BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) 2010 No. 1291 (Cy. 110)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101291_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) 2010

Gwnaed

19 Ebrill 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Ebrill 2010

Yn dod i rym

26 Gorffennaf 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13, 56(1), 60 a 61(5) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 26 Gorffennaf 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–

Cyfnod Rhagnodedig

3. At ddibenion adran 13(1) o Ddeddf 2006 y cyfnod rhagnodedig yw cyfnod sydd o fewn pedwar mis i'r dyddiad y gwnaeth person a benodwyd i gorff llywodraethu sefydliad addysgol–

(a) cydsynio i'r swyddog priodol wneud gwiriad yn unol ag adran 15(2)(a) o Ddeddf 2006; a

(b) darparu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol i wneud y gwiriad hwnnw i'r swyddog priodol.

Swyddog Priodol

4.–(1) At ddibenion adran 13(5) o Ddeddf 2006, y swyddog priodol–

(a) mewn perthynas ag ysgol annibynnol, yw ei hunigolyn cyfrifol;

(b) mewn perthynas â sefydliad addysg bellach, yw ei benadur; ac

(c) mewn perthynas ag unrhyw sefydliadau addysgol eraill, yw prif swyddog addysg yr awdurdod lleol lle mae'r sefydliad addysgol wedi'i leoli.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

19 Ebrill 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 ("Deddf 2006") yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cynllun newydd ynghylch fetio a gwahardd i bobl sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion hyglwyf. Mae adran 13 o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol bod gwiriad yn cael ei wneud mewn perthynas ag unrhyw berson sy'n cael ei benodi i gorff llywodraethu sefydliad addysgol. Mae methu â gwneud gwiriad yn dramgwydd. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, at ddibenion adran 13, y cyfnod y mae'n rhaid i'r gwiriad hwnnw gael ei wneud ynddo a'r swyddog priodol sy'n gyfrifol am ei wneud.

Gan hynny, y cyfnod rhagnodedig yw cyfnod sydd o fewn pedwar mis i'r dyddiad y cydsyniodd person a benodwyd i gorff llywodraethu sefydliad addysgol i'r swyddog priodol wneud gwiriad a darparu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol i wneud y gwiriad hwnnw i'r swyddog priodol. Y swyddog priodol ar gyfer ysgol annibynnol yw'r perchennog ac, ar gyfer sefydliad addysg bellach, y penadur. Mewn cysylltiad â phob sefydliad addysgol arall, prif swyddog addysg yr awdurdod lleol yw'r swyddog priodol.

(1)

2006 p.47. Back [1]

(2)

Diwygiwyd gan baragraff 183(a)(iii) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a chan O.S. 2005/2913 (Cy.210). Back [2]

(3)

1996 p.56. Back [3]

(4)

1992 p.13. Back [4]

(5)

Amnewidiwyd is-adran (1) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 95(1) a (2) o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21) a chan Ran 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Mewnosodwyd is-adran (1A) gan adran 95(1) a (3) o Ddeddf Gofal Plant 2006. Diwygiwyd is-adran (2) gan baragraff 10(a) a (b) o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101291_we_1.html