BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005 Rhif 1312 (Cy.94)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051312w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1312 (Cy.94)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 10 Mai 2005 
  Yn dod i rym 13 Mai 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan adrannau 47(4), 48(1) a (2), 49(2), 51(2) a (3), 52(2), 54(4) a (5), 55(1) a (2), 56(1), 58(2) a 123(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Cymhwyso, enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yw Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005 ac maent yn dod i rym ar 13 Mai 2005.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 

lle nad oes modd darllen gyda'r llygad dynol yn unig, y wybodaeth ar ffurf cod a gynhwysir yn y marciau;

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at  - 

Cael gafael ar wybodaeth gan awdurdod bilio at ddiben datblygu cynigion AGB
     2.  - (1) Pan fydd yr awdurdod bilio perthnasol yn derbyn cais (wedi'i wneud yn unol â pharagraff (2)) gan unrhyw berson sy'n datblygu cynigion AGB, rhaid i'r awdurdod  - 

    (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1)  - 

    (3) Ni chaiff unrhyw berson  - 

heblaw at ddiben datblygu cynigion yr AGB fel a ddisgrifir yn y cais a wneir o dan baragraff (1).

    (4) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol godi tâl ar y person sy'n gwneud y cais am wybodaeth am ddelio gyda'r cais ac am ddarparu'r wybodaeth o dan y rheoliad hwn.

    (5) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod swm y tâl a godir ganddo o dan baragraff (4) yn rhesymol o ystyried y costau a achosir neu sy'n debygol o gael eu hachosi gan yr awdurdod wrth ddelio gyda cheisiadau a darparu gwybodaeth o dan y rheoliad hwn.

Cynigydd yr AGB
    
3.  - (1) Caiff y personau canlynol lunio cynigion AGB  - 

    (2) Rhaid i gynigydd yr AGB, o leiaf 84 diwrnod cyn cyflwyno'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan reoliad 4(2)(a)(ii), hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ynghylch bwriad y cynigydd i ofyn i'r awdurdod bilio perthnasol roi cynigion yr AGB i bleidlais.

Cynigion yr AGB, cynigion adnewyddu, cynigion diwygio a gweithdrefnau rhagarweiniol
    
4.  - (1) Rhaid i gynigion yr AGB, cynigion adnewyddu neu gynigion diwygio, yn ôl y digwydd, gynnwys y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1, 2 a 3 o Atodlen 1.

    (2) Pan fydd cynigydd yr AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion yr AGB drwy bleidlais AGB, neu lle mae'r corff AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio drwy bleidlais ddiwygio neu ar gyfer cynigion adnewyddu drwy bleidlais adnewyddu, rhaid iddo  - 

    (3) Os  - 

rhaid iddo anfon copi o gynigion yr AGB, y cynigion diwygio neu'r cynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, a'r cynllun busnes arfaethedig, at unrhyw berson fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB arfaethedig ac sy'n gofyn am gopi.

    (4) Os mae'r awdurdod bilio perthnasol yn ystyried bod cynigion yr AGB, y cynigion adnewyddu neu'r cynigion diwygio yn gwrthdaro gyda pholisi sydd wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol gan yr awdurdod ac sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod (p'un ai oes gan yr awdurdod ddyletswydd statudol i baratoi dogfen o'r fath neu beidio) rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol rhesymol ar ôl derbyn y cynigion, hysbysu cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig i egluro natur y gwrthdaro.

Cyfarwyddiadau i gynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais
    
5.  - (1) Pan fydd awdurdod bilio perthnasol  - 

rhaid iddo gyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd.

    (2) Pan fydd awdurdod bilio perthnasol yn derbyn hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), nid yw'n ofynnol iddo gyfarwyddo trefnydd y bleidlais o dan baragraff (1) hyd nes bydd cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn cydymffurfio gyda gofynion rheoliad 4(1) a (2).

Trefnydd y bleidlais
    
6.  - (1) Y person sy'n cynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais ("trefnydd y bleidlais") yw'r person a benodwyd gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983[9] i fod yn swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau i'r awdurdod hwnnw.

    (2) Caiff trefnydd y bleidlais, ar ffurf ysgrifenedig drwy ei law ef neu hi, benodi un neu fwy o bersonau i gyflawni'r cyfan neu unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Trefniadau ar gyfer trefnu a chynnal pleidlais
     7. Pan fydd yn derbyn cyfarwyddyd o dan reoliad 5, rhaid i drefnydd y bleidlais wneud trefniadau i gynnal pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, yn unol ag Atodlen 2.

Personau sydd â hawl i bleidleisio
    
8.  - (1) Bydd gan berson hawl i bleidleisio mewn pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais o ran pleidlais AGB, neu mewn pleidlais ddiwygio os, ar y dyddiad y bydd trefnydd y bleidlais yn cyflwyno'r hysbysiad o dan baragraff 3(a) o Atodlen 2, bydd y person hwnnw yn dod o dan y categori o drethdalwyr annomestig sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a ddisgrifir yng nghynigion yr AGB neu'r cynigion diwygio, yn ôl y digwydd.

    (2) Bydd gan berson hawl i bleidleisio mewn pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais o ran pleidlais adnewyddu os, ar y dyddiad y bydd trefnydd y bleidlais yn cyhoeddi'r hysbysiad o dan baragraff 3(a) o Atodlen 2, yw'n dod o dan y categori o drethdalwyr annomestig sydd yn atebol i dalu lefi'r AGB ar y dyddiad hwnnw.

    (3) Pan fydd mwy nag un person yn atebol i dalu lefi'r AGB fel partneriaid neu ymddiriedolwyr o ran hereditament, y person sydd â hawl i bleidleisio o ran yr hereditament hwnnw fydd y partneriaid neu'r ymddiriedolwyr ar y cyd.

Datgan bod pleidlais yn annilys
    
9.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yn annilys os yw'n ymddangos iddo fod unrhyw anghysondeb sylweddol wedi digwydd.

    (2) Yn y rheoliad hwn, y mae "anghysondeb sylweddol" yn golygu  - 

    (3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys oni bai fod person ("yr achwynydd"), sef person neu grŵp o bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), erbyn y dyddiad sydd 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2, wedi gwneud cais (drwy hysbysiad ysgrifenedig) i'r Cynulliad Cenedlaethol i arfer ei bwerau o dan y rheoliad hwn, gan nodi'r rheswm dros y cais hwnnw.

    (4) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw  - 

    (5) Pan fydd yn derbyn cais o dan baragraff (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig ei fod wedi derbyn y cais ac anfon copi at bob un ohonynt.

    (6) Pan fydd dau neu fwy o geisiadau yn ymwneud â'r un bleidlais, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu y ceisiadau hynny gyda'i gilydd.

    (7) O fewn 28 diwrnod i ddyddiad derbyn yr hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (5), caiff yr achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cais.

    (8) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau a wnaed gan un parti at y partïon eraill ynghyd â datganiad yn egluro effaith paragraff (9).

    (9) Caiff unrhyw barti yr anfonir copi o'r sylwadau ato o dan baragraff (8), o fewn 14 diwrnod i fod wedi ei dderbyn, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach mewn ymateb i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o unrhyw sylwadau pellach o'r fath at y partïon eraill.

    (10) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, ynghylch ei benderfyniad a, pan fydd yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yn annilys, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol yn ysgrifenedig i ofyn iddo drefnu cynnal ail bleidlais neu ail bleidlais arall, yn ôl y digwydd.

    (11) Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais o ran pleidlais o'r fath yn annilys ac y mae o'r farn bod yr anghysondeb sylweddol wedi'i achosi gan weithredoedd neu hepgoriad cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad i'r perwyl hwnnw ynghyd â'i hysbysiad penderfynu ac, yn yr hysbysiad hwnnw rhaid iddo egluro effaith rheoliad 10.

    (12) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais o'r fath yn annilys - 

    (13) Rhaid i'r diwrnod a bennir o dan baragraff (12) beidio â bod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2.

