BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040071w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif71 (Cy.7)

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004

  Wedi'i wneud 14 Ionawr 2004 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2004 

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

     A chan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau y mae eu holl weithgareddau neu'n sylweddol eu holl weithgareddau yn cael eu gwneud o dan gytundeb neu yn unol â threfniadau a wnaed gyda pherson sy'n gweithredu fel gwas neu asiant i'r Goron;

     Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[1], ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], a phob pwcirc er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 a daw i rym ar 1 Chwefror 2004.

Pennu Cyrff Cyhoeddus
    
2. Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Ionawr 2004



YR ATODLEN
Erthygl 2

Cwmni sydd yn ymgymerwr dwcirc r neu'n ymgymerwr carthffosiaeth neu'r ddau ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dwcirc r 1991[
4] neu yn rhinwedd amrywio'r fath benodiad o dan adran 7 o'r Ddeddf honno.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("y Ddeddf") gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf sef cyrff sy'n ymgymerwyr dwcircr neu ymgymerwyr carthffosiaeth, neu'r ddau, ac sy'n gweithredu yng Nghymru.

Mae pedwar Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (O.S. 1999/1100);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (O.S. 2001/2550 (Cy.215)); a

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 (O.S. 2002/1441 (Cy.145)).


Notes:

[1] 1993 p.38.back

[2] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back

[4] 1991 p.56.back



English version



ISBN 0 11090853 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 21 January 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040071w.html