BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 1376 (Cy. 121) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101376_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
28 Ebrill 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ebrill 2010
Yn dod i rym
21 Mai 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd)(2).
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau a ganlyn.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 21 Mai 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpan Fach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009(4) fel a ganlyn.
(2) Yn yr enw ac yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso) yn y testun Cymraeg yn lle "(Jeli Cwpan Fach)" rhodder "(Jeli Cwpanau Bach)".
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y testun Saesneg-
(a) ar ddiwedd paragraff (3)(a) mewnosoder "or";
(b) ym mharagraff (3)(b) dileer "; or" ac yn ei le rhodder ","; ac
(c) ym mharagraff (3) dileer is-baragraff (c).
(4) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y testun Cymraeg–
(a) ar ddiwedd paragraff 3(a) mewnosoder "neu";
(b) ym mharagraff (3)(b) dileer "; neu" ac yn ei le rhodder ","; ac
(c) ym mharagraff (3) dileer is-baragraff (c).
(5) Ym mharagraff (5) o reoliad 3 (gwaharddiadau) yn y testun Cymraeg ar ôl y gair "gyfnod" mewnosoder y gair "nad".
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Ebrill 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau Bwyd (Jeli Cwpan Fach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009.