Talu costau pleidlais
    
10.  - (1) Y mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd nifer y personau a bleidleisiodd o blaid yn y bleidlais yn llai na 20 y cant o'r nifer o bersonau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais, ac  - 

    (2) Pan fo paragraff (1) yn berthnasol, caiff yr awdurdod bilio perthnasol ei gwneud yn ofynnol i gynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, i dalu costau trefnu a chynnal y bleidlais a gall yr awdurdod bilio perthnasol adennill y swm hwn fel dyled sifil sydd yn ddyledus iddo.

    (3) Y mae'r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cynnwys unrhyw dreuliau a achoswyd yn gywir gan drefnydd y bleidlais ac a godwyd ar yr awdurdod bilio perthnasol o dan reoliad 20.

Cael gafael ar wybodaeth gan yr awdurdod bilio perthnasol at ddiben canfasio
    
11.  - (1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais (o dan reoliad 5(1)), rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol  - 

    (2) Pan fydd yn derbyn cais (a wnaed yn unol â pharagraff (3)) gan  - 

rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol ddarparu, ar ffurf data, copi o'r wybodaeth yn y ddogfen y mae'n ofynnol iddo'i pharatoi o dan baragraff (1) i'r person neu'r grŵp o bersonau hynny.

    (3) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (2)  - 

    (4) Ni chaiff unrhyw berson  - 

ac eithrio at ddiben canfasio personau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais ddiwygio, y bleidlais adnewyddu neu'r ail bleidlais a nodir yn y cais a wneir o dan baragraff (2).

    (5) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol godi tâl am ddelio â chais ac am ddarparu'r wybodaeth o dan y rheoliad hwn ar y person y darperir yr wybodaeth iddo.

    (6) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod swm y tâl a godir o dan baragraff (5) yn rhesymol ar ôl ystyried y costau a achoswyd neu sy'n debygol o gael eu hachosi gan yr awdurdod wrth ddelio gyda cheisiadau ac am gyflenwi gwybodaeth o dan y rheoliad hwn.

Atal cynigion AGB drwy feto
    
12.  - (1) At ddibenion adran 51(2) y Ddeddf, yr amgylchiadau rhagnodedig yw bod awdurdod bilio perthnasol o'r farn bod trefniadau'r AGB yn debygol - 

    (2) At ddiben adran 51(2) y Ddeddf, y cyfnod rhagnodedig yw 15 o ddiwrnodau gwaith o ddiwrnod y bleidlais.

    (3) At ddiben adran 51(3) y Ddeddf, y materion rhagnodedig y mae'n rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol eu hystyried wrth benderfynu a fydd yn defnyddio ei hawl i atal drwy feto yw - 

Apelio yn erbyn y feto
    
13.  - (1) Rhaid i berson ("yr apelydd") sydd am apelio yn erbyn feto o dan adran 52(1) y Ddeddf, gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn 28 o ddiwrnodau i gyhoeddiad yr hysbysiad feto gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan adran 51(4) y Ddeddf, hysbysiad ysgrifenedig ("yr hysbysiad apêl") ynghyd â datganiad yn nodi'r rhesymau dros wneud yr apêl.

    (2) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn yr hysbysiad apêl, rhaid iddo  - 

    (3) Pan fydd dau neu fwy o hysbysiadau apêl yn ymwneud â'r un feto, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yr apelau gyda'i gilydd.

    (4) Penderfynir yr apêl drwy sylwadau ysgrifenedig a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) O fewn 28 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), caiff yr apelydd a'r awdurdod bilio perthnasol gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr apêl.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau a wneir gan un parti yn yr apêl at y partïon eraill yn yr apêl ynghyd â datganiad yn egluro effaith paragraff (7).

    (7) Caiff unrhyw barti mewn apêl yr anfonir copi o'r sylwadau ato o dan baragraff (6) gyflwyno fel ymateb, o fewn 14 diwrnod i fod wedi eu derbyn, sylwadau ysgrifenedig pellach i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o unrhyw sylwadau pellach a wneir at y partïon eraill yn yr apêl.

    (8) Wrth benderfynu a fydd yn caniatáu apêl ai peidio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried y materion canlynol - 

    (9) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad at yr apelydd a'r awdurdod bilio perthnasol.

Cyfrif Refeniw AGB
    
14.  - (1) Bydd Atodlen 3 yn cael effaith ynghylch cadw Cyfrif Refeniw AGB.

    (2) Pan fydd gan yr awdurdod bilio perthnasol fwy nag un hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), rhaid iddo sicrhau bod Cyfrif Refeniw AGB ar wahân yn cael ei gadw ar gyfer pob un o'r ardaloedd gwella busnes.

    (3) Y mae'r paragraff hwn yn gymwys pan ddaw trefniadau'r AGB i ben (drwy eu terfynu o dan reoliad 18, neu fel arall) a cheir credyd yng Nghyfrif Refeniw yr AGB a fyddai, ar ôl tynnu swm rhesymol am weinyddu'r trefniadau i gredydu neu ad-dalu'r swm, yn rhoi credyd neu ad-daliad o £5 o leiaf i bob person oedd yn atebol i dalu lefi'r AGB yn yr union gyfnod cyn i drefniadau'r AGB ddod i ben ("talwr lefi blaenorol").

    (4) Pan fydd paragraff (3) yn berthnasol, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol  - 

    (5) Pan na fydd paragraff (3) yn berthnasol, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol drosglwyddo'r balans credyd yng Nghyfrif Refeniw yr AGB i gredyd ei gronfa gyffredinol.

Gweinyddu lefi'r AGB etc
    
15. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, erbyn y dyddiad cychwyn, wneud trefniadau i godi, gweinyddu, casglu, adennill a gweithredu lefi'r AGB a bydd Atodlen 4 yn berthnasol i'r materion hyn.

Diwygio trefniadau'r AGB heb bleidlais ddiwygio
    
16.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), caniateir diwygio trefniadau'r AGB heb bleidlais ddiwygio pan fydd y trefniadau yn cynnwys darpariaeth i alluogi gwneud hynny.

    (2) Ni chaiff unrhyw ddarpariaeth ym mharagraff (1) ddiwygio  - 

    (3) Pan fydd paragraff (1) yn berthnasol, rhaid i drefniadau'r AGB gynnwys darpariaeth yn disgrifio'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer gwneud y diwygiad.

    (4) Rhaid i'r weithdrefn y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys  - 

    (5) Pan fydd trefniadau'r AGB yn cael eu diwygio o dan y rheoliad hwn  - 

Diwygiadau i drefniadau'r AGB yn dilyn pleidlais
    
17.  - (1) Pan fydd cynnig i newid neu ddiwygio  - 

    (2) Ni ddaw diwygiadau i drefniadau'r AGB o dan y rheoliad hwn i rym oni bai y cymeradwyir y cynigion diwygio drwy bleidlais o'r trethdalwyr annomestig sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o dan drefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) ("pleidlais ddiwygio") ac nid ystyrir hwynt i fod wedi eu cymeradwyo gan bleidlais ddiwygio oni bai  - 

    (3) Pan fydd trefniadau'r AGB yn cael eu diwygio o dan y rheoliad hwn  - 

Terfynu trefniadau'r AGB
    
18.  - (1) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol derfynu trefniadau'r AGB os  - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y corff AGB neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, caiff yr awdurdod bilio perthnasol derfynu trefniadau'r AGB os  - 

    (3) Ni chaiff y corff AGB neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, ni chaiff yr awdurdod bilio perthnasol gymryd unrhyw gamau i derfynu trefniadau'r AGB hyd nes  - 

    (4) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol hysbysu'r corff AGB yn ysgrifenedig ynghylch ei fwriad i derfynu trefniadau'r AGB o dan baragraff (1) neu (2) o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eu terfynu.

    (5) Rhaid i'r corff AGB hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol yn ysgrifenedig ynghylch ei fwriad i derfynu trefniadau'r AGB o dan baragraff (2) o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eu terfynu.

