BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 453 (Cy. 49)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100453_we_1.html

[New search] [Help]


Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

24 Chwefror 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Chwefror 2010

Yn dod i rym

22 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990(1), sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy o ran Cymru(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mawrth 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007(3).

Diwygio'r prif Reoliadau

2. Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 7.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

3.–(1) Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o "HEES" a'r diffiniad o "HEES a Mwy".

(2) Yn rheoliad 2, yn y mannau priodol, mewnosoder y diffiniadau canlynol–

Ychwanegu rheoliad 2A newydd

4. Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder–

"2A Ystyr "HEES" a "HEES a Mwy"

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ystyr "HEES" ("HEES") yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1)(a) i (f).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ystyr "HEES a Mwy" ("HEES Plus") yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1)(a) i (h).

(3) Yn achos annedd–

(a) sydd mewn perchnogaeth breifat neu sy'n cael ei rhentu'n breifat; a

(b) y mae'r asiantaeth ardal yn fodlon bod y cyfraddiad ased ar ei chyfer yn 38 neu lai,

Diwygio rheoliad 5 (personau a gaiff wneud cais am grant)

5.–(1) Yn rheoliad 5(1)(c) ac (ch), yn lle "£15,460" rhodder "£16,040".

(2) Yn lle rheoliad 5(4)(ch) rhodder–

"(ch) pensiwn anabledd rhyfel fel y'i diffinnir gan adran 159B(6) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 neu bensiwn am anabledd o dan Ran II o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006, neu unrhyw ddyfarniad o bensiwn anabledd rhyfel y mae ei effaith yn parhau yn rhinwedd Atodlen 4, paragraff 8 i'r Gorchymyn hwnnw ynghyd ag–

(i) tâl atodol o ran symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (gan gynnwys y cyfryw dâl atodol sy'n daladwy yn rhinwedd cymhwyso'r erthygl honno gan unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan Erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Dinasyddion Preifat) 1983 (gan gynnwys yr erthygl honno fel y'i cymhwysir gan erthygl 48A o'r cynllun hwnnw), neu daliad a fwriedir fel iawndal am fethiant i dalu tâl atodol o'r fath; neu

(ii) taliad o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1992 (lwfans gweini cyson).

Diwygio rheoliad 6 (y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer)

6.–(1) Yn rheoliad 6(1)–

(a) ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle ".", rhodder ";".

(b) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder–

"(j) darparu inswleiddiad waliau solet.".

(2) Yn rheoliad 6(2)–

(a) ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle ".", rhodder ";".

(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder–

"(c) y fath fân weithfeydd at ddibenion–

(a) gwella inswleiddiad thermol annedd; neu

(b) lleihau neu atal fel arall wastraff ynni mewn annedd,

sydd ym marn yr asiantaeth ardal mewn unrhyw achos penodol yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.".

Diwygio rheoliad 7 (uchafswm y grant)

7.–(1) Yn rheoliad 7(1) yn lle "Ni chaiff asiantaeth ardal", rhodder–

(2) Ar ôl rheoliad 7(1) mewnosoder–

"(1A) Yn achos cais gweithfeydd o dan HEES neu HEES a Mwy sy'n cyfeirio at annedd o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 2A(3), uchafswm y grant y caniateir ei dalu ar gyfer unrhyw un annedd o'r fath yw £12,000.".

(3) Yn rheoliad 7(3) yn lle "baragraffau (1) a (2)" rhodder "baragraffau (1) i (2)".

Darpariaeth drosiannol

8. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i gais gweithfeydd a wneir cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, os yw'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais hwnnw neu i'w wrthod i fod i gael ei wneud ar ôl y dyddiad hwnnw.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

24 Chwefror 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007 (O.S. 2007/375 (Cy. 35)). Mae Rheoliadau 2007 yn sefydlu dau gynllun grant: y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref ("HEES") a'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a Mwy ("HEES a Mwy"). Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau, mae'r diwygiadau o sylwedd a ganlyn yn cael eu gwneud i Reoliadau 2007

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o "HEES" a "HEES a Mwy" fel bod y categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan bob Cynllun bellach wedi'u gosod yn y Rheoliadau; ac er mwyn i'r categorïau o weithfeydd y caniateir i grant gael ei dalu ar eu cyfer mewn amgylchiadau penodol gael eu hymestyn i gynnwys yr holl weithfeydd sy'n cael eu disgrifio yn Rheoliadau 2007.Bydd y categorïau gweithfeydd estynedig ar gael o dan HEES a HEES a Mwy os yw'r annedd sy'n destun cais gweithfeydd mewn perchnogaeth breifat neu'n cael ei rhentu'n breifat ac os yw'r asiantaeth ardal wedi'i bodloni y cyfrifwyd, gan ddefnyddio'r fethodoleg a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Adeiladu 2000 (O.S. 2000/2531), fod gan yr annedd gyfraddiad perfformiad ynni isel; hynny yw, cyfraddiad ased o 38 neu lai.

Mae rheoliad 6 yn ychwanegu inswleiddio waliau solet at y disgrifiad o weithfeydd y caniateir i grant gael ei dalu ar eu cyfer. Mae rheoliad 6 hefyd yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2007 fel bod modd, os oes cais am grant wedi'i gymeradwyo ar gyfer unrhyw un o'r prif weithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1), cymeradwyo grant hefyd ar gyfer mân weithfeydd ychwanegol i leihau neu atal gwastraff ynni mewn annedd. I fod yn gymwys am y grant rhaid bod y mân weithfeydd o fath y mae'r asiantaeth ardal o'r farn eu bod yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn rhesymol o dan amgylchiadau'r achos penodol dan sylw.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2007, sy'n ymdrin ag uchafswm y grant sydd ar gael o dan y cynlluniau. Effaith y diwygiad yw rhagnodi mai £12,000 yw uchafswm y grant y caniateir ei roi ar gyfer unrhyw un annedd. Dim ond ar gyfer annedd sydd mewn perchnogaeth breifat neu sy'n cael ei rhentu'n breifat y mae'r uchafswm grant newydd yn gymwys ac os yw'r asiantaeth ardal yn fodlon y cyfrifwyd, gan ddefnyddio'r fethodoleg a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Adeiladu 2000 (O.S. 2000/2531), fod gan yr annedd gyfraddiad perfformiad ynni sy'n wael; hynny yw, cyfraddiad ased o 38 neu lai.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel bod y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i gais am grant sy'n cael ei wneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, os yw'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais o dan sylw neu i'w wrthod i fod i gael ei wneud ar ôl y dyddiad hwnnw.

(1)

1990 p. 27; diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53). Back [1]

(2)

Cyfarwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fod y swyddogaethau o dan adran 15 i fod yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr un pryd â'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p. 32), mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru. Back [2]

(3)

O.S. 2007 Rhif 375 (Cy. 35). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100453_we_1.html