BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2009 No. 2365 (Cy. 193)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092365_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2009

Gwnaed

2 Medi 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Medi 2009

Yn dod i rym

28 Medi 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2009 a deuant i rym ar 28 Medi 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn–

(a) ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(2); a

(b) ystyr "y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm" ("the Income Suport Regulations") yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(3).

Addasu'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau

2.–(1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987) wedi'i diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Nhabl A, yn yr addasiadau sy'n ymwneud â rheoliad 66A o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (trin benthyciadau i fyfyrwyr) yn y cofnod cyntaf, yn lle "Guide to Student Support issued by the Student Awards Agency for Scotland 2007-2008" rhodder "Student Support Information Guide 2009-2010 issued by the Student Awards Agency for Scotland(4)".

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

2 Medi 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 ("y prif Reoliadau").

Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth fel bod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau penodol oddi wrth y wladwriaeth neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu taliadau penodol neu gael ad-daliad ohonynt, a'r taliadau hynny fel arall yn daladwy o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ("taliadau GIG") a chael taliad am dreuliau teithio a dynnwyd wrth gael gwasanaethau GIG penodol ("treuliau teithio GIG").

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a yw'n cael hawlio hawl i beidio â thalu taliadau GIG ac i gael taliad am dreuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 ("y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm").

Mae rheoliad 2 yn diweddaru'r cyfeiriad at y cyhoeddiad sy'n disgrifio benthyciadau ychwanegol a delir o dan Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2007. Mae'r benthyciadau hyn yn cael eu diystyru wrth gyfrifo incwm benthyciad i fyfyriwr pan fo hawl person i gael taliad am dreuliau teithio GIG ac i beidio â thalu taliadau GIG yn cael ei chadarnhau o dan y prif Reoliadau.

(1)

2006 p. 42. Back [1]

(2)

O.S. 2007/1104 (Cy.116); O.S. 2008/1480 (Cy.153) yw'r offeryn diwygio perthnasol. Back [2]

(3)

O.S. 1987/1967. Back [3]

(4)

Mae'r arweiniad hwn ar gael ar wefan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban yn www.saas.gov.uk. Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092365_we_1.html