    (6) Os terfynir trefniadau'r AGB o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i derfynu at bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB a rhaid i'r hysbysiad hwnnw egluro a fydd ad-daliad o dan reoliad 14(4) yn cael ei wneud.

Gwybodaeth
    
19. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol gyflenwi unrhyw wybodaeth i drefnydd y bleidlais y mae ei angen at ddiben cyflawni ei swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

Treuliau trefnydd y bleidlais
    
20. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol dalu'r holl wariant a achosir yn briodol gan drefnydd y bleidlais o ran cynnal pleidlais o dan y Rheoliadau hyn.

Cyflwyno ceisiadau neu hysbysiadau yn electronig
    
21.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod unrhyw hysbysiad neu gais, yn ysgrifenedig (ar wahân i ystyr arferol yr ymadrodd hwnnw) wedi ei ddiwallu os bydd y testun - 

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei gyflwyno i awdurdod bilio neu gan awdurdod bilio i unrhyw berson o dan Atodlen 4, neu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol iddo ei ddarparu o dan baragraff 3(2) yr Atodlen honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
10]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2005



ATODLEN 1
Rheoliad 4


YR HYN A GYNHWYSIR MEWN CYNIGION AGB, CYNIGION ADNEWYDDU NEU GYNIGION DIWYGIO


     1.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), y materion sydd i'w cynnwys yng nghynigion yr AGB yw  - 

    (2) O ran is-baragraff (1)(c), ni chaiff yr ardal ddaearyddol lle bydd trefniadau'r AGB yn cael effaith gynnwys rhan yn unig o hereditament cyfan.

    (3) O ran is-baragraff (1)(f), rhaid i gynigydd yr AGB nodi faint o ddyddiau ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2 y bydd yn bwriadu i drefniadau'r AGB gychwyn, ac ni chaiff y dyddiad cychwyn hwn fod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.

     2. Y materion sydd i'w cynnwys mewn cynigion adnewyddu yw  - 

     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y materion sydd i'w cynnwys yn y cynigion diwygio yw disgrifiad o sut y bwriedir diwygio trefniadau'r AGB o ran y canlynol  - 

    (2) O ran is-baragraff (1)(c), ni chaiff yr ardal ddaearyddol lle bydd trefniadau'r AGB yn cael effaith gynnwys rhan yn unig o hereditament cyfan.

    (3) O ran is-baragraff (1)(e), rhaid i'r corff AGB neu'r corff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, bennu faint o ddyddiau ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2 y bydd yn bwriadu i drefniadau'r AGB ddod i rym, ac ni chaiff y dyddiad cychwyn hwn fod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.



ATODLEN 2
Rheoliad 7


RHEOLAU AR GYFER PLEIDLEISIAU AGB, PLEIDLEISIAU ADNEWYDDU A PHLEIDLEISIAU DIWYGIO


DARPARIAETHAU YNGHYLCH AMSER

Amserlen

     1. Rhaid gweithredu'r bleidlais yn unol â'r Amserlen ganlynol.


Amserlen
Gweithred Amser
Yr awdurdod bilio yn cyfarwyddo trefnydd y bleidlais Yn unol â rheoliad 5
Cyhoeddi hysbysiad ynghylch y bleidlais O leiaf 42 diwrnod cyn diwrnod y bleidlais (paragraff 3)
Diwrnod y bleidlais Y diwrnod a bennir yn unol â pharagraff 2
Cyhoeddi'r canlyniad Yn unol â pharagraff 17

RHEOLAU AR GYFER PLEIDLEISIAU

Diwrnod y bleidlais

     2.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i drefnydd y bleidlais sicrhau bod diwrnod y bleidlais  - 

    (2) Ddim hwyrach na 42 o ddiwrnodau cyn diwrnod y bleidlais, gall trefnydd y bleidlais ohirio diwrnod y bleidlais o hyd at 15 o ddiwrnodau gwaith.

    (3) Pan fydd trefnydd y bleidlais yn gohirio'r bleidlais o dan is-baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig ynghylch diwrnod newydd y bleidlais a'r rhesymau dros ohirio a rhaid iddo gymeryd camau rhesymol i gyhoeddi dyddiad newydd y bleidlais.

Pleidleisiau  -  gweithdrefnau rhagarweiniol

     3. Rhaid i drefnydd y bleidlais, o leiaf 42 o ddiwrnodau cyn diwrnod y bleidlais  - 

     4.  - (1) Rhaid i bob pleidlais fod yn bleidlais bost.

    (2) Bydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio mewn pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, un bleidlais am bob hereditament a feddiannir neu (os na feddiannir) a berchenogir ganddo yn ardal ddaearyddol yr AGB.

    (3) Wrth gadarnhau gwerth ardrethol hereditament i bwrpas pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, ni ddylid ystyried unrhyw ddiwygiad i'r gwerth ardrethol na ddangosir yn y rhestr a gedwir o dan adran 42(4) o Ddeddf 1988 yn union cyn diwedd diwrnod y bleidlais.

Pleidleisio drwy brocsi

     5.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r paragraff hwn, caiff unrhyw berson gael ei benodi yn berson procsi i bleidleisio dros rywun arall mewn pleidlais, a chaiff bleidleisio yn rhinwedd y penodiad hwnnw.

    (2) Ni chaiff person sydd â hawl i bleidleisio benodi mwy nag un person procsi ar y tro i bleidleisio drosto mewn pleidlais.

    (3) Pan fydd person sydd â hawl i bleidleisio yn gwneud cais i drefnydd y bleidlais i benodi person procsi i bleidleisio drosto mewn pleidlais arbennig, rhaid i drefnydd y bleidlais wneud y penodiad os bydd y cais yn cwrdd â gofynion y paragraff hwn ac os yw'r person procsi yn gallu ac yn fodlon cael ei benodi.

    (4) Rhaid i gais i benodi person procsi gynnwys  - 

    (5) Rhaid i gais i benodi procsi gael ei wrthod i bwrpas pleidlais arbennig os yw'n cael ei dderbyn gan drefnydd y bleidlais ar ôl 5p.m. ar y degfed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais.

    (6) Os yw trefnydd y bleidlais yn caniatáu cais i benodi procsi, rhaid i drefnydd y bleidlais  - 

    (7) Os yw trefnydd y bleidlais yn gwrthod cais i benodi procsi, rhaid i drefnydd y bleidlais hysbysu'r ymgeisydd yn ysgrifenedig ynghylch ei benderfyniad a'r rheswm drosto.

    (8) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), bydd y penodiad yn aros mewn grym ar gyfer y bleidlais honno yn unig.

    (9) Caiff y person sydd â hawl i bleidleisio ganslo'r penodiad drwy hysbysu trefnydd y bleidlais neu drwy fod y person procsi yn hysbysu trefnydd y bleidlais nad yw mwyach yn dymuno gweithredu fel procsi.

    (10) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (9) a gyflwynir gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn canslo penodiad procsi gael ei ddiystyru i bwrpas pleidlais os yw'n cael ei dderbyn gan drefnydd y bleidlais ar ôl 5p.m. ar y pumed diwrnod cyn dyddiad y bleidlais.

    (11) Os yw penodiad procsi yn cael ei ganslo o dan is-baragraff (9), rhaid i drefnydd y bleidlais  - 

     6.  - (1) Rhaid i bob person sy'n cymryd rhan yn y trefniadau i anfon neu dderbyn papurau pleidleisio gadw at a chynorthwyo i gadw at ofynion cyfrinachedd y bleidlais ac ni chaiff geisio canfod wrth dderbyn y papurau pleidleisio sut y pleidleisiwyd ar unrhyw bapur pleidleisio nac ychwaith gyfleu unrhyw wybodaeth amdanynt a gafwyd drwy'r trefniadau hynny.

