BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009 No. 2819 (Cy. 245) (C. 124)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092819_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009

Gwnaed

16 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 28(2) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

Diwrnodau penodedig

2.–(1) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 30 Hydref 2009:

(a) adran 1(4)(j) (y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn) at ddibenion adran 12;

(b) adran 12 (cod ymddygiad wrth deithio);

(c) adran 26 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod;

(ch) yn Atodlen 2 (diddymiadau), diddymu paragraff 4 o Atodlen 10 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(2) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 4 Ionawr 2010:

(a) adran 13 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: disgyblion mewn ysgolion perthnasol);

(b) adran 14 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio);

(c) adran 17(4) (cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arall).

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

16 Hydref 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i rym ar 30 Hydref 2009 a 4 Ionawr 2010.

Mae effaith y darpariaethau yn y Mesur sy'n cael eu dwyn i rym ar 30 Hydref 2009 fel a ganlyn:

Mae effaith y darpariaethau yn y Mesur sy'n cael eu dwyn i rym ar 4 Ionawr 2010 fel a ganlyn:

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a gafodd eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn O.S. Rhif
Adran 1 (ac eithrio is-adran (4)(j)) 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 2 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 3 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 4 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 5 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 6 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 7 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 8 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 9 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 10 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 11 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 15 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 16 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 17 yn rhannol 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 18 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 19 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 20 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 21 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 22 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 23 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 24 6 Mawrth 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 25 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Adran 26 yn rhannol 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Atodlen 1 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)
Atodlen 2 yn rhannol 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 2009/371 (Cy.39)

Gweler hefyd adran 28(1) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Chwefror 2009 (deufis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).

(1)

2008 mccc 2. Back [1]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092819_we_1.html