BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2009 No. 2156 (Cy. 180)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092156_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2009

Gwnaed

1 Awst 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Awst 2009

Yn dod i rym

31 Awst 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2009.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau

2. Diwygir Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008(3) yn unol â rheoliadau 3 i 12.

3. Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o "Cyngor Ymchwil" ("Research Council"), yn lle "Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth", rhodder "Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg"(4).

4. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3(9), yn lle "1 Medi 2008" rhodder "1 Medi 2009".

5. Yn rheoliad 5(2) yn lle "paragraff 6 neu 7" rhodder "paragraff 7 neu 8".

6. Yn rheoliad 6(16)(h), yn lle "1 Medi 2007", rhodder "1 Medi 2009".

7. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(2)(b), yn lle "21(6) neu 21(8)" rhodder "21(3) neu 21(7)".

8. Yn rheoliad 60(11) yn lle "pharagraff (4)" rhodder "pharagraff (10)".

9. Yn rheoliad 60(12) yn lle "baragraff (4)" rhodder "baragraff (10)".

10. Yn rheoliad 80(2) yn lle "paragraff 6 neu 7" rhodder "paragraff 7 neu 8".

11. Yn nhestun Saesneg paragraff 9(1)(a)(ii) yn Atodlen 1, hepgorer "a" ar ôl "a family member of".

12. Yn nhestun Cymraeg paragraff 5(1)(a) yn Atodlen 6, yn lle "£39,780" rhodder "£39,793".

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Awst 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/3170) (Cy.283) ("Rheoliadau 2008") yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro mân wallau technegol a gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2008.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2008/3170 (Cy.283). Back [3]

(4)

Cafodd y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg ei ffurfio ar lun cyngor ymchwil drwy uno'r Cyngor ar gyfer Labordy Canolog y Cynghorau Ymchwil a'r Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth. Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092156_we_1.html