    (2) Rhaid i bob person sy'n cymryd rhan yn y gwaith o gyfri'r pleidleisiau gadw at a chynorthwyo i gadw at gyfrinachedd y pleidleisio ac ni chaiff gyfleu unrhyw wybodaeth a gafwyd wrth gyfri'r pleidleisiau ynghylch sut y pleidleisiwyd ar unrhyw bapur pleidleisio penodol.

    (3) Nid oes unrhyw beth yn y paragraff hwn yn atal trefnydd y bleidlais a'i glercod rhag canfod cyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament y pleidleisiwyd mewn perthynas ag ef.

Hysbysu'r gofynion cyfrinachedd

     7. Rhaid i drefnydd y bleidlais wneud trefniadau fel y gwêl yn briodol i sicrhau bod pob person sy'n cymryd rhan yn y gwaith o anfon neu dderbyn neu gyfri'r papurau pleidleisio wedi derbyn copi ysgrifenedig o'r darpariaethau ym mharagraff 6.

Y papur pleidleisio

     8.  - (1) Nid oes unrhyw beth i'w argraffu ar y papur pleidleisio ac eithrio yn unol â'r paragraff hwn.

    (2) Caiff pob papur pleidleisio fod â Rhif neu god bar ar ei gefn.

    (3) Ni chaiff y blwch ar gyfer dodi pleidlais ar y papur pleidleisio fod yn llai na 1.5 centimedr sgwâr.

    (4) Rhaid i'r holl eiriau ar y papur pleidleisio fod yn deip o'r un maint.

    (5) Rhaid i'r papur pleidleisio ar gyfer pleidlais AGB, neu ail bleidlais AGB, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg  - 

    (6) Rhaid i bob papur pleidleisio ar gyfer pleidlais adnewyddu, neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais adnewyddu, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg  - 

    (7) Rhaid i bob papur pleidleisio ar gyfer pleidlais ddiwygio, neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais ddiwygio, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg  - 

     9. Ni fydd yn rhaid i unrhyw berson a bleidleisiodd, mewn unrhyw achos cyfreithiol yn cwestiynu'r bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais, ddweud sut y pleidleisiodd.

Gweithdrefn ar anfon papurau pleidleisio

     10.  - (1) Rhaid anfon un papur pleidleisio at bob person sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu yn yr ail bleidlais, yn ôl y digwydd, am bob hereditament y mae ganddo hawl i bleidleisio mewn perthynas ag ef.

    (2) Y cyfeiriad yr anfonir y papur pleidleisio iddo yw  - 

    (3) Ar yr un pryd, rhaid anfon at bob person sydd â hawl i bleidleisio neu, os yw'n berthnasol, at ei brocsi  - 

    (4) At ddiben anfon y papurau pleidleisio, caiff trefnydd y bleidlais ddefnyddio  - 

    (5) Rhaid i gost y postio fod wedi'i thalu'n barod ar yr amlenni yr anfonir y papurau pleidleisio ynddynt a rhaid i gost y postio fod wedi'i thalu'n barod ar yr holl amlenni sydd i'w dychwelyd.

    (6) Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol wrth anfon y papurau pleidleisio, oni bai fod gweithredwr y bleidlais yn caniatáu i'r person hwnnw fod yn bresennol.

Papurau pleidleisio a ddifethwyd

     11.  - (1) Os yw pleidleisiwr wedi trin ei bapur pleidleisio, drwy amryfusedd, fel na ellir ei ddefnyddio'n hwylus fel papur pleidleisio (cyfeirir ato fel "papur pleidleisio a ddifethwyd") caiff ddychwelyd y papur pleidleisio a ddifethwyd (naill ai drwy law neu yn y post) at drefnydd y bleidlais.

    (2) Pan fydd trefnydd y bleidlais yn derbyn y papur pleidleisio a ddifethwyd, rhaid iddo anfon papur pleidleisio arall, ac eithrio os bydd yn ei dderbyn yn ddiweddarach na 3 diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais.

    (3) Rhaid i drefnydd y bleidlais ganslo'r papur pleidleisio a ddifethwyd ar unwaith.

    (4) Pan fydd pleidleisiwr yn gwneud cais yn bersonol, caiff trefnydd y bleidlais roi papur pleidleisio arall iddo yn lle ei anfon yn unol â pharagraff 10.

Papurau pleidleisio a gollwyd

     12.  - (1) Os nad yw pleidleisiwr wedi derbyn ei bapur pleidleisio erbyn y pedwerydd diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais, caiff wneud cais (yn bersonol neu beidio) i drefnydd y bleidlais am bapur pleidleisio arall.

    (2) Rhaid i gais o'r fath gynnwys tystiolaeth o bwy yw'r pleidleisiwr.

    (3) Os yw gweithredwr y bleidlais  - 

rhaid iddo roi papur pleidleisio arall i'r pleidleisiwr.

    (4) Os yw'r pleidleisiwr yn gwneud cais yn bersonol, caiff trefnydd y bleidlais roi papur pleidleisio arall iddo yn lle ei anfon yn unol â pharagraff 10.

Derbyn papurau pleidleisio a ddychwelir

     13.  - (1) Ni chymerir y bydd papur pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd yn briodol oni bydd wedi'i dderbyn gan drefnydd y bleidlais (naill ai drwy ei law neu yn y post) neu mewn lle wedi'i ddynodi'n benodol yn yr hysbysiad ynghylch y bleidlais fel man derbyn cyn 5p.m. ar ddiwrnod y bleidlais.

    (2) Pan fydd papur pleidleisio a ddychwelir yn cael ei dderbyn, rhaid i drefnydd y bleidlais drefnu i'w gadw mewn cynhwysydd diogel hyd nes y bo'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif.

    (3) Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol i dderbyn y papurau pleidleisio, oni chaniateir iddynt fod yn bresennol gan drefnydd y bleidlais.

Y Cyfrif

     14.  - (1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwrnod y bleidlais, rhaid i drefnydd y bleidlais drefnu i gyfri'r papurau pleidleisio sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (yn unol â pharagraff 13(1)) a chofnodi'r nifer a gyfrifwyd.

    (2) Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol i gyfri'r papurau pleidleisio, oni chaniateir iddynt fod yn bresennol gan drefnydd y bleidlais.

Papurau pleidleisio a wrthodir

     15.  - (1) Os bydd papur pleidleisio yn cael ei dderbyn sydd â'r un cod bar â phapur pleidleisio a dderbyniwyd eisoes, bydd y papur pleidleisio hwnnw a'r papur pleidleisio arall gyda'r un Rhif neu god bar (yn ôl y digwydd) yn annilys ac ni chânt eu cyfrif.

    (2) Bydd unrhyw bapur pleidleisio sydd heb ei lofnodi, heb ei farcio neu sydd yn annilys oherwydd ansicrwydd yn ei gylch, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), yn annilys ac ni chaiff ei gyfrif.

    (3) Ni fydd papur pleidleisio lle mae'r bleidlais wedi'i marcio - 

yn cael ei ystyried i fod yn annilys o'r herwydd os yw'r bwriad pleidleisio yn ymddangos yn glir.

Penderfyniadau ar bapurau pleidleisio

     16. Bydd penderfyniad trefnydd y bleidlais ynghylch unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch papur pleidleisio yn derfynol.

Cyhoeddi'r canlyniad

     17.  - (1) Rhaid i drefnydd y bleidlais ardystio  - 

    (2) Rhaid i drefnydd y bleidlais, ar ôl ardystio o dan is-baragraff (1),  - 

     18.  - (1) Ni chaiff unrhyw bleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, gael ei datgan yn annilys oherwydd unrhyw weithred neu hepgoriad gan drefnydd y bleidlais neu unrhyw berson arall o ganlyniad i fynd yn groes i ddarpariaethau'r Atodlen hon, os ymddengys i lys yn ystyried y cwestiwn bod  - 

    (2) Yn achos pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, oni bai fod achos wedi'i ddwyn yn ei gylch cyn dyddiad cychwyn y trefniadau AGB, y trefniadau AGB adnewyddedig neu'r trefniadau AGB diwygiedig (yn ôl y digwydd), cymerir iddi fod i bob pwrpas yn bleidlais dda a dilys.

