac sydd wedi'u diwygio gan Ddeddf 2004, yn gyfeiriadau at y swyddogaethau hynny, fel y'u diwygiwyd felly. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

O.S. 1990/1519. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2004/3156 ac O.S. 2006/3316. Back [3]

(4)

Gweler adran 38(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) i gael ystyr -�development plan-� ac ar gyfer y darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn erthygl 3 o Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847) (C.118). Back [4]

(5)

O.S. 2006/3316 (Cy.301). Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091026_we_1.html