OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3137 (Cy.301)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003
|
Wedi'u gwneud |
27 Tachwedd 2003 | |
|
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2) |
Gan fod Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1], adroddiad dyddiedig Tachwedd 2002 ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan; yn Ninas a Sir Caerdydd ynghyd â chynigion a luniwyd ganddo arnynt;
A chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny, heb newidiadau;
A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2] yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004, a hwnnw yw'r diwrnod penodedig ("appointed day") at ddibenion Rheoliadau 1976, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau 1976, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr Map A ("Map A") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map A Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Ystum Taf a'r Eglwys Newydd) 2003" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map B ("Map B") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map B Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Llanisien a Llys-Faen) 2003" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map C ("Map C") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map C Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trelái a Sain Ffagan (1)) 2003" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map Ch ("Map D") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map Ch Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trelái a Sain Ffagan (2)) 2003" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976; ac
ystyr "Rheoliadau 1976" ("the 1976 Regulations") yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976[3].
Newidiadau i Ffiniau Cymunedau
3.
Mae'r ffiniau rhwng cymunedau i Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; ac Trelái a Sain Ffagan yn cael eu diwygio yn unol ag erthygl 4.
Ffiniau Cymunedau Newydd
4.
- (1) Mae'r ffin rhwng cymundau Ystum Taf a'r Eglwys Newydd i fod fel a ddangosir ar Fap A wedi'i farcio fel "y Ffin Gymunedol Newydd".
(2) Mae'r ffin rhwng cymundau Llanisien a Llys-Faen i fod fel a ddangosir ar Fap B wedi'i farcio fel "y Ffin Gymunedol Newydd".
(3) Mae'r ffin rhwng cymundau Trelái a Sain Ffagan i fod fel a ddangosir ar Fapiau C ac Ch wedi'u marcio fel "y Ffin Gymunedol Newydd".
Cynghorydd Cymuned Ychwanegol
5.
Cynyddir y nifer o gynghorwyr cymuned i'w hethol ar gyfer cymuned Sain Ffagan i 9.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
Karen Sinclair
Y Trefnydd
27 Tachwedd 2003
Click here for Image
Click here for Image
Click here for Image
Click here for Image
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y Gorchymyn yw newid ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan. Ychwanegir un cynghorydd cymuned yng nghymuned Sain Ffagan.
Gwnaed adroddiad yn Nhachwedd 2002 gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan; yn Ninas a Sir Caerdydd. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i'r ffiniau presennol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi'r argymhellion hynny ar waith heb newidiadau.
Mae printiau o'r mapiau ffiniau A-Ch wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Cyngor, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1976"), y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(4) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.
Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1972 p.70.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[3]
O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amrywiol offerynnau statudol lle nad yw'r diwygiadau yn berthnasol i'r O.S. hwn).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090850 3
|