Cadw papurau pleidleisio

     19. Rhaid i drefnydd y bleidlais gadw'r papurau pleidleisio am chwe mis ar ôl dyddiad y bleidlais ac yna, oni chyfarwyddir ef yn wahanol gan orchymyn yr Uchel Lys, eu dinistrio.



ATODLEN 3
Rheoliad 14


CADW CYFRIF REFENIW YR AGB




RHAN 1

Credydau i'r Cyfrif

     1. Am bob blwyddyn, rhaid i awdurdod bilio, y mae'n ofynnol iddo gadw Cyfrif Refeniw ar gyfer yr AGB ("y cyfrif"), gredydu i'r cyfrif hwnnw symiau sy'n cyfateb i'r eitemau a restrir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon.

Eitem 1: refeniw'r AGB

Eitem 2: incwm o wasanaethau a chyfleusterau'r AGB

Eitem 3: lleihad yn y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg neu amheus



RHAN 2

Debydau i'r Cyfrif

     2. Am bob blwyddyn, rhaid i awdurdod bilio, y mae'n ofynnol iddo gadw Cyfrif Refeniw ar gyfer yr AGB ("y cyfrif"), ddebydu i'r cyfrif hwnnw symiau sy'n cyfateb i'r eitemau a restrir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon.

Eitem 1: cost casglu ar gyfer yr AGB

Eitem 2: gwariant ar yr AGB

Eitem 3: darpariaeth ar gyfer dyledion drwg neu amheus

Y canlynol sef  - 



ATODLEN 4
Rheoliad 15


CODI, GWEINYDDU, CASGLU, ADENNILL A GWEITHREDU LEFI'R AGB


Dehongli
     1.  - (1) Yn yr Atodlen hon, y mae "cyfnod perthnasol" yng nghyswllt hysbysiad yn golygu'r cyfnod trethadwy y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo.

    (2) Pan gyfeirir yn yr Atodlen hon at y diwrnod y cyflwynir hysbysiad, cymerir iddynt fod yn gyfeiriadau  - 

    (3) Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf 1972, lle mae unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei roi neu ei gyflwyno i berson o dan yr Atodlen hon yn berthnasol i hereditament sydd (neu, lle mae hysbysiad o'r fath yn berthnasol i fwy nag un hereditament, lle mae un neu fwy ohonynt) yn lleoliad busnes y person hwnnw, gellir ei roi neu ei gyflwyno drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post ato yn y lleoliad busnes (neu, yn ôl y digwydd, yn un o'r lleoliadau busnes hynny).

    (4) Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf 1972 ac is-baragraff (3) uchod ac yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8) isod, o ran unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei roi neu ei gyflwyno gan awdurdod bilio i unrhyw berson o dan yr Atodlen hon, neu o ran unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff 3(2) yr Atodlen hon (i gael ei darparu) i unrhyw berson pan gyflwynir hysbysiad galw am dalu o fewn ystyr yr Atodlen hon  - 

    (5) At ddiben unrhyw achos cyfreithiol, bydd hysbysiad a gyflwynwyd drwy'r dull a ddisgrifir ym mharagraff (4), oni phrofir yn wahanol, yn cael ei drin i fod wedi'i gyflwyno ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl  - 

    (6) Rhaid i berson sydd wedi rhoi cyfeiriad at ddiben is-baragraff (4)(a), drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod bilio, roi gwybod i'r awdurdod bilio am unrhyw newid i'r cyfeiriad hwnnw; a bydd y newid yn cael effaith ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.

    (7) Caiff person sydd wedi rhoi cyfeiriad at ddiben is-baragraff (4)(a) dynnu'r hysbysiad hwnnw yn ôl, drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at yr awdurdod bilio; a bydd y weithred o dynnu'n ôl yn cael effaith ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.

    (8) Caiff person sydd wedi ffurfio cytundeb gyda'r awdurdod bilio o dan is-baragraff (4)(b)(i) roi gwybod i'r awdurdod, drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig ato, nad yw mwyach yn dymuno bod yn barti yn y cytundeb; a lle cyflwynir hysbysiad o'r fath, bydd y cytundeb yn cael ei ystyried i fod wedi'i ddiddymu ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.

Y gofyniad ar gyfer hysbysiadau galw am dalu
     2.  - (1) Am bob cyfnod trethadwy, rhaid i awdurdod bilio perthnasol, yn unol â pharagraffau 4 i 6, gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran trefniadau'r AGB am y cyfnod hwnnw.

    (2) Rhaid cyflwyno gwahanol hysbysiadau galw am dalu am wahanol gyfnodau trethadwy.

    (3) Rhaid cyflwyno hysbysiad galw am dalu o ran y swm sy'n daladwy am bob hereditament y mae person yn atebol i dalu lefi'r AGB mewn perthynas ag ef, er y gall un hysbysiad gyfeirio at y swm sy'n daladwy o ran mwy nag un hereditament o'r fath.

    (4) Os bydd un hysbysiad galw am dalu yn cyfeirio at y swm sy'n daladwy o ran mwy nag un hereditament, rhaid i'r symiau sy'n daladwy mewn perthynas ag ef, a'r dyddiadau y bydd y rhain yn ddyledus, gael eu penderfynu fel pe bai hysbysiadau ar wahân yn cael eu cyflwyno o ran pob hereditament.

Yr hyn a gynhwysir mewn hysbysiadau galw am dalu
     3.  - (1) Rhaid i hysbysiad galw am dalu gynnwys y materion canlynol  - 

    (2) Rhaid i awdurdod bilio, pan fydd yn cyflwyno hysbysiad galw am dalu, ddarparu'r wybodaeth ganlynol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo  - 

Hysbysiadau annilys
     4.  - (1) Os  - 

bydd y gofyniad i dalu'r symiau hyn yn gymwys fel pe bai'r hysbysiad yn un dilys.

    (2) Pan fo'r gofyniad i dalu swm o dan hysbysiad annilys yn bodoli yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i'r awdurdod bilio, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl darganfod y camgymeriad, gyflwyno i'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB dan sylw ddatganiad ynghylch pa faterion oedd heb eu cynnwys yn yr hysbysiad ac a ddylai fod wedi eu cynnwys.

Cyflwyno hysbysiadau galw am dalu
     5.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid cyflwyno hysbysiad galw am dalu ar neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl,  - 

    (2) Ceir cyflwyno hysbysiad galw am dalu cyn dechrau'r cyfnod perthnasol i berson sy'n ymddangos i'r awdurdod bilio perthnasol, ar y diwrnod y cyflwynir ef, ei fod yn dod o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a nodir yn nhrefniadau'r AGB o ran yr hereditament y mae'n berthnasol iddo; ac, os cyflwynir yr hysbysiad felly, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB, o ran yr hysbysiad hwnnw a chyn belled ag y mae'r cyd-destun yn caniatáu, i fod yn gyfeiriad at y person hwnnw.

Taliadau o dan hysbysiadau galw am dalu
     6.  - (1) Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu cyn neu yn ystod y cyfnod perthnasol ac ymddengys i'r awdurdod bilio perthnasol bod y person yn dod o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn ôl yr hyn a bennir yn nhrefniadau'r AGB o ran y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o ran yr hereditament y mae'n berthnasol iddo, bydd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n cyfateb i amcangyfrif yr awdurdod bilio perthnasol o'r swm sy'n daladwy am y cyfnod.

    (2) Wrth wneud amcangyfrif o dan is-baragraff (1), rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol dybio, o ran y cyfnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad, y bydd y person yn parhau i ddod o dan y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).

    (3) Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu yn ystod y cyfnod perthnasol ond nad yw is-baragraff (1) yn berthnasol, bydd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n cyfateb i'r swm sy'n daladwy am y cyfnod yn y cyfnod hyd at y diwrnod pan ddaeth y person ddiwethaf o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a bennir yn nhrefniadau'r AGB o ran yr hereditament dan sylw.

