BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 1373 (Cy. 136)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091373_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

8 Mehefin 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mehefin 2009

Yn dod i rym

30 Mehefin 2009

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1 Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Mehefin 2009.

Diwygio

2. Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008(3) fel a nodir yn y Rheoliadau hyn.

3. Yn rheoliad 2 (Dehongli cyffredinol)–

(a) mewnosoder, yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor–

(b) hepgorer y diffiniad o "dyddiad perthnasol";

(c) yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder–

4. Yn rheoliad 3 (Anifail, dofednod a chig dan gyfyngiadau: diffiniadau)–

(a) yn lle paragraff (8) rhodder–

"(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) "cig dan gyfyngiadau" ("restricted meat") yw cig–

(a) a gynhyrchwyd ar neu ar ôl y dyddiad y datganwyd y parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth, neu ddyddiad cynharach os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu'r dyddiad hwnnw at ddibenion rheoli clefydau;

(b) sy'n dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau o ardal heintiedig, parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth; ac

(c) sy'n cynnwys cig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.";

(b) ar ôl paragraff (8) mewnosoder–

"(9) Os yw cig dan gyfyngiadau wedi cael ei drin yn unol ag Atodlen 2 mewn canolfan driniaeth mae'n peidio â chael ei ganfod fel cig dan gyfyngiadau.".

5. Yn rheoliad 7 (Cig o fangre dan amheuaeth neu fangre heintiedig) mewnosoder ar ôl paragraff (3)–

"(4) Yn y rheoliad hwn ystyr "y dyddiad perthnasol" ("relevant date") yw'r dyddiad y daeth y fangre dan amheuaeth neu'r fangre heintiedig yn destun cyfyngiadau oherwydd clefyd, neu unrhyw ddyddiad cynharach os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu'r dyddiad hwnnw at ddibenion rheoli clefydau.".

6. Yn rheoliad 9 (Gwahardd cyflenwi ac allforio cig)–

(a) ym mharagraff (1)–

(i) hepgorer y gair "neu" sy'n dod yn union o flaen is-baragraff (b);

(ii) ar ddiwedd is-baragraff (b), hepgorer yr atalnod llawn ac ychwaneger–

(b) yn lle paragraff (2) rhodder–

"(2) Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff 1(a) yn gymwys i gig dan gyfyngiadau o ddofednod dan gyfyngiadau a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig.";

(c) hepgorer paragraff (3).

7. Yn rheoliad 10 (Lladd-dai)–

(a) ym mharagraff (1) ar ôl y geiriau "anifeiliaid dan gyfyngiadau" mewnosoder ", moch seropositif";

(b) ym mharagraff (2) ar ôl is-baragraff (ch) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder–

(c) ar ôl paragraff (5) mewnosoder–

"(6) Os nad yw meddiannydd lladd-dy wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (2)(d) neu (2)(dd) pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, rhaid i'r meddiannydd drin y moch eraill hynny fel moch seropositif.

(7) Dim ond os yw'r lladd-dy yn un dynodedig y caiff meddiannydd lladd-dy dderbyn cig dan gyfyngiadau.".

8. Yn rheoliad 12 (Derbyn a meddu ar gig dan gyfyngiadau)–

(a) ym mharagraff (1) hepgorer y cyfeiriad at y geiriau "neu sefydliad" a'r geiriau "neu'r sefydliad hwnnw";

(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder–

"(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r cig cyfyngedig yn dod o ddofednod cyfyngedig a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig yn unig.".

9. Yn rheoliad 13 (Marcio cig) ym mharagraffau (1), (2) a (3) ar ôl y geiriau "dan gyfyngiadau" ym mhob un o'r paragraffau hynny mewnosoder "neu gig moch seropositif".

10. Yn lle rheoliad 14 (Symud cig dan gyfyngiadau) rhodder–

"14.–(1) Ni chaiff neb gludo na threfnu i gludo cig dan gyfyngiadau i fangre neu sefydliad oni bai bod y fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r cig cyfyngedig yn dod o ddofednod cyfyngedig a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig yn unig.".

