BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009 No. 3272 (Cy. 288) (C. 145) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093272_we_1.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud
9 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 53(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
2. Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.
3.–(1) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (2) i (5), mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Tan 1 Ebrill 2011 mae'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) yn dal yn effeithiol, at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (4), fel pe baent heb eu diwygio neu heb eu diddymu gan y Mesur.
(3) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw'r adrannau canlynol yn Neddf Llywodraeth Leol 1999–
(a) 1(1)(k), (6) a (7) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 11, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno,
(b) 10A(1)(a),
(c) 25(2)(d),
(ch) 29(1A) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno, a
(d) 29(2A) a (4).
(4) Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o sut mae awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i'r graddau y mae'r gofynion hynny'n ymwneud â blwyddyn ariannol 2009-2010.
(5) Mae adrannau 15 a 29(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn dal yn effeithiol–
(a)(i) tan 1 Ebrill 2011; neu
(ii) hyd nes y daw unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 cyn y dyddiad hwnnw i ben; neu
(iii) hyd nes y caiff unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 ei dynnu'n ôl cyn y dyddiad hwnnw;
p'un bynnag fydd olaf; neu
(b) pan fo cyfarwyddyd wedi'i ddyroddi o dan adran 15 cyn 1 Ebrill 2011 (y "cyfarwyddyd gwreiddiol"), o ran unrhyw gyfarwyddyd pellach a ddyroddir cyn i'r cyfarwyddyd gwreiddiol ddod i ben i'r un awdurdod gwerth gorau yng Nghymru a oedd yn destun y cyfarwyddyd gwreiddiol, hyd nes y daw'r cyfarwyddyd pellach hwnnw i ben.
4. Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2009
Erthygl 2
Adran 15(7) er mwyn rhoi ei effaith i'r pŵer i wneud Gorchmynion yn adran 15(7)(b);
Adran 37;
Adrannau 39 i 44;
Adran 46;
Adran 51(2) a (3) ac Atodlen 2 a 3; ac
Adran 52 ac Atodlen 4 at ddibenion adran 4, is-adran (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Erthygl 3
Adran 2(1);
Adran 3;
Adran 8(7);
Adrannau 9 i 13;
Adrannau 15(1), (6) a (7);
Adran 17(1)(a) at ddibenion cynnal archwiliad i benderfynu a yw awdurdod gwella yng Nghymru wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(6) a (7);
Adran 18;
Adran 19(1)(b) at ddibenion cyhoeddi adroddiad yn datgan a yw awdurdod gwella yng Nghymru wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(6) a (7);
Adran 19(1)(c) i (h), (2), (3) a (4);
Adrannau 20 i 24;
Adrannau 26 i 30;
Adrannau 33 a 34;
Adran 51(1) ac Atodlen 1; ac
Adran 52 ac Atodlen 4 i'r graddau y mae'n ymwneud â Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 a Deddf Llywodraeth Leol 1999.
Erthygl 4
Adran 14;
Adran 15(2), (3), (4) a (5);
Adran 17;
Adran 19(1)(a);
Adran 19(1)(b); ac
Adran 24(2)(a).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r ail orchymyn cychwyn sydd wedi'i wneud gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ionawr 2010 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn Atodlen 1 o'r Gorchymyn..
Mae erthygl 3(1) o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2010 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn. Mae erthygl 3(2) i (4) o'r Gorchymyn yn arbed effaith darpariaethau penodol yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 ( "Deddf 1999") er mwyn galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiadau o sut mae awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn cydymffurfio â gofynion y Rhan honno o Ddeddf 1999. Mae erthygl 3(5) yn arbed effaith adrannau 15 a 29(4) o Ddeddf 1999 at ddibenion unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir o dan adran 15 o Ddeddf 1999. Bydd y darpariaethau hynny'n parhau mewn grym tan 1 Ebrill 2011 neu nes bod y cyfarwyddiadau a ddyroddir cyn y dyddiad hwnnw wedi'u tynnu'n ôl neu wedi dod i ben, p'un bynnag fydd olaf. Mae erthygl 3(5) hefyd yn arbed effaith adrannau 15 a 29(4) at ddibenion dyroddi cyfarwyddyd pellach o dan adran 15 ar ôl 1 Ebrill 2011, ond cyn i unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir cyn y dyddiad hwnnw ddod i ben.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2011 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â'r darpariaethau canlynol ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i rym ar 17 Gorffennaf 2009 gan Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009 (2009/1796) (Cy.163) (C.88):
(a) Adran 1;
(b) Adran 2(2) a (3);
(c) Adran 4;
(ch) Adran 5;
(d) Adran 6;
(dd) Adran 7;
(e) Adran 8(1) i (6) yn gynwysedig;
(f) Adran 15(8) a (9);
(ff) Adran 16;
(g) Adran 25;
(ng) Adran 31;
(h) Adran 32;
(i) Adran 35;
(j) Adran 36;
(l) Adran 38;
(ll) Adran 45; ac
(m) Adran 47.
2009. mccc 2. Back [1]