    (4) Os, ar ôl cyflwyno hysbysiad y mae is-baragraff (3) yn berthnasol iddo, bydd y person yn dod eto o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn ôl yr hyn a bennir yn nhrefniadau'r AGB am y cyfnod perthnasol o ran yr hereditament dan sylw, rhaid cyflwyno hysbysiad pellach sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo dalu'r swm sy'n daladwy o ran yr hereditament am y cyfnod o fewn y cyfnod perthnasol gan ddechrau gyda'r diwrnod y daeth y person o dan y disgrifiad hwnnw eto.

    (5) Pan fydd hysbysiad pellach yn cael ei gyflwyno o dan is-baragraff (4), bydd paragraffau 5 i 8 yn gymwys i'r hysbysiad pellach am y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) fel pe bai'n hysbysiad galw am dalu ac na ddaeth y person yn flaenorol o dan y disgrifiad dywededig o fod yn atebol i dalu lefi'r AGB fel a nodir yn nhrefniadau'r AGB.

    (6) Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol, rhaid iddo alw am dalu'r swm sy'n daladwy am y cyfnod.

Taliadau o dan hysbysiadau galw am dalu: darpariaeth bellach
     7.  - (1) Os na chyrhaeddir cytundeb o dan is-baragraff (3) am y cyfnod perthnasol cyn cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.

    (2) Os cyrhaeddir cytundeb o dan is-baragraff (3) o ran y cyfnod perthnasol cyn cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy yn unol â'r cytundeb hwnnw.

    (3) Caiff awdurdod bilio perthnasol a pherson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB gytuno bod amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy ac sy'n rhaid ei dalu o dan hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo yn cael ei dalu drwy ddull a ddarperir ar ei gyfer o dan y cytundeb.

    (4) Er gwaethaf unrhyw beth yn narpariaethau blaenorol y paragraff hwn, caniateir ffurfio cytundeb o'r fath naill ai cyn neu ar ôl cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu dan sylw, a chaniateir darparu ar gyfer rhoi'r gorau i'r taliadau neu eu haddasu, ac ar gyfer gwneud amcangyfrifon o'r newydd, os bydd yr amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff 6(1) yn digwydd â bod yn anghywir; ac os ffurfiwyd y cytundeb ar ôl cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, caiff ddarparu at ddiben y cytundeb ar gyfer delio gydag unrhyw symiau a dalwyd cyn ei ffurfio.

    (5) Rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(3) neu (5) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n daladwy pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.

    (6) Nid oes yn rhaid i berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB wneud unrhyw daliad o'r swm sy'n daladwy o ran hereditament am unrhyw gyfnod trethadwy os na chyflwynir hysbysiad o dan yr Atodlen hon yn ei gwneud yn ofynnol.

Hysbysiadau galw am dalu: addasiad terfynol
     8.  - (1) Y mae'r paragraff hwn yn berthnasol  - 

    (2) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cyfnod neu ran o'r cyfnod ddod i ben, gyflwyno hysbysiad pellach i'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn nodi'r swm sy'n daladwy am y cyfnod neu ran ohono yng nghyswllt yr hereditament, gan addasu (drwy gyfeirio at y swm hwnnw) y symiau sy'n daladwy o dan yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).

    (3) Os yw'r swm a nodir yn yr hysbysiad pellach yn fwy na'r swm sy'n ofynnol i'w dalu o dan yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a), bydd y gwahaniaeth, na wneir darpariaeth arall fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) ar ei gyfer, yn daladwy gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB i'r awdurdod bilio perthnasol pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.

    (4) Os gwnaed gor-daliad o ran unrhyw atebolrwydd gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o dan yr Atodlen hon, rhaid i swm y gor-daliad, na wneir darpariaeth arall fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) ar ei gyfer,  - 

Gorfodi
     9. Bydd Rhan III o ac Atodlenni 2 i 4 o Reoliadau 1989 yn gymwys o ran gorfodi lefi'r AGB gyda'r diwygiadau canlynol  - 

Atebolrwydd heb ei dalu ar adeg marwolaeth
     10.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw person yn marw ac os oedd (neu yr honnwyd ei fod) ar unrhyw adeg cyn ei farwolaeth yn atebol i dalu lefi'r AGB.

    (2) Os  - 

bydd ei ysgutor neu weinyddwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) ac i'r graddau nad yw'n fwy na'r swm sy'n daladwy gan yr ymadawedig (gan gynnwys costau perthnasol sy'n daladwy ganddo) o ran lefi'r AGB, yn atebol i dalu'r swm a gall dynnu unrhyw daliadau a wnaed (neu sydd i'w gwneud) o asedau ac eiddo personol yr ymadawedig.

    (3) Pan fo is-baragraff (2)(b) yn berthnasol, ni fydd atebolrwydd yr ysgutor neu'r gweinyddwr yn codi hyd nes y cyflwynir hysbysiad iddynt yn ei gwneud yn ofynnol iddynt dalu'r swm.

    (4) Pan fydd swm, cyn marwolaeth yr ymadawedig, sy'n fwy na'i atebolrwydd (gan gynnwys costau perthnasol sy'n daladwy ganddo) o ran lefi'r AGB wedi'i dalu (p'un ai yw'r gor-daliad yn codi oherwydd ei farwolaeth neu beidio) a heb ei ad-dalu neu ei gredydu o dan yr Atodlen hon, bydd gan ei ysgutor neu ei weinyddwr hawl i'r swm hwnnw.

    (5) Y mae costau yn gostau perthnasol i bwrpas is-baragraffau (2) a (4) os  - 

    (6) Bydd swm yn daladwy o dan is-baragraff (2) yn orfodadwy o ran gweinyddu ystad yr ymadawedig fel dyled gan yr ymadawedig, ac, felly  - 

    (7) Y mae rheoliad 23(1) a (2) o Reoliadau 1989 yn gymwys i achosion i orfodi atebolrwydd sy'n codi o dan y paragraff hwn fel ag y mae'n berthnasol i achosion eraill o dan yr Atodlen hon.

    (8) Cyn belled ag y bo'n berthnasol i'w hatebolrwydd o dan y paragraff hwn o ran gweinyddu ystad yr ymadawedig, gall yr ysgutor neu'r gweinyddwr gychwyn, parhau neu dynnu achos yn ôl.

Cymhwyso darpariaethau gweinyddu'r AGB i'r Goron
     11.  - (1) Os bydd y Goron yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth o dan yr Atodlen hon, ni fydd y Goron yn droseddol atebol, ond gall yr Uchel Lys, ar gais awdurdod bilio, ddatgan bod unrhyw weithred neu hepgoriad gan y Goron sy'n dramgwydd o'r fath yn anghyfreithlon.

    (2) Er gwaethaf unrhyw beth yn is-baragraff (1), bydd darpariaethau'r Atodlen hon yn berthnasol i'r Goron fel ag i bersonau eraill.

    (3) Ni cheir arfer unrhyw hawl mynediad a roddir o dan yr Atodlen hon o ran unrhyw hereditament a feddiannir neu, os na feddiannir, a berchenogir gan Ei Mawrhydi yn breifat, a dehonglir yr is-baragraff hwn fel pe bai adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn Erbyn y Goron 1947[
12] wedi'i chynnwys yn yr Atodlen hon.

Cyd-ddeiliaid a chyd-berchenogion: bilio
     12.  - (1) Y mae'r paragraff hwn yn berthnasol mewn achos lle byddai (ar wahân i'r paragraff hwn) mwy nag un person, ar unrhyw adeg, yn atebol i dalu lefi'r AGB o ran hereditament neu ran o hereditament o'r fath.

