BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009 No. 3254 (Cy. 283)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093254_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009

Gwnaed

8 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

1 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru i unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol(4) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.

Dehongli

2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.

(4) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu priodoli–

(a) drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(7), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu priodoli felly iddo.

(5) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Tramgwyddau, cosbau a gweithredu a gorfodi

3.–(1) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau penodedig yn euog o dramgwydd.

(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

4. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn–

(a) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(8), fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(9), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(f) adran 35(2) a (3)(10), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);

(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(11); ac

(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005

5.–(1) Mae Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005(12) wedi eu diwygio'n unol â'r paragraffau canlynol.

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "Cyfarwyddeb 2001/15/EC", rhodder y diffiniad canlynol–

(3) Yn rheoliad 5 (eithriadau rhag y gwaharddiadau), yn lle is-baragraff (c) o baragraff (2), rhodder yr is-baragraff canlynol–

"(c) tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd gan gydymffurfio â Rheoliad 953/2009 at unrhyw fwyd at ddefnydd maethol penodol y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Rheoliad hwnnw;".

Dirymu

6. Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002(13) wedi eu dirymu.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2009

Rheoliadau 2(1) a 3(1)

YR ATODLEN Darpariaethau Penodedig

Y ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn Y pwnc
Erthygl 2(1) O ran y sylweddau sy'n perthyn i'r categorïau sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn, gofyniad mai dim ond y rhai o blith y sylweddau hynny sydd wedi eu rhestru yn yr Atodiad hwnnw, ac sy'n cydymffurfio â'r manylebau perthnasol fel y bo'n angenrheidiol, sydd i'w hychwanegu at ddibenion maethol penodol wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a'r Cyngor am fwydydd sydd wedi eu bwriadu at ddefnydd maethol neilltuol(14).
Erthygl 3(1) Gofyniad y bydd y defnydd ar sylweddau a ychwanegir at ddibenion maethol penodol yn arwain at weithgynhyrchu cynhyrchion diogel sy'n bodloni anghenion maethol neilltuol y personau y maent wedi eu bwriadu ar eu cyfer, fel a gadarnheir drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol.
Erthygl 3(2) Gofyniad y bydd y gweithgynhyrchydd neu, pan fo'n briodol, y mewnforiwr, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn dangos y gwaith gwyddonol a'r data sy'n cadarnhau bod y defnydd ar y sylweddau yn cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn. Os yw gwaith a data o'r fath wedi eu cynnwys mewn cyhoeddiad sydd ar gael yn rhwydd, bydd cyfeiriad at y cyhoeddiad hwnnw yn ddigon.
Erthygl 4(2) Gofyniad y bydd y meini prawf ar burdeb, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ac sy'n gymwys i'r sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn pan fônt yn cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion nad ydynt yn rhai sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn, yn gymwys hefyd i'r sylweddau hynny pan fônt yn cael eu defnyddio at ddibenion sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn.
Erthygl 4(3) Gofyniad, yn achos sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn ac nad oes meini prawf ar burdeb wedi eu pennu ar eu cyfer drwy ddeddfwriaeth Gymunedol, a hyd nes y bydd manylebau o'r fath wedi eu mabwysiadu, y bydd y meini prawf ar burdeb a dderbynnir yn gyffredinol ac a argymhellir gan gyrff rhyngwladol yn gymwys.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 ar sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L269, 14.10.2009, t.9) ("Rheoliad y Comisiwn"). Mae Rheoliad y Comisiwn yn diddymu ac yn disodli Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC ar sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwyd at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/6/EC sy'n rhanddirymu Cyfarwyddeb 2001/15/EC er mwyn gohirio cymhwyso'r gwaharddiad ar fasnachu i gynhyrchion penodol (OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.31).

2. Mae'r Rheoliadau hyn–

(a) yn darparu bod person sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad y Comisiwn a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1));

(b) yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 3(2));

(c) yn pennu'r awdurdod gorfodi (rheoliad 3(3));

(ch) yn darparu ar gyfer cymhwysiad darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);

(d) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3111 (Cy.231)) (rheoliad 5); ac

(dd) yn dirymu Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2939 (Cy. 280)) (rheoliad 6).

3. Mae Erthygl 3(2) o Reoliad y Comisiwn yn cyfeirio at yr awdurdodau cymwys y cyfeirir atynt yn Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd a fwriedir ar gyfer defnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21). Mae Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy.100)) yn darparu yn rheoliad 3 mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys o ran bwyd at ddefnydd maethol neilltuol a weithgynhyrchwyd yng Nghymru neu a fewnforiwyd i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(1)

1990 p.16. Back [1]

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]

(3)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51). Back [3]

(4)

OJ Rhif L269, 14.10.2009, t.9. Back [4]

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau, sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad, yn ôl Penderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad yn ôl y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). Back [5]

(6)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [6]

(7)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [7]

(8)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279. Back [8]

(9)

Mae adran 35(1) wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu. Back [9]

(10)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279. Back [10]

(11)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16. Back [11]

(12)

O.S. 2005/3111 (Cy.231). Back [12]

(13)

O.S. 2002/2939 (Cy.280). Back [13]

(14)

OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21. Back [14]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093254_we_1.html