BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 1360 (Cy. 115)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101360_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

24 Ebrill 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Ebrill 2010

Yn dod i rym

25 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Mai 2010.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009(3).

Diwygio'r Prif Reoliadau

3.–(1) Diwygir y Prif Reoliadau'n unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn nhrydydd paragraff y rhaglith–

(a) yn y testun Saesneg, yn lle "to the Secretary of State" rhodder "to the Welsh Ministers";

a

(b) yn y testun Cymraeg yn lle "i'r Ysgrifennydd Gwladol" rhodder "i Weinidogion Cymru".

(3) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y testun Cymraeg, yn lle'r diffiniad sy'n dechrau â'r geiriau "mae i "Cyfarwyddeb 2004/41"" ac sy'n gorffen â'r geiriau "yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;" rhodder

(4) Yn rheoliad 5(2)(b) (gwybodaeth)–

(a) yn y testun Saesneg, y ddau dro y ceir y gair "secretary" rhodder yn ei le y gair "Secretary"; a

(b) yn y testun Cymraeg, y ddau dro y ceir y geiriau "ysgrifennydd neu ysgrifenyddes" rhodder yn eu lle y gair "Ysgrifennydd".

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Ebrill 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/1557 (Cy.152)) ("y Prif Reoliadau") yn dirymu a disodli Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/601 (Cy.63)).

Mae'r Prif Reoliadau'n darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru Erthyglau 26 a 27 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 sy'n ymwneud â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, ac ag iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, i'r graddau y mae'r darpariaethau'n ei gwneud yn ofynnol neu'n caniatáu i ffioedd gael eu casglu i dalu costau sy'n cael eu peri gan reolaethau swyddogol mewn perthynas â mathau neilltuol o ddofednod; lles anifeiliaid mewn lladd-dai; cigydda anifeiliaid y tu allan i ladd-dai a chigydda dofednod ac anifeiliaid amrywiol eraill a ffermir ar ffermydd. Mae'r Prif Rheoliadau'n gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â hysbysu gweithredwyr am unrhyw ofyniad i dalu ffioedd neu i roi gwybodaeth, ac mewn perthynas â chyfrifo ffi rheolaethau swyddogol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i'r rhaglith, ac i reoliadau 2(1) a 5(2)(b), yn y Prif Reoliadau.

(1)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51). Back [1]

(2)

O.S. 2005/1971.Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

O.S. 2009/1557 (Cy.152). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101360_we_1.html