    (2) Pan fydd y paragraff hwn yn berthnasol  - 

    (3) Bydd yr Atodlen hon yn berthnasol yn unol ag is-baragraff (2); ac yn enwedig, gellir cyflwyno hysbysiad sy'n dod o dan yr Atodlen hon ac sydd o ran cyfnod lle mae paragraff (2)(b) yn berthnasol  - 

    (4) Caniateir cyflwyno hysbysiad i bartneriaeth neu ymddiriedolaeth o dan baragraff (3)(b)  - 

os oes angen cyflwyno hysbysiad o'r fath i bartneriaeth, person sydd â rheolaeth dros neu sy'n gyfrifol am reoli busnes y bartneriaeth neu ymddiriedolaeth o dan y paragraff hwn, bydd cyfeiriad priodol y bartneriaeth, y person neu'r ymddiriedolaeth (yn ôl y digwydd) yn cynnwys (yn ogystal â'r cyfeiriad y cyfeirir ato yn adran 233(4) o Ddeddf 1972) unrhyw leoliad busnes sy'n hereditament y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo.

    (5) Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (3)(a) i fwy nag un person am yr un swm, rhaid i'r awdurdod bilio hysbysu pob person y cyflwynir hysbysiad iddo ynghylch hynny.

    (6) Pan fydd hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (3)(a) i berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn cyfeirio at amser yn y flwyddyn dan sylw pan fydd paragraff (2)(a) yn berthnasol ac at amser pan fydd paragraff (2)(b) yn berthnasol, bydd unrhyw daliad a wneir gan y person o dan yr hysbysiad yn cael ei drin fel taliad yn erbyn y swm y mae'r person hwnnw yn unigol gyfrifol amdano oni bai a hyd nes y rhyddheir ei atebolrwydd i dalu'r swm hwnnw.

    (7) At ddiben unrhyw amser y mae paragraff (2)(b) yn gymwys iddo, os yw'r disgrifiad o'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn gofyn bod y trethdalwr yn elusen neu'n ymddiriedolwr ar gyfer elusen, ystyrir y gofyniad hwn i fod wedi'i gyflawni os yw un neu fwy o'r personau sy'n atebol ar y cyd ac yn unigol yn elusen, neu (yn ôl y digwydd) os yw rhai neu bob un ohonynt yn ymddiriedolwyr ar gyfer elusen.

    (8) Pan fydd yn rhaid i unrhyw swm a dalwyd o ran swm a gyfrifiwyd drwy gyfeirio at baragraff (2)(b) gael ei ad-dalu, gellir ei ad-dalu i unrhyw berson y gwêl yr awdurdod bilio yn briodol.

    (9) Nid yw paragraffau (2)(b) ac (8) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl neu ddyletswydd o dan y gyfraith neu o dan gyfraith ecwiti (boed o dan delerau unrhyw ymddiriedolaethau y delir yr hereditament oddi tanynt neu fel arall) os yw'r hawl honno neu'r ddyletswydd honno'n perthyn i berchennog neu i feddiannydd sydd wedi gwneud taliad neu sy'n cael ad-daliad mewn cysylltiad â rhwymedigaeth o dan baragraff 2(b) i adennill y cyfan neu ran o'r taliad oddi wrth y perchenogion neu'r meddianwyr eraill, neu oddi wrth unrhyw fuddiolwyr sydd â buddiant yn yr hereditament, neu mewn cysylltiad â rhwymedigaeth i roi cyfrif i'r rhain am y cyfan neu am ran o'r ad-daliad; ond i'r graddau nad oes hawl neu ddyletswydd o'r fath yn bodoli mewn unrhyw achos penodol (ac nad yw'r perchennog ei hun neu'r meddiannydd ei hun, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o'r fath o dan y gyfraith neu o dan gyfraith ecwiti, yn rhwym o ysgwyddo'r baich o wneud y taliad neu nad oes gan y perchennog neu'r meddiannydd hawl i gael mantais o'r taliad neu'r cyfraniad), bydd taliadau o'r fath, a fydd yn sicrhau y bydd baich y taliad neu fantais yr ad-daliad mewn cysylltiad â rhwymedigaeth o dan baragraff (2)(b) yn dod iddynt mewn cyfrannau cyfartal, yn ddyledus rhwng y perchenogion neu'r meddianwyr (yn ôl y digwydd).

Cyd-ddeiliaid a chyd-berchenogion: gorfodi
     13.  - (1) Bydd Rhan 3 o ac Atodlenni 2 i 4 i Reoliadau 1989 yn cael effaith, gyda'r diwygiadau canlynol, yn achos adennill swm y mae personau yn atebol i'w dalu o dan adran 46 y Ddeddf fel a bennir ym mharagraff 12.

    (2) Rhaid cyflwyno hysbysiad atgoffa yn unol â rheoliad 11(1) a (2) o Reoliadau 1989 i bob person y gwneir cais am orchymyn atebolrwydd yn ei gylch.

    (3) Y mae paragraff 12(3) i (6) yn gymwys i hysbysiad atgoffa fel ag y mae'n gymwys i hysbysiad o dan yr Atodlen hon.

    (4) Caniateir gwneud cais am orchymyn atebolrwydd a'i weithredu yn erbyn un neu fwy o'r personau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran swm y mae paragraff 12(2)(b) yn gymwys iddo, p'un ai y cyflwynwyd hysbysiad iddynt o ran y swm yn unigol neu ar y cyd.

    (5) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm, yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), caniateir cymryd camau atafaelu yn erbyn un neu fwy ohonynt.

    (6) Pan fydd camau atafaelu wedi cael eu cymryd yn erbyn mwy nag un person o ran swm, caniateir gwneud cais am warant draddodi ar unrhyw adeg yn erbyn un ohonynt, neu caniateir gwneud cais am wahanol warantau yn erbyn mwy nag un ohonynt.

    (7) Pan fydd camau atafaelu wedi cael eu cymryd yn erbyn un person yn unig, caniateir gwneud cais am warant draddodi yn ei erbyn.

    (8) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person mewn perthynas â swm, a chyflwynir gwarant draddodi yn erbyn (neu os yw cyfnod o garchar wedi'i bennu yn achos) un ohonynt o dan reoliad 16(3) o Reoliadau 1989, ni chaniateir cymryd unrhyw gamau, na chamau pellach ychwaith, yn erbyn unrhyw un ohonynt drwy atafaelu, methdaliad neu ddirwyn i ben o ran y swm y cyfeirir ato yn rheoliad 16(4) o Reoliadau 1989.

    (9) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm  - 

    (10) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm ac, wrth gymryd camau atafaelu yn erbyn un ohonynt, darganfyddir nwyddau a berchenogir ar y cyd rhwng y person hwnnw a pherson arall, nid yw is-baragraff (9)(b) yn atal atafaelu'r nwyddau hynny am y swm dan sylw; ond mewn unrhyw achos a gynhelir wedyn o dan reoliad 16 o Reoliadau 1989, rhaid trin taliadau yn codi o dan Atodiad 3 o Reoliadau 1989 o atafaelu'r nwyddau fel taliadau mewn perthynas â'r person y bwriadwyd codi'r lefi yn erbyn ei nwyddau pan ddarganfuwyd y nwyddau ar y cyd, ac nid fel taliadau mewn perthynas â'r person arall.

    (11) Pan fydd  - 

ni chaniateir ychwanegu tâl pellach i bwrpas rheoliad 14(2) o Reoliadau 1989 o dan y pennawd hwnnw neu bennawd A yn y Tabl hwnnw o ganlyniad i unrhyw lefi a godir wedyn neu yr ymdrechir ei chodi yn erbyn unrhyw un ohonynt o ran y swm hwnnw; a rhaid ystyried tâl o dan bennawd A(i) neu daliadau o dan y pennawd hwnnw a phennawd A(ii) yn erbyn un ohonynt at y diben hwnnw fel tâl neu, yn ôl y digwydd, fel taliadau o dan y pennawd hwnnw yng nghyswllt y rhai eraill yn ogystal â hwnnw.

