BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Gweithgarwch Rheoledig) (Cymru) 2010 No. 1171 (Cy. 104) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101171_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
31 Mawrth 2010
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23(1), 56(1)(f) a 61(5) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1).
Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 23 Chwefror 2010 yn unol ag adran 61(3) o'r Ddeddf honno (fel y'i haddaswyd gan adran 56(5)(b) o'r Ddeddf honno) a chymeradwywyd ef gan benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Gweithgarwch Rheoledig) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y'u gwneir.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Ni chaiff person cyfrifol(2) ("PC") ganiatáu i rywun arall ("A") ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant(3) ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2) neu'r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (3).
(2) Yr amgylchiadau yn y paragraff hwn yw–
(a) bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi dyroddi i A, o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(4) naill ai–
(i) tystysgrif cofnod troseddol fanylach sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant (yn yr ystyr a roddir i "suitability information relating to children" yn adran 113BA(5) o'r Ddeddf honno), neu
(ii) hysbysiad i'r perwyl nad yw A–
(aa) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant(6),
(bb) wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(7), ac
(cc) nad yw'n destun cyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(8);
(b) bod y dystysgrif wedi ei dyroddi neu'r hysbysiad wedi ei ddyroddi o fewn y cyfnod o 90 diwrnod sy'n diweddu ar y dyddiad y mae PC yn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant; ac
(c) bod PC wedi cael copi o'r dystysgrif honno neu'r hysbysiad hwnnw, cyn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant.
(3) Yr amgylchiadau yn y paragraff hwn yw fod PC, cyn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant, wedi ei fodloni nad yw A–
(a) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant (9),
(b) wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, ac
(c) nad yw'n destun cyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod di-dor pan fo PC yn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant–
(a) os rhoddwyd y caniatâd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a
(b) os yw'r caniatâd yn parhau i gael effaith wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
3.–(1) Ni chaiff person cyfrifol ("PC") ganiatáu i rywun arall ("A") ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf(10) ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2) neu'r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (3).
(2) Yr amgylchiadau yn y paragraff hwn yw–
(a) bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi dyroddi i A, o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997–
(i) tystysgrif cofnod troseddol fanylach sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (yn yr ystyr a roddir i "suitability information relating to vulnerable adults" yn adran 113BB(11) o'r Ddeddf honno), neu
(ii) hysbysiad i'r perwyl nad yw A –
(aa) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf(12), a
(bb) nad yw wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(13);
(b) bod y dystysgrif wedi ei dyroddi, neu'r hysbysiad wedi ei ddyroddi o fewn y cyfnod o 90 diwrnod sy'n diweddu ar y dyddiad y mae PC yn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf; ac
(c) bod PC wedi cael copi o'r dystysgrif honno neu'r hysbysiad hwnnw cyn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf.
(3) Yr amgylchiadau yn y paragraff hwn yw fod PC, cyn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf, wedi ei fodloni nad yw A–
(a) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf, a
(b) nad yw wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod di-dor pan fo PC yn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf–
(a) os rhoddwyd y caniatâd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a
(b) os yw'r caniatâd yn parhau i gael effaith wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
31 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 ("y Ddeddf"), yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gweithgarwch rheoledig yng Nghymru. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y'u gwneir.
Mae rheoliad 2 yn darparu na chaiff person cyfrifol, fel y'i diffinnir yn adran 23(3) o'r Ddeddf, ganiatáu i rywun arall ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant, fel y'i diffinnir yn adran 21 o'r Ddeddf, yn yr amgylchiadau a bennir yn y rheoliad hwnnw. Nid yw'r cyfyngiad hwn yn gymwys os rhoddwyd caniatâd cyn i'r Rheoliadau ddod i rym a'r caniatâd yn parhau'n weithredol ar ôl y dyddiad hwnnw.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf, fel y'u diffinnir yn adran 22 o'r Ddeddf, mewn termau cyffelyb i'r ddarpariaeth yn rheoliad 2.
Addaswyd adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 gan Reoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Gweithgarwch Rheoledig a Darpariaethau Amrywiol) 2010 (O.S. 2010/1146). Bydd yr addasiadau yn darparu ar gyfer dyroddi hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol, i ddatgan nad yw person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant a/neu oedolion hyglwyf, yn hytrach na thystysgrif cofnod troseddol fanylach. Mae dyroddi hysbysiad o'r fath yn berthnasol i'r amgylchiadau a bennir yn rheoliadau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn. Nid yw'r addasiadau'n gymwys os yw'r gweithgarwch rheoledig yn waith mewn sefydliad addysg bellach, pan fo dyletswyddau arferol y gwaith hwnnw yn cynnwys cyswllt rheolaidd â phersonau o dan 18 mlwydd oed.
Rheoliadau drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (fel y'i haddaswyd gan adran 56(5)(b) o'r Ddeddf honno), i'w cymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae i "person cyfrifol" yr ystyr a roddir i "responsible person" gan adran 23(3) o Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf 2006 ("y Ddeddf"). Back [2]
Mae i "gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant" yr ystyr a roddir i "controlled activity relating to children" gan adran 21 o'r Ddeddf. Back [3]
1997 p. 50. Mewnosodwyd adran 113B gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu (p. 15) a diwygiwyd hi gan adran 63(1) o'r Ddeddf a pharagraff 14(3) o Ran 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf, gan adran 378(1) o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52) a pharagraff 149 o Atodlen 16 i'r Ddeddf honno, ac erthyglau 2 a 4 o Orchymyn Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) (Cyfathrebiadau Electronig) 2009, O.S. 2009/203. Back [4]
Mewnosodwyd adran 113BA gan adran 63(1) o'r Ddeddf a pharagraff 14(1) a (4) o Ran 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf, a diwygiwyd hi gan adran 170(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40) (o ran Cymru; nid oedd y diwygiad mewn grym o ran Lloegr pan wnaed y Rheoliadau hyn). Mae adran 169 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) a pharagraff 12 o Ran 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno hefyd yn diwygio adran 113BA, ond nid oeddent mewn grym pan wnaed y Rheoliadau hyn. Back [5]
Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn pennu o dan ba amgylchiadau y caiff person ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant. Back [6]
1999 p. 14. Diwygiwyd adran 1 gan adrannau 95 i 98 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) a diddymwyd hi gan adran 63 o'r Ddeddf a pharagraff 8(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 9 i'r Ddeddf ac Atodlen 10 i'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn erthygl 5 o Orchymyn Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009, O.S. 2009/2611 ("yr GRh6DTA"). Back [7]
2002 p. 32. Diddymwyd adran 142 gan adran 63 o'r Ddeddf ac Atodlen 10 i'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn erthygl 7 o'r GRh6DTA. Back [8]
Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn pennu o dan ba amgylchiadau y caiff person ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant. Back [9]
Mae i "gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf" yr ystyr a roddir i "controlled activity relating to vulnerable adults" gan adran 22 o'r Ddeddf. Back [10]
Mewnosodwyd adran 113BB gan adran 63(1) o'r Ddeddf a pharagraff 14(1) a (4) o Ran 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf. Back [11]
Mae adran 3(3) o'r Ddeddf yn pennu o dan ba amgylchiadau y caiff person ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf. Back [12]
Diddymwyd adran 81 gan adran 63 o'r Ddeddf a pharagraff 9 o Ran 1 o Atodlen 9 i'r Ddeddf ac Atodlen 10 i'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn erthygl 6 o'r GRh6DTA. Back [13]