11. Yn rheoliad 15 (Cadw cofnodion)–

(a) ym mharagraff (1) ar ôl y geiriau "anifail dan gyfyngiadau" mewnosoder ", mochyn seropositif";

(b) yn lle paragraff (1)(a) rhodder–

"(a) y nifer a'r math o anifeiliaid dan gyfyngiadau, moch seropositif neu ddofednod dan gyfyngiadau sydd wedi eu cigydda;";

(c) ym mharagraff (2) ar ôl "chig dan gyfyngiadau" mewnosoder "neu gig moch seropositif";

(ch) yn is-baragraffau (a) ac (c) o baragraff (2) yn lle'r geiriau "o gig dan gyfyngiadau" rhodder "o'r cyfryw gig";

(d) yn lle is-baragraff (d) o baragraff (2) rhodder–

"(d) pa faint o'r cyfryw gig nas bwriedir bellach ei fwyta gan bobl.";

(dd) ar ôl paragraff (2) mewnosoder–

"(2A) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i unrhyw ddosbarthwr cyfanwerthu, dosbarthwr manwerthu, manwerthwr neu ddefnyddiwr–

(a) os yw'r cig dan gyfyngiadau yn dod o ddofednod dan gyfyngiadau ac a fwriedir yn unig ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig; neu

(b) os yw'r cig yn gig moch seropositif.".

12. Yn Atodlen 3 (Marc adnabod arbennig) mewnosoder ar ôl paragraff 3–

"3A. Rhaid i gig moch seropositif gynnwys marc adnabod fel bod y Rhif o a'r llythrennau yn cael eu gosod mewn cylch sy'n ddarllenadwy, a'u bod yn annileadwy gyda llythrennau deongladwy ac yn cynnwys y priflythrennau "UK" a ddilynir gan rif cymeradwyo'r sefydliad.".

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mehefin 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008 (O.S. 2008 Rhif 1275) ('Rheoliadau 2008') i weithredu gofynion ym mharagraff 4(d) o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/119/EEC o ran unrhyw gig sy'n dod o foch gyda gwrthgorffynnau yn erbyn clefyd pothellog y moch (y cyfeirir atynt fel "moch seropositif" ac a ddiffinnir yn rheoliad 3(c)) lle na chafodd y clefyd ei gadarnhau ond lle y gwnaeth Gweinidogion Cymru yn ofynnol eu bod yn cael eu cigydda.

Dim ond mewn lladd-dy dynodedig y caniateir cigydda'r cyfryw foch seropositif a rhaid eu cadw, tra byddant yno, ar wahân i foch eraill (rheoliad 7(b)). Ni chaniateir allforio'r cig sy'n dod o foch seropositif (rheoliad 6(a)). Sicrheir hyn drwy ofynion marcio a chofnodi o ran y cig moch seropositif (rheoliadau 9 a 11 (a) i (d) yn eu trefn). Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod marc newydd cylchog yn cael ei osod ar gig moch seropositif mewn diwygiad i Atodlen 3 (rheoliad 12).

Diwygir rheoliadau 9, 12, 14 a 15 o Reoliadau 2008 i dynnu ymaith y gofynion o ran cig dan gyfyngiadau o ddofednod dan gyfyngiadau a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig yn unig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 3(a)) er mwyn–

(a) tynnu ymaith y gofyniad bod cyflenwr cig y cyfryw ddofednod yn gwybod sut y mae eraill yn y gadwyn gyflenwi wedi trafod y cig heb gyflawni tramgwydd (rheoliad 6(b));

(b) tynnu ymaith y tramgwyddau o dderbyn y cyfryw gig dofednod mewn man heb ei ddynodi (rheoliad 8(b));

(c) tynnu ymaith y tramgwyddau o gludo cig dofednod dan gyfyngiadau i fan heb ei ddynodi (rheoliad 10); ac

(ch) eithrio dosbarthwyr cyfanwerthu a dosbarthwyr manwerthu, manwerthwyr a defnyddwyr rhag gofynion cadw cofnodion (rheoliad 11(dd)).

Tynnwyd y diffiniad o "dyddiad perthnasol" o reoliad 2 o Reoliadau 2008 gan nad yw'r diffiniad hwn bellach yn gymwys ond yn rheoliad 7 o Reoliadau 2008. Gan hynny, mae rheoliad 5 yn cyflwyno diffiniad diwygiedig o "dyddiad perthnasol" yn rheoliad 7(4) sy'n mynd i'r afael ag amwysedd cynharach a achoswyd drwy ddefnyddio'r term. Yn lle'r diffiniad o "cig dan gyfyngiadau" yn rheoliad 3(8) o Reoliadau 2008 rhoddwyd diffiniad diwygiedig a gyflwynir drwy reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

Nid oes asesiad effaith llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

O.S. 2005/2766. Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

1972 p. 68. Back [2]

(3)

O.S. 2008/1275. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091373_we_1.html