BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 1648 (Cy.129)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051648w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1648 (Cy.129)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'i wneud 21 Mehefin 2005 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2005 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005 ac fe ddaw i rym ar 30 Mehefin 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004
    
2. Ychwaneger at y rhestr o gyrff yn Adran 1, Rhan I o'r Atodlen i Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004[3] y cyrff canlynol (yn eu lle priodol yn ôl trefn yr wyddor), sef cyrff sy'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn dod o dan adran 216(3) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988:

    (1) Kensington College of Business;

    (2) London City College;

    (3) School of Technology and Management[4].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu tri chorff at y cyrff sy'n cael eu rhestru yn Adran 1, Rhan 1 o'r Atodlen i Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004. Nid yw corff sy'n cael ei restru felly yn gorff cydnabyddedig o fewn adran 216(4) o Ddeddf Diwygio Addysg 1998 ond yn un y mae'n ymdddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei fod naill ai

Ystyr "cyrff cydnabyddedig" yw prifysgolion, colegau neu gyrff eraill a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Seneddol i roi graddau a chyrff eraill a ganiateir am y tro gan y cyrff hynny i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau.


Notes:

[1] 1988 p.40.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2004/3095 (Cy.269).back

[4] Is-adran o London School of Commerce.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091156 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 28 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051648w.html