    (12) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn un person o ran swm, a hefyd yn erbyn person arall neu bersonau eraill (p'un ai ar yr un pryd â'r gorchymyn yn erbyn y person cyntaf neu wedyn, a ph'un ai am y swm cyfan neu ran ohono)  - 

    (13) At ddiben is-baragraff (12), y person perthnasol yw'r person y gwnaed y gorchymyn atebolrwydd mewn perthynas â'r swm yn ei erbyn gyntaf neu, os oes mwy nag un person o'r fath, y rhai y mae'r llys yn ystyried i fod yn briodol.

    (14) Nid yw is-baragraff (12) i gael ei ddehongli i ganiatáu awdurdod bilio i wneud cais o dan reoliad 12(2) o Reoliadau 1989 am orchymyn atebolrwydd yn erbyn person o ran costau'n unig ar ôl i orchymyn gael ei wneud am y costau hynny yn erbyn person arall.

Gorfodi yng nghyswllt partneriaethau
     14.  - (1) Pan fydd personau yn atebol i dalu swm fel partneriaid o dan baragraff 12(2)(b) o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 12(3)(b), ceir gwneud cais am orchymyn atebolrwydd o ran y swm a'i gyflwyno iddynt yn enw eu busnes, a bydd grym gorchymyn o'r fath yr un fel pe bai gorchmynion wedi eu gwneud yn erbyn pob partner yng nghyswllt eu hatebolrwydd am y swm hwnnw.

    (2) Os gwneir gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes o ran y swm ac ni wnaed gorchymyn blaenorol yn erbyn person arall o ran y swm, dehonglir cyfeiriadau ym mharagraff 13(12) at y person perthnasol fel cyfeiriadau at y bartneriaeth.

    (3) Heb ragfarn i reoliad 13(2) o Reoliadau 1989 gellir cyflwyno gwŷs o dan gais am orchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post at y bartneriaeth ym mhrif swyddfa'r bartneriaeth.

    (4) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes o ran swm, nid yw paragraff 13(9)(b) yn atal atafaelu eiddo'r bartneriaeth am y swm hwnnw; ac mewn unrhyw achos cyfreithiol wedyn o dan reoliad 16 o Reoliadau 1989, rhaid ystyried y partneriaid i fod yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu unrhyw gostau o dan Atodlen 3 o'r rheoliadau hynny sy'n codi o'r atafaelu.

    (5) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes, bydd rheoliad 18(2) o Reoliadau 1989 yn cael effaith fel pe bai cyfeiriad at gwmni yn cynnwys cyfeiriad at y bartneriaeth ac fel pe bai cyfeiriad at adran 221(5)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986[13]  - 

    (6) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes, nid yw paragraff 13(9)(a) yn atal dwyn achos ansolfedd yn erbyn y bartneriaeth yn ogystal ag yn erbyn aelodau o'r bartneriaeth, a'r achos hwnnw yn cael ei drin yn unol â Gorchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau o ran ardaloedd gwella busnes (AGB). Darperir ar gyfer AGB yn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fel ardaloedd lle bydd prosiectau a bennir o dan drefniadau AGB i'w cyflawni er budd yr ardal honno neu'r personau sy'n byw, gweithio neu'n cynnal unrhyw weithgaredd yn yr ardal. Bydd y prosiectau hyn yn cael eu hariannu (yn llwyr neu'n rhannol) gan lefi'r AGB a godir ar drethdalwyr annomestig, neu ar gategori o'r trethdalwyr hyn yn yr ardal. Ni chaniateir sefydlu AGB ond lle mae'r personau sydd â hawl i bleidleisio yn cymeradwyo'r cynigion AGB.

Mae rheoliad 2 yn darparu i'r awdurdod bilio ddarparu gwybodaeth o'i gofnodion ardrethi annomestig i rai sy'n datblygu'r cynigion AGB. Gall awdurdodau godi tâl am ddarparu'r wybodaeth hon.

Mae rheoliad 3 yn pennu pwy sydd â hawl i lunio'r cynigion AGB ac, yn rheoliadau 4 a 5, pennir y gweithdrefnau sydd i'w dilyn o ran llunio'r cynigion AGB, gyda'r materion sydd i'w cynnwys ynddynt wedi eu pennu yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 6 yn darparu mai'r swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau lleol yn ardal yr awdurdod bilio yw trefnydd y bleidlais ar gyfer unrhyw bleidlais a gynhelir ar gyfer Ardaloedd Gwella Busnes fel sy'n ofynnol o dan y Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn, ac, o dan reoliad 7 ac Atodlen 2, darperir ar gyfer trefniadau i gynnal pleidlais a gweithredu pleidlais. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth o ran pwy sy'n cael pleidleisio mewn pleidlais.

Mae rheoliad 9, yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan bod pleidlais yn annilys mewn achosion o anghysondeb sylweddol a gweithdrefnau cysylltiedig.

Mae rheoliad 10 yn galluogi awdurdod bilio i adennill costau pleidlais AGB neu bleidlais adnewyddu gan gynigydd yr AGB neu gorff AGB o dan yr amgylchiadau rhagnodedig.

Mae rheoliad 11 yn darparu y gall yr awdurdod bilio ddarparu gwybodaeth o'i gofnodion ardrethi annomestig at ddiben canfasio ar gyfer pleidlais. Caiff awdurdodau godi tâl am ddarparu'r wybodaeth hon. Darperir hefyd ar gyfer archwilio'r wybodaeth gan unrhyw berson a chyfyngu'r defnydd a wneir o'r wybodaeth.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y caiff awdurdod bilio atal cynigion yr AGB drwy feto, o fewn pa gyfnod y caiff wneud hyn a materion y mae'n rhaid i'r awdurdod eu hystyried wrth benderfynu a fydd yn ymarfer ei hawl feto. Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth o ran apeliadau yn erbyn arfer feto.

Mae rheoliad 14 ac Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach o ran Cyfrif Refeniw'r AGB.

Mae rheoliad 15 ac Atodlen 4, yn darparu ynghylch codi, gweinyddu, casglu, adennill a gweithredu lefi'r AGB. Mae'r darpariaethau yn Atodlen 4 yn seiliedig ar y rheolau ar gyfer ardrethi annomestig yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 (O.S. 1989/1058) ac yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (O.S. 1990/145).

Darperir hefyd ar gyfer diwygio trefniadau'r AGB heb neu gyda phleidlais (rheoliadau 16 a 17 am y naill a'r llall) ynghyd ag o dan ba amgylchiadau y ceir terfynu trefniadau'r AGB (rheoliad 18).

Yn rheoliad 19, darperir bod yr awdurdod bilio yn cyflenwi gwybodaeth i weithredwr y bleidlais i bwrpas cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau. Yn rheoliad 20, darperir bod yr awdurdod bilio yn talu treuliau trefnydd y bleidlais o ran cynnal pleidleisiau o dan y rheoliadau.

O dan rheoliad 21, darperir ar gyfer cyflwyno hysbysiadau etc yn electronig. Nid yw'r ddarpariaeth hon yn berthnasol i hysbysiadau o dan Atodlen 4 am fod yr Atodlen honno yn darparu'n benodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau galw am dalu etc yn electronig.


Notes:

[1] 2003 p.26. Gweler adran 59(1) am y diffiniad o "prescribed".back

[2] 1989 p.42.back

[3] 1984 p.12.back

[4] 1972 p.70.back

[5] 1988 p.41.back

[6] 1971 p.80.back

[7] O.S. 1989/1060; gwneir y diwygiadau perthnasol o dan O.S. 1993/616.back

[8] O.S. 1989/1058; gwneir y diwygiadau o dan O.S. 1990/145, 1991/141, 1991/1127, 1992/1512, 1993/774, 1993/894, 1993/1493, 1995/212, 1998/3089 a 2003/1714.back

[9] 1983 p.2.back

[10] 1998 p.38back

[11] 2000 p.26.back

[12] 1947 p.44.back

[13] 1986 p.45.back

[14] O.S. 1994/2421; gwnaed y diwygiadau perthnasol gan O.S. 2002/1308.back



English version



ISBN 0 11 091128 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 18 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051312w.html