BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010 No. 1892 (Cy. 185) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101892_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
22 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym
16 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau'r UE gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
1.–(1) Enw' r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac yn dod i rym ar 16 Awst 2010.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu'r cynllun taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009(3); ac
ystyr "Rheoliad y Cyngor" ("the Council Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr(4).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
3. Mae Cymru yn rhanbarth sengl at ddibenion Erthygl 46(2) o Reoliad y Cyngor.
4. At ddibenion Erthygl 25(4) o Reoliad y Comisiwn maint lleiaf daliad y ceir gwneud cais am sefydlu hawlogaethau i daliad ar ei gyfer yw 0.3 hectar.
5. At ddibenion Erthygl 28(1) o Reoliad y Cyngor y lleiafswm sy'n ofynnol ar gyfer hawliad yw un hectar yn achos ffermwyr nad ydynt yn dal hawlogaethau arbennig yn unol â'r Erthygl honno, a 100 yn achos ffermwyr sy'n dal hawlogaethau arbennig.
6. Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn pan fo'r ffermwr yn gwneud datganiad ynglŷn â pharseli yn unol ag Erthygl 35(1) o Reoliad y Cyngor, y dyddiad pan fo rhaid i'r parseli hynny fod ar gael at ddefnydd y ffermwr yw 15 Mai yn y flwyddyn honno.
7. Y cyfraddau yn nhrydedd golofn yr Atodlen yw'r modiwleiddio gwirfoddol y cyfeirir ato yn Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 378/2007 dyddiedig 27 Mawrth 2007 sy'n pennu rheolau ar gyfer modiwleiddio yn wirfoddol y taliadau uniongyrchol(5).
8. At ddibenion Erthygl 2(n) o Reoliad y Comisiwn–
(a) y rhestr o rywogaethau coed yw–
Gwern (Alnus spp.);
Bedw (Betula spp.);
Cyll (Corylus avellana);
Ynn (Fraxinus excelsior);
Pisgwydd (Tilia cordata);
Castanwydd (Castanea sativa);
Masarn (Acer pseudoplatanus);
Helyg (Salix spp.);
Poplys (Populus spp.);
Oestrwydd (Carpinus spp.); a
(b) y cylchdro cynaeafu hwyaf yw 20 mlynedd.
9. Yn unol â'r trydydd is-baragraff o Erthygl 43(1) o Reoliad y Cyngor, ni cheir defnyddio na throsglwyddo hawlogaethau i daliad o dan y cynllun taliad sengl, sydd i' w priodoli i Gymru ac a sefydlwyd yng Nghymru, ac eithrio o fewn Cymru.
10. Dirymir y Rheoliadau canlynol–
(a) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005(6);
(b) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006(7);
(c) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2008(8);
(ch) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2009(9);
(d) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005(10);
(dd) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006(11).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Gorffennaf 2010
Rheoliad 7
Blwyddyn | Modiwleiddio gorfodol yr UE | Modiwleiddio gwirfoddol | Cyfanswm y modiwleiddio |
---|---|---|---|
2009 | 0% | 4.2% | 4.2% |
2010 | 0% | 5.8% | 5.8% |
2011 | 0% | 6.5% | 6.5% |
2012 | 0% | 6.5% | 6.5% |
Blwyddyn | Cyfraddau modiwleiddio gorfodol yr UE, a ddarperir ar eu cyfer yn Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor | Modiwleiddio gwirfoddol | Cyfanswm y modiwleiddio |
---|---|---|---|
2009 | 7% | 2.2% | 9.2% |
2010 | 8% | 2.8% | 10.8% |
2011 | 9% | 2.5% | 11.5% |
2012 | 10% | 1.5% | 11.5% |
Blwyddyn | Cyfraddau modiwleiddio gorfodol yr UE, a ddarperir ar eu cyfer yn Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor | Modiwleiddio gwirfoddol | Cyfanswm y modiwleiddio |
---|---|---|---|
2009 | 11% | 0% | 11% |
2010 | 12% | 0% | 12% |
2011 | 13% | 0% | 13% |
2012 | 14% | 0% | 14% |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â Chymru, ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t. 16), ac offerynnau cysylltiedig eraill yr UE (Undeb Ewropeaidd), mewn perthynas â chynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin.
Maent yn parhau'r trefniadau a oedd yn gymwys o dan Reoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005, O.S. 2005/360 (Cy.29) fel y'i diwygiwyd.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod Cymru'n rhanbarth sengl at ddibenion y cynlluniau cymorth uniongyrchol.
Mae rheoliad 4 yn pennu maint lleiaf daliad y ceir gwneud cais am sefydlu hawlogaethau mewn perthynas ag ef.
Mae rheoliad 5 yn gosod yr arwynebedd lleiaf y ceir gwneud hawliad mewn perthynas ag ef, ac mewn rhai achosion, gwerth lleiaf yr hawliad.
Mae rheoliad 6 yn pennu'r dyddiad pan fo rhaid i barseli, a ddefnyddir fel sail i hawliad o dan y Cynllun Taliad Sengl, fod ar gael at ddefnydd ffermwyr.
Mae rheoliad 7 yn pennu cyfanswm y didyniadau modiwleiddio gwirfoddol a wneir o daliadau uniongyrchol sy'n daladwy i ffermwyr.
Mae rheoliad 8 yn dynodi pa rywogaethau o goed ar gyfer coedlannau cylchdro byr sy'n gymwys o dan y cynllun taliad sengl ac yn pennu'r cylchdro cynaeafu hwyaf.
Mae rheoliad 9 yn darparu mai o fewn Cymru yn unig y ceir defnyddio a throsglwyddo hawlogaethau i daliad a sefydlwyd yng Nghymru.
Mae rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005, O.S. 2005/360 (Cy.29) a'r diwygiadau iddynt, a Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005, O.S. 2005/45 (Cy.4) a'r diwygiadau iddynt.
Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol gan fod y darpariaethau yn y Rheoliadau hyn naill ai'n parhau trefniadau sy'n bodoli eisoes, neu, yn achos y ddarpariaeth ynglŷn â choedlannau cylchdro byr, yn achosi cost ychwanegol ddibwys i fusnesau.
O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
1972 p.68. Back [2]
OJ Rhif L 316, 2.12.2009, t. 10. Back [3]
OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t. 16 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 360/2010 (OJ Rhif L 106, 28.4.2010, t. 1). Back [4]
OJ Rhif L95, 5.4.2007, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t. 16). Back [5]
O.S. 2005/360 (Cy. 29). Back [6]
O.S. 2006/357 (Cy. 45). Back [7]
O.S. 2008/2500 (Cy. 218). Back [8]
O.S. 2009/3129 (Cy. 272). Back [9]
O.S. 2005/45 (Cy. 4). Back [10]
O.S. 2006/3101 (Cy. 285). Back [11]